Newyddion

Lled-ddargludyddion: Archwilio'r Dechnoleg y tu ôl i Electroneg fodern.
Image

Digwyddiad undydd ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 10, 11 a 12 o ysgolion uwchradd yng Nghymru, i archwilio byd electroneg a datrys dirgelwch lled-ddargludyddion.

Gall ysgolion neu fyfyrwyr unigol archebu eu lle yn y digwyddiadau hyn. Yn ystod y dydd, bydd cyfranogwyr yn darganfod mwy am Electroneg ac astudio'r pwnc ar lefel prifysgol. Bydd cyflwyniad ‘ymarferol’ hefyd i ficroreolyddion, teithiau tywys a chyfleoedd i siarad â myfyrwyr presennol a staff addysgu. 

Mae 3 digwyddiad:
Prifysgol Bangor, dydd Mercher Ebrill 17eg. Bwcio yma.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, dydd Llun Mehefin 24ain. Bwcio yma.
Prifysgol De Cymru (Campws Pontypridd), dydd Mercher Gorffennaf 3ydd. Bwcio yma.

Gwyddoniaeth Ymarferol i'r Cynradd - Gwneud Past dannedd. Dydd Llun, Mai 20fed, 3.45pm. Ar-lein
Image

Dewch ag arbrawf cemeg i'ch ystafell ddosbarth gynradd gyda'r gweithgaredd ymarferol syml a hwyliog yma.

Byddwn yn dangos pa mor hawdd yw gwneud eich past dannedd eich hun a byddwn yn awgrymu sut y gall eich disgyblion ymchwilio i'r cynnyrch trwy brofi a yw'r past dannedd yn gweithio ai peidio! 

Gall gwneud past dannedd fod yn weithgaredd ar ei ben ei hun neu byddwn yn dangos i chi sut y gall fod yn ddechrau taith Gwobrau CREST eich disgyblion. 

Os na allwch ymuno ar y diwrnod, cofrestrwch ymlaen llaw a derbyniwch recordiad o’r sesiwn ar-lein ynghyd â fideo gwych gan Lysgennad STEM deintyddol yn rhoi syniadau ar sut y gallwch gysylltu’r gweithgaredd â dysgu am iechyd y geg. 

Cofrestrwch yma.

Arbrofion arbennig Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol mewn partneriaeth â'r Sefydliad Ffiseg
Image

De Cymru. Dydd Mawrth Gorffennaf 2il, 9.30am–3.00pm, Y Coleg Merthyr Tudful CF48 1

Gogledd Cymru. Dydd Gwener Gorffennaf 5ed, 9.30am–3.00pm, Prifysgol Bangor LL57 2PZ

Rydym yn falch o fod yn ymuno unwaith eto i ddod â'n cynadleddau dydd blynyddol i chi. Y llynedd, fe wnaethoch chi ofyn am fwy o weithgareddau ymarferol felly eleni bydd RSC, IOP a gwestai arbennig yn cyflwyno tri gweithdy ymarferol.
Cewch gyfle i fynychu’r holl weithdai, cael amser i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r wlad ac, wrth gwrs, mwynhau cinio arnom ni.
Cofrestrwch am ddigwyddiad De Cymru yma.

Cofrestrwch am ddigwyddiad Gogledd Cymru yma.



Cystadleuaeth Gweithgareddau Llysgenhadon STEM
Image


Gallech chi ennill arhosiad 2-noson i 2 yng Nghaerefrog a chael eich adnodd neu weithgaredd yn ymddangos yn Llyfrgell Adnoddau Ar-lein STEM Learning! Rydyn ni'n eich gwahodd chi, ein Llysgenhadon STEM, i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth gyda syniad gweithgaredd STEM cyffrous neu adnodd rydych chi wedi'i ddylunio. Mae wir mor syml â hynny! 

Os oes gennych chi weithgaredd STEM hwyliog rydych yn ei ddefnyddio wrth wirfoddoli neu syniad gweithgaredd, rhowch sylwadau isod a dywedwch wrthym amdano. Efallai eich bod wedi dylunio adnodd STEM neu daflen waith y mae dysgwyr wrth eu bodd yn ei defnyddio, rhannwch hi isod! Gallai eich cais fod ar gyfer Cynradd neu Uwchradd ac yn addas ar gyfer dosbarth, grŵp bach neu Glwb STEM, chi sydd i benderfynu! 

 Proses Cyflwyno: Dylai’r rhai sy’n cymryd rhan gyflwyno eu ceisiadau drwy ymateb i’r edefyn hwn: https://community.stem.org.uk/stemambassadors/discussion/win-a-2-night-stay-for-2-in-york-enter-the-stem-ambassador-activity-competition 

Gwobrau: 

• Enillydd: Arhosiad 2 noson i 2 yng Nghaerefrog*, gall hyn fod yn benwythnos neu yn ystod yr wythnos, yn ystod y tymor neu wyliau, ystafell ddwbl neu 2 sengl/gefell (dyddiad yn dibynnu ar argaeledd) 

• Enillydd: Bydd yr adnodd neu weithgaredd buddugol yn cael sylw yn y Llyfrgell Adnoddau STEM Learning Online (Cynradd neu Uwchradd) 

• Syniadau Anrhydeddus: Gall y panel beirniaid ddyfarnu gwobrau ychwanegol

Cynllun Grant Gwyddoniaeth Ymddiriedolaeth Edina
Image

At sylw Ysgolion Cynradd yn siroedd Dinbych, Casnewydd a Torfaen

Mae Ymddiriedolaeth Edina yn cynnig grantiau gwyddoniaeth ysgolion cynradd o £700 a grantiau gwyddoniaeth blynyddoedd cynnar o £500. Mae grantiau ar gael mewn awdurdod leol am dair  mlynedd, cyn symud ymlaen i ardaloedd newydd. 

Mae'n syml iawn i'w gael gan bod y grantiau yn anghystadleuol, sy'n golygu eich bod yn sicr o gael arian os ydych yn un o'r ardaloedd cyfredol.  

Gall ysgolion ddefnyddio'r arian ar gyfer:

  • Wythnosau gwyddoniaeth ysgol
  • Ymweliadau gwyddonol gan gynnwys teithiau allan o, neu ymweliadau i’r ysgol
  • Gwella tiroedd yr ysgol ar gyfer gwyddoniaeth
  • Offer garddio 
  • Tanysgrifiadau gwyddoniaeth

Mae manylion y broses ymgeisio syml yma