Prosiectau cyfredol

Fi yn Beiriannydd – IET

IET logoMae Gweld Gwyddoniaeth wedi sicrhau cyllid i ddarparu hyfforddiant DPP am ddim ar gyfer athrawon a gweithdai ar gyfer disgyblion cynradd ledled Cymru.

Bydd Gweld Gwyddoniaeth yn dylunio a datblygu 3 gweithdy dwyieithog gwahanol sy'n canolbwyntio ar dri phwnc peirianyddol sydd naill ai wedi cael effaith ar Gymru neu'n allweddol i ddyfodol Cymru.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am glystyrau o ysgolion cynradd sy'n awyddus i dderbyn y DPP a gweithdai ac yna ymgysylltu â Llysgenhadon STEM yn yr ardal leol.

Anogir pob clwstwr i gynnal "Digwyddiad Dathlu" lle gwahoddir pob ysgol yn y clwstwr i fynychu a chyflwyno eu tystiolaeth i ddisgyblion eraill, Llysgenhadon STEM, llywodraethwyr a rhieni.

Mae gyrfaoedd mewn peirianneg yn rhan hanfodol o'r rhaglen, a bydd yn cael ei gynnwys ym mhob un o'r tri gweithdy. Bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddysgu am ystod o wahanol yrfaoedd peirianneg a chyfarfod peiriannydd yn yr ysgol. Bydd y math o waith y mae y peiriannwr yn ei wneud yn cael ei arddangos trwy gymryd rhan mewn gweithdy ymarferol yn ystod y gweithgaredd hanner diwrnod – o adeiladu pontydd i ddylunio blancedi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.


RSC Cemeg yn y Gymuned

RSC logoBydd Cemeg yn y Gymuned yn weithdy cemeg un awr AM DDIM y gellir ei gyflwyno i grwpiau cymunedol ledled Cymru yn ddwyieithog. Bydd Llysgenhadon STEM ac Aelodau RSC yn cael eu hannog i gefnogi a chyflwyno'r gweithdy a fydd yn darparu gweithgareddau cyfoethogi.

Bydd y gweithdy yn cynnwys cyfres o dri her fer y bydd disgyblion yn ymgymryd â hwy fel carwsel yn ogystal â chyflwyniad byr. Bydd dewis o bedwar gweithdy yn cael ei baratoi i gyd a fydd yn addas ar gyfer grwpiau oedran gwahanol yn ogystal â grŵp anghenion arbennig.

Ar ôl y gweithdy, darperir gweithgaredd dilynol fel y bydd y disgyblion yn gallu cwblhau Gwobr CREST neu weithgareddau CREST Seren os ydynt yn dymuno. Darperir rhagor o wybodaeth i arweinydd y grŵp fel y bydd yr ymweliad hefyd yn annog yr arweinydd a phobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau cemeg pellach ar lefel leol.

Os hoffech chi archebu gweithdy cysylltwch â ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.


Cemeg yn yr Ystafell Ddosbarth Gynradd

RSC logoMae'r gweithdy CA2 yn cynnwys pedwar gweithgaredd ymarferol y mae disgyblion yn ymgymryd â nhw mewn grwpiau, pob un yn gysylltiedig â rôl fcemeg yn y byd-go iawn.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys profion pH ac adnabod powdr gwyn anhysbys tra fod cemeg â gwmpesir yn ystod y sesiwn yn amrywio o Gemeg Amgylcheddol i Gemeg Fforensig a hyd yn oed gweithgynhyrchu polymerau.

Mae'r 4 gweithgaredd wedi bod yn boblogaidd gyda'r disgyblion a'r athrawon, ond y ffefryn ymhlith y plant yw gwneud eu sleim eu hunain.

Roedd adborth gan athrawon yn cynnwys:

  • "Amrywiaeth gwych o weithgareddau – yr oedd pob disgybl yn mwynhau cymryd rhan ynddynt."
  • "Rydym wedi edrych ar ymdoddi yn y dosbarth o'r blaen ac roedd yn dda clywed y disgyblion yn defnyddio'r derminoleg a ddysgwyd ganddynt wrth weithio ar yr ymchwiliad arbennig hwn."
  • "Roedd y gweithdy yn cadw pob un disgybl yn brysur gyda phawb yn cymryd rhan drwy'r ddwy awr. Diolch!"

Nododd disgyblion:

  • "Fy hoff ran oedd y sleim ond roedd yn ddiddorol gweld pa bowdr gwyn oedd yn ymdoddi mewn dŵr ac yna mewn finegr."
  • "Roedd gweld lliw y papur pH yn newid yn wych!"