Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig ystod o weithdai pwrpasol hanner diwrnod a diwrnod llawn ar gyfer disgyblion cynradd.
Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio i ddarparu cyfres o heriau i ddisgyblion cynradd. Mae'r gweithgareddau wedi'u dylunio fel y gellir eu defnyddio hefyd fel gweithgareddau diwrnod pontio.
Mae'r heriau wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu, gweithio mewn tîm ac annog chwilfrydedd disgyblion i ddarganfod sut a pham mae pethau'n gweithio. Yn ystod pob her, bydd y disgyblion yn datblygu eu medrau datrys problemau, cyfathrebu ac arloesi.
Gall disgyblion cynradd sy'n cwblhau'r gweithgareddau ymestyn ychwanegol hefyd gofrestru am Wobr CREST Darganfod.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chost darparu gweithdai ac argaeledd, cysylltwch â ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk. Darperir yr holl ddeunyddiau ac adnoddau.
Trwy'r gweithgaredd hwn, bydd y disgyblion yn ymchwilio i ddefnydd trydan a sut i'w reoli mewn cylchedau syml, yn ymchwilio i lif trydan, ac yn cydnabod y gall grymoedd effeithio ar symudiad a mesur cyflymder. Bydd y disgyblion yn adeiladu 'anifail' sydd yn cael ei bweru gan drydan. Mae'r grwpiau yn profi eu 'anifail' ac yn addasu eu dyluniadau er mwyn iddo deithio'n gyflym dros y trac. Mae'r gweithgaredd yn caniatáu i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu.
Yn y gweithgaredd hwn, bydd disgyblion yn dysgu sut y gall grymoedd effeithio ar symudiad a sut mae ffrithiant a disgyrchiant yn effeithio ar wrthrychau sy'n cael eu symyd. Byddant yn adeiladu gorsaf ofod (Gorsaf Ofod Rhyngwladol) gyda drws neu ddrysau y gellir eu hagor a'u cau o bell. Mae'r gweithgaredd yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu eu gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu.
Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu disgyblion i ddysgu sut mae ffrithiant a disgyrchiant yn effeithio ar wrthrychau sydd yn disgyn. Bydd y disgyblion yn adeiladu rhedfa farblen ac yn arbrofi lle i osod troeadau a llethrau i gwrdd â'r her. Mae'r gweithgaredd yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu trwy ddylunio'r rhedfa farblen arafaf.
Mae'r Her Tomato wedi'i Wasgu yn Her STEM â gynlluniwyd gan 'Practical Action' lle mae disgyblion yn dylunio ac yn adeiladu model i symud tomatos i lawr mynydd. Yn Nepal mae llawer o ffermwyr sy'n byw ar ochr y mynydd yn tyfu ffrwythau a llysiau, gan gynnwys tomatos. Er mwyn ennill bywoliaeth mae angen iddynt werthu'r rhain yn y farchnad leol.
Y broblem yw fod cyrraedd y farchnad yn golygu cerdded pellter hir, peryglus i lawr ochr y mynydd a thros afon, ac ar y diwedd mae'n bosib y bydd y tomatos yn cael eu gwasgu ychydig. Gofynnir i'r disgyblion ddylunio, adeiladu a phrofi ffordd o symud tomatos fel na fyddant yn eu gwasgu!
Addas i ddisgyblion 7-11 oed.
Achredir y gweithgaredd hwn gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain a gellir ei ddefnyddio i ennill Gwobr Darganfod CREST.
Mae 'Stop the Spread' yn Her STEM a gynlluniwyd gan Practical Action. Mae'r her yn gofyn i ddisgyblion 7-11 oed ymchwilio i glefydau heintus, ac yna dylunio ac adeiladu model o ddyfais golchi dwylo ar gyfer ysgol gynradd yn Kenya. Mae afiechydon heintus yn broblem fyd-eang ac yn achosi miliynau o farwolaethau bob blwyddyn.
Achredir y gweithgaredd hwn gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain a gellir ei ddefnyddio i ennill Gwobr Darganfod CREST.
Mae Gweld Gwyddoniaeth wedi datblygu gweithdy newydd Cemeg yn yr Ystafell Ddosbarth Cynradd, â ariennir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
Mae'r gweithdy CA2 yn cynnwys pedwar gweithgaredd ymarferol y mae disgyblion yn ymgymryd â nhw mewn grwpiau, pob un yn gysylltiedig â rôl fcemeg yn y byd-go iawn.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys profion pH ac adnabod powdr gwyn anhysbys tra fod cemeg â gwmpesir yn ystod y sesiwn yn amrywio o Gemeg Amgylcheddol i Gemeg Fforensig a hyd yn oed gweithgynhyrchu polymerau.
Mae'r 4 gweithgaredd wedi bod yn boblogaidd gyda'r disgyblion a'r athrawon, ond y ffefryn ymhlith y plant yw gwneud eu sleim eu hunain.
Roedd adborth gan athrawon yn cynnwys:
Nododd disgyblion:
Mae Llaeth a Mwy yn weithdy newydd a ddatblygwyd gan Gweld Gwyddoniaeth ac mae wedi'i ariannu trwy Grant Allgymorth Gwyddonol y Gymdeithas Fiocemegol sy'n cyflwyno gwyddoniaeth biocemegol ar gyfer cynulleidfaoedd CA2 / 3. Mae'n cynnwys 4 gweithgareddau llaeth ymarferol gwahanol, yn ogystal â rhai syniadau o arbrofion eraill sy'n gysylltiedig â bwyd, sy'n addas i'w defnyddio o fewn amser gwersi neu fel gweithgareddau Clwb STEM.
Mae'r gweithdy bywiog hwn yn seiliedig ar adnoddau o weithgareddau'r RAF 100 sy'n edrych ar y ffiseg y tu ôl i hedfan – cyfle i archwilio hanes y 100 mlynedd diwethaf o hedfan sy'n cynnwys: cynllunio gleider, datrys y cod, gweithgaredd rhyddhau y parsel. Addas i ddisgyblion 7-11 oed.
Rhowch gynnig ar 10 o weithgareddau byr gwahanol gan ddefnyddio deunyddiau syml ac archwiliwch y gwyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw o utgorn gwelltyn i synnau uchel – o greu hydoddiant i sleim – gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt. Gweithdy ymarferol, yn llawn dychymyg gyda digon i'w wneud a'i drafod.