Ysgolion a grwpiau eraill

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cefnogi darpariaeth STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ledled Cymru i bob ysgol, coleg addysg bellach, sefydliad addysg uwch a grwpiau cymunedol.

Image

Llysgenhadon STEM

Mae'r rhaglen Llysgenhadon STEM yn adnodd pwerus AM DDIM sydd wedi'i gynllunio i ysbrydoli pobl ifanc am bynciau STEM a gyrfaoedd STEM.

Gweld Gwyddoniaeth sydd yn cydlynu'r rhaglen a ni yw’r Partner Llysgenhadon STEM Cymru.

Darganfyddwch yma sut i ddod o hyd i Lysgenhadon STEM a all gael effaith gadarnhaol a bod o fudd i'ch ystafell ddosbarth.

Cylchlythyrau Gweld Gwyddoniaeth i ysgolion a cholegau

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn anfon cylchlythyrau e-bost rheolaidd i'ch hysbysu am ddigwyddiadau, datblygiadau a mentrau sy'n gysylltiedig â darparu STEM ledled Cymru.

Clybiau STEM

Mae Clybiau STEM yn ffordd bwerus a difyr dros ben i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn pynciau STEM.

Image

Gallant fod yn hwyl ac yn foddhaol i fyfyrwyr ac arweinwyr clwb, a chael effaith gadarnhaol ar yr ysgol.

Gweithdai i ysgolion

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig ystod o weithdai pwrpasol hanner diwrnod a diwrnod llawn.

Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio i ddarparu cyfres o heriau i'r disgyblion.

Image

Dyluniwyd y gweithgareddau fel y gellir eu defnyddio hefyd fel gweithgareddau diwrnod pontio.

Mae'r heriau wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu, gweithio mewn tîm ac annog chwilfrydedd disgyblion i ddarganfod sut a pham mae pethau'n gweithio. Yn ystod pob her bydd disgyblion yn datblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu ac arloesi.

Llyfrgell adnoddau STEM

Mae gan Gweld Gwyddoniaeth lawer o adnoddau ar gael i gyfoethogi a gwella'r ddarpariaeth STEM yn eich ysgol.

Dilynwch y ddolen i gael rhestrau cynhwysfawr o adnoddau cyfoes ynghyd â darparwyr allanol sy'n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau sy'n gysylltiedig â STEM.

Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu

CREST

Mae CREST yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n ysbrydoli pobl ifanc i feddwl ac ymddwyn fel gwyddonwyr a pheirianwyr trwy waith prosiect dan arweiniad myfyrwyr yn y pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Gweld Gwyddoniaeth yw Sefydliad Cymorth Rhanbarthol CREST (RCSO) Cymru. Rydym yn darparu arweiniad arbenigol trwy gydol y broses Gwobrau CREST.

  • Mwy a y Gwobrau CREST yma
  • Darllenwch astudiaethau achos am ysgolion sydd wedi elwa o ymgysylltu â CREST yma.