Gweld Gwyddoniaeth – ymgynghorwyr addysg a chyfoethogiad deinamig, annibynol
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi y ddarpariaeth o STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) i ysgolion, colegau addysg uwch, sefydliadau addysg bellach a grwpiau cymunedol ledled Cymru.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau a fydd yn cefnogi y dysgu a’r addysgu o bynciau STEM yng Nghymru o fewn cyd-destun byd go iawn.
Gweithdai a Phrosiectau
Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig amrywiaeth o weithdai STEM a DPP dwyieithog i ysgolion a busnesau. Gellir eu teilwra i gwrdd â’ch gofynion penodol chi – mwy yma.
Hwb Llysgenhadon STEM Cymru
Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cydlynu Hwb Llysgenhadon STEM Cymru i ysbrydoli pobl ifanc am STEM.
Rydym yn hysbysu ysgolion yng Nghymru am weithgareddau o ansawdd uchel y gallant gymeryd rhan ynddynt er mwyn cyfoethogi a gwella'r cwricwlwm STEM ac yn eu galluogi i ddefnyddio ystod o Lysgenhadon STEM, fel y gall athrawon ymgorffori cysylltiadau rhagorol i fyd gwaith yn eu haddysgu.

Mae cymryd rhan yn y rhaglen Llysgenhadon STEM yn haws nag erioed drwy wefan Llysgenhadon STEM, a gynlluniwyd i roi rheolaeth ar eich profiad Llysgennad STEM.
Sut ydw i’n defnyddio’r wefan i ymgysylltu â Llysgenhadon STEM?
Gallwch gofrestru a gofyn am Lysgennad STEM drwy’r wefan pryd bynnag y dymunwch a ble bynnag yr ydych. Mae Llysgenhadon STEM yn wirfoddolwyr o ystod eang o swyddi a disgyblaethau cysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ledled y DU.

Maent yn cynnig eu hamser a’u brwdfrydedd i helpu i ddod â phynciau STEM yn fyw ac i ddangos eu gwerth mewn bywyd a gyrfaoedd. Mae cofrestru a gofyn am Lysgennad STEM drwy’r wefan yn gyflym ac yn hawdd. Gallwch gael mynediad i’r wefan ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur personol pryd bynnag y mae’n gyfleus.
Gwobrau CREST
CREST yw cynllun gwobrwyo cenedlaethol fwyaf Prydain ar gyfer gwaith prosiect yn y pynciau STEM – Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg – ac mae’n dod â gwyddoniaeth yn fyw drwy gynnig cyfleoedd archwilio prosiectau yn y byd go iawn i bobl ifanc rhwng 11-19 mewn ffordd gyffrous ac arloesol.

Gweld Gwyddoniaeth yw Sefydliad Cefnogi Lleol CREST Cymru. Rydym yn darparu arweiniad trwy gydol proses Gwobrau CREST ar bob lefel.
Darllenwch fwy am Gweld Gwyddoniaeth a CREST yma.
Adnoddau, gweithgareddau a darparwyr
Dilynwch y dolennau yma am restrau cyfredol a chynhwysfawr o adnoddau, gweithgareddau a darparwyr allanol sydd yn cynnig gweithgareddau neu wasanaethau yn ymwneud â STEM.
Adborth
"Yn bendant mae’r prosiect wedi cryfhau cysylltiadau pontio, wedi gwneud i ni ystyried sgiliau addysgu mewn ffyrdd gwahanol ac wedi darparu disgyblion gydag ysgogiad cryfach i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth yn y dyfodol. Diolch yn fawr i bawb!! Bydd croeso mawr i chi ddefnyddio ein teulu ni o ysgolion ar gyfer peilot unryw gynllun yn y dyfodol.”
Darllenwch fwy o adborth a thystlythyron am wasanaeth a phrosiectau Gweld Gwyddoniaeth yma.
Dewch o hyd i amrywiaeth o adnoddau STEM ar-lein ar gyfer pob oed yma.