Sut gall Llysgenhadon STEM helpu athrawon?

Hwb Llysgenhadon STEM Cymru Mae Llysgenhadon STEM yn dangos posibiliadau pynciau a gyrfaoedd STEM trwy ddatgelu pa mor hanfodol yw STEM ledled y byd yr ydym yn byw ynddo.

Mae'r gwasanaeth hwn AM DDIM i ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol.



Image

Sut alla i ddod o hyd i Lysgennad STEM?

Gallwch gofrestru gyda STEM Learning Ltd i wneud cais am Lysgennad STEM neu gysylltu â ni'n uniongyrchol ar cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.

Llysgenhadon STEM a'r fframwaith cyflogadwyedd

Gall Llysgenhadon STEM gefnogi fframwaith cyflogadwyedd eich ysgol. Gall Llysgenhadon STEM gyflwyno sgyrsiau gyrfaoedd, darparu mentora ar gyfer prosiectau, cefnogi a chynnal ffug gyfweliadau a helpu gyda diwrnodau agored.

Darganfyddwch fwy a lawrlwythwch y poster hwn yma.

Rhannwch eich adborth

Er mwyn sicrhau gwelliant parhaus y rhaglen Llysgenhadon STEM, byddai STEM Learning yn gwerthfawrogi eich adborth gwerthfawr ar y gweithgaredd Llysgennad STEM diweddar yr oeddech yn rhan ohono, gan ddefnyddio'r ffurflen adborth yma.