Gweld Gwyddoniaeth Cyf: Polisi Preifatrwydd

Mehefin 2023

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i bobl  sy’n ymweld â’n gwefannau:

www.see-science.co.uk 

www.gweld-gwyddoniaeth.co.uk.

Mae’r polisi yn amlinellu:

  • Eich hawliau, gan gynnwys manylion ar p’run ag oes rhaid i’r cyfrannwr data ddarparu’r data personol ai peidio a chanlyniadau methiant i’w ddarparu
  • Y data rydym yn ei gasglu a'i gadw
  • Pwrpasau’r casgliad hwn, a’n rhesymeg gyfreithlon dros wneud hynny
  • Derbynwyr y data personol, gan gynnwys trosglwyddo i drydydd parti (lle bo hynny’n berthnasol)
  • Cyrchiad at wybodaeth bersonol
  • Manylion unrhyw drosglwyddiad i drydydd parti a manylion y mesurau diogelu a’r modd y gellir cael copi ohonynt neu ble y cawsant eu darparu
  • Beth i’w wneud os oes gennych gŵyn 
  • Newidiadau i’r rhybudd preifatrwydd hwn
  • Enw a manylion cyswllt y Rheolwr Data a TG Gweld Gwyddoniaeth Cyf.

1. Eich hawliau

Fel Cyfrannwr Data mae gennych yr hawliau canlynol:

  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gyrchu
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu prosesu
  • Yr hawl i gludo data
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth

2. Y data rydym yn ei gadw

Mae Gweld Gwyddoniaeth Cyf yn casglu ac yn cadw'r mathau canlynol o wybodaeth yn unig.

2.1 Gwybodaeth bersonol 

  • Gellir caffael a dal enwau, cyfeiriadau e-bost a rolau swyddi pobl sydd wedi gofyn am wybodaeth gan Gweld Gwyddoniaeth Cyf ac sydd wedi rhoi eu caniatâd.
  • Nid yw gwybodaeth bersonol arall, gan gynnwys cyfeiriadau cartref, unrhyw fath o wybodaeth ariannol neu wybodaeth arall y gellid ei hystyried yn gyfrinachol, byth yn cael ei gadw ar ddyfeisiau a systemau Gweld Gwyddoniaeth Cyf.

2.2 Gwybodaeth sefydliad

  • Dim ond gwybodaeth am sefydliadau sy'n hygyrch yn gyhoeddus a gedwir ar ddyfeisiau a systemau Gweld Gwyddoniaeth Cyf.
  • Nid yw gwybodaeth arall am sefydliadau, gan gynnwys gwybodaeth ariannol neu unrhyw ddata arall y gellid eu hystyried yn gyfrinachol, byth yn cael ei gadw ar ddyfeisiau a systemau Gweld Gwyddoniaeth Cyf.

2.3 Data cyfryngau cymdeithasol

  • Os anfonwch neges breifat neu uniongyrchol atom trwy'r cyfryngau cymdeithasol, bydd y neges yn cael ei chadw ar y platfform am hyd at flwyddyn. Ni fydd yn cael ei rannu ag unrhyw sefydliadau eraill.

3. Cyrchiad at wybodaeth personol

Ar ôl derbyn tystiolaeth o’ch hunaniaeth, gallwn ni ddarparu:

  • Cadarnhad bod eich data yn cael ei brosesu
  • Cyrchiad i’ch data personol; ac
  • Unrhyw wybodaeth atodol arall

Mewn rhai achosion, gall yr hyn a ddarperir fod yn gyfyngedig os byddwn ni hefyd yn darparu data ar unigolyn arall wrth rannu’r data. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni ofyn am ganiatâd i gysylltu â’r unigolyn arall am ganiatâd, golygu rhywfaint o’r data sy’n ymwneud â’r unigolyn, neu beidio â rhannu cyfran o’r data. Os yw hyn yn wir, byddwn yn cyfathrebu hyn â chi cyn gynted ag y bo modd ac yn egluro’r rhesymeg y tu ôl i hyn.

Darperir gwybodaeth o fewn mis ar ôl ei dderbyn. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn ymestyn cyfnod y cydymffurfiaeth gan ddau fis arall lle mae ceisiadau’n gymhleth neu’n niferus. Os yw hyn yn wir, byddwn yn eich hysbysu o fewn mis ar ôl derbyn y cais ac yn egluro pam fod yr estyniad yn angenrheidiol.

Byddwn yn gwirio pwy yw’r unigolyn sy’n gwneud y cais, gan ddefnyddio ‘modd rhesymol’. Os gwneir y cais yn electronig, byddwn yn darparu’r wybodaeth mewn fformat electronig diogel a ddefnyddir yn gyffredin.

4. Cwynion

Pan fydd cwyn wedi'i gwneud byddwn yn creu ffeil ddiogel sy'n cynnwys manylion y gŵyn. Byddai hyn fel arfer yn cynnwys hunaniaeth yr achwynydd ac unrhyw unigolion eraill sy'n ymwneud â'r gŵyn. 

Dim ond trwy ein gweithdrefn gwyno safonol y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth bersonol angenrheidiol i brosesu'r gŵyn. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol sydd wedi'i chynnwys mewn ffeiliau diogel yn unol â'n polisi cadw data. Mae hyn yn golygu y bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â chwyn yn cael ei chadw am 2 flynedd. Bydd yn cael ei gadw mewn amgylchedd diogel a bydd mynediad iddo yn cael ei gyfyngu yn unol â'r egwyddor 'angen i wybod'. 

Yn yr un modd, pan gyflwynir ymholiadau i ni, dim ond i ddelio â'r ymholiad ac unrhyw faterion dilynol y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i ni ac i wirio lefel y gwasanaeth a ddarparwn. 

Nid ydym yn anfon unrhyw ran o'n gwybodaeth farchnata at drydydd partïon, a dim ond os oes angen ac yn unol â rheoliadau data y rhennir y data yn fewnol.

4.1 Cwynion neu gwestiynau ar y polisi hwn

Gallwch wneud cwyn i ni yn ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk os ydych chi'n credu bod ein casgliad neu ddefnydd o wybodaeth yn anghywir, yn annheg neu'n gamarweiniol. Rydym hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau.

5. Rheolwr Data a TG Gweld Gwyddoniaeth Cyf

Rheolwr Data a TG Gweld Gwyddoniaeth Cyf a'r person sy'n gyfrifol am weinyddu'r polisi hwn yw Cerian Angharad.

Cerian Angharad
Gweld Gwyddoniaeth
8 Cilgant Sant Andreas
Caerdydd CF10 3DD

02920 344727

www.gweld-gwyddoniaeth.co.uk
ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk