Datblygu adnoddau

Ysgrifennu cynnwys

Mae gan Gweld Gwyddoniaeth dîm o athrawon cymwys, profiadol sy'n gallu datblygu adnoddau STEM pwrpasol ar gyfer athrawon, arweinwyr cymunedol a sefydliadau.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a gwella addysg gwyddoniaeth a thechnoleg trwy ddatblygu adnoddau addysgol a deunyddiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Rydym hefyd wedi datblygu MOOCs ar-lein ar gyfer STEM Learning Ltd.

Enghreifftiau o waith blaenorol

  • Mathemateg mewn Amgueddfeydd - Amgueddfa Genedlaethol Cymru
  • Labordy Gwyddoniaeth Gopher – Y Gymdeithas Fioleg Frenhinol
  • Profiad Cyfoethogi Gwyddoniaeth - Academi Wyddoniaeth Genedlaethol
  • Cyffro a Rhyfeddod Gwyddoniaeth - Prifysgol Aberystwyth
  • Adnoddau gwyddoniaeth ar gyfer Rheilffordd Talyllyn
  • MOOC - Ysbrydoli Pobl Ifanc mewn STEM - Adnoddau ac Amrywiaeth - Futurelearn
  • Gwobrau CREST - Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.

Gwerthuso

Mae gennym brofiad o gynnal cyn-ymchwil cynulleidfa manwl ar gyfer datblygu prosiectau ac adnoddau a chynnal gwerthusiadau ac astudiaethau cwmpasu ar gyfer cleientiaid allanol yn y gymuned STEM.