Pwy ydyn ni

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cefnogi darpariaeth STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) ledled Cymru i bob ysgol, coleg addysg bellach, sefydliad addysg uwch a grŵp cymunedol.


Image

Rydym yn cynnig ystod o gynhyrchion a gwasanaethau sy'n cefnogi addysgu a dysgu pynciau STEM yng Nghymru yng nghyd-destun y byd go iawn.

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth ac mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill ledled Cymru a'r DU i'n helpu i hwyluso mentrau arloesol.

Rydym yn annog datblygu cysylltiadau â busnes a diwydiant er mwyn cyfoethogi'r profiad dysgu i ddisgyblion a chefnogi'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm mewn ysgolion.