Digwyddiadau

Wedi ei ddiweddaru ddiwetha: Mawrth 11eg 2024

Mawrth

DPP Athrawon: Llongddrylliad a dim ond y Cwricwlwm i Gymru i'ch helpu... Fyddech chi'n goroesi ac yn cwrdd â'r 4 diben?

Cyfrwng Cymraeg: Dydd Mawrth, Mawrth 5ed, Gardd Fotaneg Treborth, Bangor LL57 2RQ

Cyfrwng Saesneg: Dydd Mercher, Mawrth 6ed, Gardd Fotaneg Treborth, Bangor LL57 2RQ 

Cyfrwng Saesneg: Dydd Mawrth, Mawrth 12fed, Maenordy Scolton, Bethlehem, SA62 5QL 

Cyfrwng Cymraeg: Dydd Mercher, Mawrth 13eg, Maenordy Scolton, Bethlehem, SA62 5QL

‘Llongddrylliad’ ar ynys anial. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r Cwricwlwm i Gymru a defnyddio adnoddau naturiol yn ofalus er mwyn ceisio goroesi!  Dan arweiniad staff Addysg, Dysgu a Sgiliau - Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd y cwrs yn rhoi syniadau a gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored ymarferol a thrawsgwricwlaidd i chi, ac ar yr un pryd yn ymgorffori elfennau o’r fframweithiau llythrennedd a rhifedd.  Mae’r cwrs wedi’i anelu at athrawon sydd eisiau cynyddu eu hyder wrth gyflwyno 6 MDaP y Cwricwlwm i Gymru drwy ymgysylltu â natur.

Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn cynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb mewn partneriaeth â STEM Learning UK a Techniquest.  Mae ‘Bwrsariaeth ENTHUSE’ gwerth £165 ar gael i bob athro sy’n mynychu i fynd at gostau cyflenwi.

Manylion a chofrestru yma.

Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2024. Mawrth 8 - 17.

Thema pecynnau gweithgaredd a chystadleuaeth poster #BSW24 yw ‘Amser’.

Mae pecynnau gweithgaredd ar gael i’w lawrlwytho nawr! 

Mae’r pecynnau’n cynnig ffyrdd diddorol a difyr o gyflwyno’r thema i’r plant. Mae pob pecyn, a grëwyd gyda chefnogaeth Ymchwil ac Arloesedd y DU a 3M, yn cynnwys ystod eang o weithgareddau hwyliog, ymarferol, a llwyth o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cynllunio eich digwyddiadau ar gyfer yr Wythnos. 

Mae pecynnau ar wahan ar gyfer Blynyddoedd Cynnar, Cynradd ac Uwchradd. 

Manylion yma.

Ymunwch â'n gweminar i ddysgu sut y gall CREST eich galluogi i wneud y mwyaf o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

Manylion uchod.

Gwobrau CREST yng Nghymru - gweminar YN Y GYMRAEG. Dydd Mawrth, Mawrth 19eg 4 - 5pm.

Yn ystod y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim hwn, ein nod yw eich helpu i gael mynediad at eich Gwobrau CREST rhad ac am ddim trwy:

  • Esbonio'r gwahanol lefelau a sut mae CREST yn cyd-fynd â phedwar diben y cwricwlwm. 
  • Cyfeirio adnoddau CREST dwyieithog rhad ac am ddim a'r rhai sydd â chynnwys Cymreig penodol. 
  • Rhannu enghreifftiau o arfer gorau am ddefnyddio'r Gwobrau trwy gydol y flwyddyn ysgol. 
  • Arddangos sut y gall defnyddio CREST wneud y mwyaf o ymgysylltiad Wythnos Wyddoniaeth Prydain, a phroffilio eich ysgol. 
  • Arddangos tystysgrifau Gwobr CREST ac esbonio sut i'w harchebu gan ddefnyddio ein platfform ar-lein. 

Cofrestrwch yma ac fe gewch recordiad o'r gweminar os na fedrwch ymuno â ni yn fyw.

Dysgwrdd - Addysgu cynhwysol mewn STEM - Addasu addysgu STEM i ymgysylltu a herio. Mawrth 20fed 4.15pm Ysgol Howells, Caerdydd. CF5 2YD

Ymunwch â Dysgwrdd STEM i rannu syniadau ac adnoddau - gan addasu addysgu STEM i ymgysylltu a herio.

Sesiynau grŵp i athrawon cynradd ac uwchradd. Bydd rhai elfennau o'r digwyddiad hwn yn “hybrid” gyda ffrwd fyw ar gyfer athrawon ymhellach i ffwrdd yng Nghymru. 

Darperir te a choffi. 

Archebwch yma.

Ebrill

Mai

Mehefin

Y Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion. Mehefin 11.

Mae’r ymgyrch arobryn yn parhau i ysbrydoli plant 5-14 oed i gymryd yr awenau wrth ofyn, ymchwilio a rhannu cwestiynau gwyddonol sy’n bwysig iddynt gyda chynulleidfaoedd newydd.

Profiad cynhwysol, anghystadleuol a chydweithredol i bawb. 

  • Defnyddiwch y 'Great Science Skills Starters' i uwchsgilio athrawon a disgyblion i ofyn-ymchwilio a rhannu cwestiynau gwyddonol 
  • Cewch eich ysbrydoli gan 'Great Science Ideas' i ysbrydoli eich disgyblion i ddechrau holi-ymchwilio-rhannu! 
  • Defnyddiwch ddiwrnodau gwyddoniaeth neu wythnosau arbennig, e.e. Wythnos Wyddoniaeth Prydain ym mis Mawrth 2024 i gynnwys disgyblion wrth benderfynu pa gwestiynau y maent am eu gofyn-ymchwilio-rhannu. 

Mae cofrestru ar agor drwy'r flwyddyn sy'n rhoi mynediad i amrywiaeth eang o adnoddau i ysbrydoli eich disgyblion i wyddoniaeth a pheirianneg. 

Manylion yma.

Gorffennaf

Arbrofion arbennig – De Cymru. Dydd Mawrth Gorffennaf 2il, 9.30am–3.00pm, Y Coleg Merthyr Tudful CF48 1AR

Cynhadledd RSC gyda IOP

Rydym yn falch o fod yn ymuno unwaith eto i ddod â'n cynadleddau dydd blynyddol i chi. Y llynedd, fe wnaethoch chi ofyn am fwy o weithgareddau ymarferol felly eleni bydd RSC, IOP a gwestai arbennig yn cyflwyno tri gweithdy ymarferol. 

Cewch gyfle i fynychu’r holl weithdai, cael amser i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r wlad ac, wrth gwrs, mwynhau cinio arnom ni. 

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, mewngofnodwch neu cofrestrwch i gael cyfrif ar wefan Addysg RSC yma.

Arbrofion arbennig – Gogledd Cymru. Dydd Gwener Gorffennaf 5ed, 9.30am–3.00pm, Prifysgol Bangor LL57 2PZ

Cynhadledd RSC gyda IOP

Rydym yn falch o fod yn ymuno unwaith eto i ddod â'n cynadleddau dydd blynyddol i chi. Y llynedd, fe wnaethoch chi ofyn am fwy o weithgareddau ymarferol felly eleni bydd RSC, IOP a gwestai arbennig yn cyflwyno tri gweithdy ymarferol. 

Cewch gyfle i fynychu’r holl weithdai, cael amser i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r wlad ac, wrth gwrs, mwynhau cinio arnom ni. 

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, mewngofnodwch neu cofrestrwch i gael cyfrif ar wefan Addysg RSC yma.