Gweithdai i grwpiau cymunedol

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig amrywiaeth o weithdai pwrpasol ar gyfer grwpiau cymunedol sy'n amrywio o 60-120 munud i heriau'r diwrnod cyfan.

Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio i ddarparu cyfres o heriau i grwpiau.

Mae'r heriau wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu, gweithio mewn tîm ac annog chwilfrydedd disgyblion i ddarganfod sut a pham mae pethau'n gweithio. Yn ystod pob her, bydd y disgyblion yn datblygu eu medrau datrys problemau, cyfathrebu ac arloesi.

Gall pobl ifanc sy'n cwblhau'r gweithgareddau estyn ychwanegol hefyd gofrestru am Wobr Darganfod CREST.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chost darparu gweithdai ac argaeledd, cysylltwch â ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk. Darperir yr holl ddeunyddiau ac adnoddau.

RSC Cemeg Cymunedol

Mae Cemeg Gymunedol yn weithdy Cemeg un awr AM DDIM y gellir ei gyflwyno i grwpiau cymunedol ledled Cymru yn ddwyieithog. Bydd Llysgenhadon STEM ac Aelodau RSC yn cael eu hannog i gefnogi a chyflwyno'r gweithdy a fydd yn darparu gweithgareddau cyfoethog.

Bydd y gweithdy yn cynnwys cyfres o dri her fer y bydd disgyblion yn ymgymryd â hwy fel carwsel yn ogystal â chyflwyniad byr.

Bydd dewis o 4 gweithdy yn cael ei baratoi a fydd yn addas ar gyfer grwpiau oedran gwahanol yn ogystal â grŵp anghenion arbennig.

Ar ôl y gweithdy, darperir gweithgareddau dilynol fel y bydd y disgyblion yn gallu cwblhau Gwobr CREST neu weithgareddau CREST Seren os ydynt yn dymuno. Darperir rhagor o wybodaeth i arweinydd y grŵp fel y bydd yr ymweliad hefyd yn annog yr arweinydd a phobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau cemeg pellach ar lefel leol.

Os hoffech chi archebu gweithdy cysylltwch â ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.

Y Sialens Drydan

Trwy'r gweithgaredd hwn, bydd y disgyblion yn ymchwilio i ddefnydd trydan a sut i'w reoli mewn cylchedau syml, yn ymchwilio i lif trydan, ac yn cydnabod y gall grymoedd effeithio ar symudiad a mesur cyflymder. Bydd y disgyblion yn adeiladu 'anifail' sydd yn cael ei bweru gan drydan. Mae'r grwpiau yn profi eu 'anifail' ac yn addasu eu dyluniadau er mwyn iddo deithio'n gyflym dros y trac. Mae'r gweithgaredd yn caniatáu i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu.

Yr Her Gofod

Yn y gweithgaredd hwn, bydd disgyblion yn dysgu sut y gall grymoedd effeithio ar symudiad a sut mae ffrithiant a disgyrchiant yn effeithio ar wrthrychau sy'n cael eu symyd. Byddant yn adeiladu gorsaf ofod (Gorsaf Ofod Rhyngwladol) gyda drws neu ddrysau y gellir eu hagor a'u cau o bell. Mae'r gweithgaredd yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu eu gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu.

Her Rhedfa'r Farblen

Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu disgyblion i ddysgu sut mae ffrithiant a disgyrchiant yn effeithio ar wrthrychau sydd yn disgyn. Bydd y disgyblion yn adeiladu rhedfa farblen ac yn arbrofi lle i osod troeadau a llethrau i gwrdd â'r her. Mae'r gweithgaredd yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu trwy ddylunio'r rhedfa farblen arafaf.

Yr Her Tomato wedi'i Wasgu

Mae'r Her Tomato wedi'i Wasgu yn Her STEM â gynlluniwyd gan 'Practical Action' lle mae disgyblion yn dylunio ac yn adeiladu model i symud tomatos i lawr mynydd. Yn Nepal mae llawer o ffermwyr sy'n byw ar ochr y mynydd yn tyfu ffrwythau a llysiau, gan gynnwys tomatos. Er mwyn ennill bywoliaeth mae angen iddynt werthu'r rhain yn y farchnad leol.


Her Stopio'r Lledaeniad'

Mae 'Stop the Spread' yn Her STEM a gynlluniwyd gan Practical Action lle gofynnir i ddisgyblion ymchwilio i glefydau heintus, ac yna dylunio ac adeiladu model o ddyfais golchi dwylo ar gyfer ysgol yn Kenya. Mae afiechydon heintus yn broblem fyd-eang ac yn achosi miliynau o farwolaethau bob blwyddyn.

Mae Stopio'r Lledaeniad yn her STEM sy'n galluogi disgyblion 11-14 i ymchwilio i'r broblem, yna defnyddio eu STEM a sgiliau cyfathrebu i ddylunio dyfeisiau golchi dwylo a deunyddiau addysg ar gyfer ysgol gynradd yn Kenya.

Achredir y gweithgaredd hwn gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain a gellir ei ddefnyddio i ennill Gwobr Darganfod CREST.

Mae'r gweithdy bywiog hwn yn seiliedig ar adnoddau o weithgareddau'r RAF 100 sy'n edrych ar y ffiseg y tu ôl i hedfan – cyfle i archwilio hanes y 100 mlynedd diwethaf o hedfan sy'n cynnwys: cynllunio gleider, datrys y cod, gweithgaredd rhyddhau y parsel.

Hedfan yn Uchel

Mae'r gweithdy bywiog hwn yn seiliedig ar adnoddau o weithgareddau'r RAF 100 sy'n edrych ar y ffiseg y tu ôl i hedfan – cyfle i archwilio hanes y 100 mlynedd diwethaf o hedfan sy'n cynnwys: cynllunio gleider, datrys y cod, gweithgaredd rhyddhau y parsel. Addas i ddisgyblion 11-14 oed.

STEM mewn BAG

Rhowch gynnig ar 10 o weithgareddau byr gwahanol gan ddefnyddio deunyddiau syml ac archwiliwch y gwyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw o utgorn gwelltyn i synnau uchel – o greu hydoddiant i sleim – gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt. Gweithdy ymarferol, yn llawn dychymyg gyda digon i'w wneud a'i drafod.


Cemeg yn yr Ystafell Ddosbarth Gynradd

Mae'r gweithdy CA2 yn cynnwys pedwar gweithgaredd ymarferol y mae disgyblion yn ymgymryd â nhw mewn grwpiau, pob un yn gysylltiedig â rôl fcemeg yn y byd-go iawn.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys profion pH ac adnabod powdr gwyn anhysbys tra fod cemeg â gwmpesir yn ystod y sesiwn yn amrywio o Gemeg Amgylcheddol i Gemeg Fforensig a hyd yn oed gweithgynhyrchu polymerau.

Mae'r 4 gweithgaredd wedi bod yn boblogaidd gyda'r disgyblion a'r athrawon, ond y ffefryn ymhlith y plant yw gwneud eu sleim eu hunain!

Llaeth a Llawer Mwy

Mae Llaeth a Mwy yn weithdy newydd a ddatblygwyd gan Gweld Gwyddoniaeth ac mae wedi'i ariannu trwy Grant Allgymorth Gwyddonol y Gymdeithas Fiocemegol sy'n cyflwyno gwyddoniaeth biocemegol ar gyfer cynulleidfaoedd CA2 / 3. Mae'n cynnwys 4 gweithgareddau llaeth ymarferol gwahanol, yn ogystal â rhai syniadau o arbrofion eraill sy'n gysylltiedig â bwyd, sy'n addas i'w defnyddio o fewn amser gwersi neu fel gweithgareddau Clwb STEM.

Gweithdy Bysgio

Eisiau gwella eich sgiliau cyfathrebu gwyddoniaeth? Cyfle i hyfforddi pobl ifanc i wneud rhywfaint o fysgio gwyddoniaeth – y gellir eu gynnal dan do ar fwrdd neu yn yr awyr agored. Mae yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau a digwyddiadau cymunedol. Bydd y gweithdy rhyngweithiol yn rhoi amrywiaeth o arddangosiadau, cyfarwyddiadau a deunyddiau ychwanegol diddorol i bobl ifanc.