Beth mae Gweld Gwyddoniaeth yn ei gynnig

Datblygu a darparu prosiectau addysg ac ymgysylltu â'r cyhoedd

Rydym yn arbenigo mewn datblygu prosiectau a rhaglenni addysg ac ymgysylltu â'r cyhoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Rhwydwaith Gwyddoniaeth yng Nghymru a thu hwnt fel y gallwn ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion a grwpiau cymunedol.

Rydym yn hyderus y gallwn ymgysylltu â phob dysgwr a chynnig cefnogaeth werthfawr i addysgwyr ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Rydym yn darparu ystod eang o raglenni i bobl ifanc o bob oed i roi profiadau cyffrous a gwerth chweil iddynt mewn pynciau STEM a'u hysbrydoli i ystyried gyrfaoedd yn y meysydd hyn.

Gweithio mewn partneriaeth

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth ac mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill ledled Cymru a'r DU i'n helpu i hwyluso mentrau arloesol. Rydym yn annog datblygu cysylltiadau â busnes a diwydiant er mwyn cyfoethogi'r profiad dysgu i ddisgyblion a chefnogi'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm mewn ysgolion.

Rheoli digwyddiadau proffesiynol

Mae ein profiad rheoli digwyddiadau yn amrywio o gynadleddau bach i sioeau teithiol mawr. Rydym yn gallu cyflwyno digwyddiadau yn ddwyieithog o fewn cyllideb.

Rydym yn gallu cynorthwyo gyda chynllunio:

  • Ffeiriau Gyrfaoedd
  • Dyddiau Agored a Diwrnodau Pontio
  • Hwyluso cyfarfodydd
  • Digwyddiadau trafod
  • Ymgynghoriadau ar gyfer cleientiaid allanol

Rydym yn canolbwyntio ar greu mentrau i gefnogi busnesau yng Nghymru a'u helpu i adeiladu pontydd er mwyn cryfhau'r cysylltiadau rhwng busnes, ysgolion a'r gymuned leol.

Ymchwil a gwerthuso

Mae gennym brofiad o gynnal cyn-ymchwil cynulleidfa manwl ar gyfer datblygu prosiectau ac adnoddau a chynnal gwerthusiadau ac astudiaethau cwmpasu ar gyfer cleientiaid allanol yn y gymuned STEM.

Ysgrifennu a chynhyrchu adnoddau

Gallwn gefnogi a gwella addysg gwyddoniaeth a thechnoleg trwy ddatblygu adnoddau addysgol a deunyddiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i'w defnyddio gan athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwasanaethau Cyfieithu

Image

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig gwasanaethau cyfieithu ar gyfer deunyddiau sy'n gysylltiedig â STEM. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i gynnig deunyddiau addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg - gweler enghreifftiau o'n gwaith yma.