Cliciwch ar unrhyw un o'r darparwyr STEM isod i weld panel yn rhoi manylion gan gynnwys cyfeiriad y wefan, manylion cyswllt (os ydynt ar gael) ac os yw'r adnoddau / neu gyflwyniadau yn cael eu cynnig yn Gymraeg.
Os hoffech ychwanegu eich sefydliad at y rhestr hon, anfonwch e-bost a manylion cryno a gwybodaeth cyswllt i ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.
www.abpischools.org.uk/page/teachers.cfm
Mae gwefan ysgolion ABPI yn cynnig ystod enfawr o wybodaeth i ymgysylltu â grwpiau o oedran gwahanol. Mae'r wybodaeth wedi cael ei gynllunio i gadw sylw'r disgybl drwy apelio at wahanol arddulliau dysgu, gydag amrywiaeth o weithgareddau, cwisiau, adnoddau darllen a diagramau. Mae hyn yn yn adnodd gwych ar gyfer athrawon, hyfforddwyr a myfyrwyr o bob oedran ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth neu sy'n gweithio yn y diwydiant gofal iechyd / gwyddoniaeth.
Mae dros 40,000 o athrawon a myfyrwyr yn defnyddio'r safle hwn bob mis. Gall athrawon ddefnyddio'r animeiddiadau a diagramau o ansawdd uchel i arddangos ar sgrîn lawn ar eu bwrdd gwyn rhyngweithiol, neu hyd yn oed lawr lwytho ar gyfer eu cynnwys yn eu cynlluniau gwersi.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Mae’r Academi Ffotoneg yn cynnig hyfforddiant i weithwyr presennol a darpar weithwyr yn y diwydiant ffotoneg (defnyddio golau – gan gynnwys laserau ac opteg) yng Nghymru. Ei nod yw cefnogi twf gweithgarwch diwydiannol ym maes technoleg ffotoneg yng Nghymru. I ysgolion, athrawon a disgyblion.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/abertawe/
01792 638950
Mae tîm addysg Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe yn datblygu rhaglen estynedig o sgyrsiau, gweithdai ac adnoddau ar gyfer ymweliadau annibynnol sy’n berthnasol i gynnwys dewisiadau Craidd a Dewisol ar gyfer pob lefel o astudio ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae modd defnyddio’r amgueddfa i astudio amrywiaeth o Elfennau a Materion Allweddol sy’n berthnasol i Gymru, Ewrop a’r Byd, yn enwedig o safbwynt effaith newid economaidd a thechnegol.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Mae’r Amgueddfa yn dangos ei chasgliad o arteffactau, pethau cofiadwy a ffotograffau yn darlunio hanes diwydiannol yr ardal:, cloddio glo y diwydiant haearn, tramffyrdd a rheilffyrdd. www.riscamuseum.org.uk
01286 870630
Mae Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn cynnig amrywiaeth o raglenni addysg ar gyfer disgyblion ysgol ac athrawon, gan gynnwys cyfleoedd datblygiad proffesiynol ac adnoddau fideo-gynadledda i ysgolion sy’n methu ymweld â Llanberis. Mae’r amgueddfa yn cynnig ymweliad sy’n arbennig o berthnasol i ddisgyblion sy’n astudio elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Ffoniwch y Swyddog Addysg i drafod cyfleoedd posibl.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/wlan/
01559 370929
Dre-fach Felindre yw cartref yr amgueddfa hon sy’n cynnig nifer o raglenni ysgol trawsgwricwlaidd ar gyfer disgyblion o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2. Mae un rhaglen yn olrhain y broses gyfan – o gneifio defaid i gynhyrchu swp o wlân i’r brethyn gorffenedig. Mae rhaglen arall yn olrhain y Chwyldro Diwydiannol a’r effaith a gafodd ar y broses o gynhyrchu gwlân yng Nghymru. Dylai ysgolion archebu eu hymweliad ymlaen llaw. Ffoniwch y Swyddog Addysg ar (01559) 370929.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/bigpit/ymweld/
01495 790 311
Dyma gyfle i ddisgyblion gael blas ar weithio o dan ddaear. Mae ymwelwyr yn derbyn helmed a lamp capan ar ddechrau’r daith, ac mae unrhyw eitemau annerbyniol yn cael eu casglu. Mae’r daith yn dechrau 90 metr o dan ddaear; gall eich disgyblion ymweld â’r baddondai pen pwll a’r arddangosfa. Mae ystafell adnoddau ar gael i athrawon ac mae’n cynnwys cyfeirlyfrau a dogfennau a mapiau gwreiddiol. Mae’n rhaid archebu ymlaen llaw i ddefnyddio’r ystafell hon.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Mae adnoddau Brightsparks4kids wedi cael eu creu i helpu athrawon a phlant fwynhau adeiladu ‘Cylchedau Syml’. Y nod oedd edrych ar yr holl fethiannau blaenorol wrth addysgu Trydan a gwella arnynt. Y dasg oedd dylunio Adnoddau Ystafell Ddosbarth a oedd yn gryf a gwydn ac oedd yn hwyl i’w defnyddio, gan ymgysylltu plant o flwyddyn i flwyddyn.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Oes.
07971 055 811
Croeso i Fyd Cychod ym Mae Caerdydd. Newydd ar gyfer 2012 mae arddangosfa yn cynnwys rhai o gychod mwyaf diddorol y Byd mewn lleoliad cei unigryw ym Mae Caerdydd. Mae’r arddangosfa fideo a teledu yn arddangos Dick Strawbridge sy’n egluro esblygiad cychod o rai cyntefig i uwch-dechnoleg crefft modern. Mae sgriniau cyffwrdd ac arddangosfeydd yn esbonio gyriant, llywio a rhai o’r cychod enwog o hanes. Yn yr Labordy Cwch gellir gweld y broses o adfercwch a chael cipolwg mwy o sut mae cychod yn gweithio.
Byd Cychod (Ger Profiad Doctor Who) Heol Porth Teigr, Porth Teigr, Bae Caerdydd, CF10 4GA
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
Partneriaeth rhwng sefydliadau addysg uwch, colegau addysg bellach ac ysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru yw Campws Cyntaf. Maen nhw’n rhedeg gweithgareddau cyffrous a heriol i ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 2, 3, a 4. I athrawon, ysgolion a theuluoedd.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes
http://learning.cat.org.uk/en/day-visits
01654 705950
Lleolir ein canolfan ymwelwyr mewn hen chwarel lechi wrth droed mynyddoedd Eryri ac mae’n cynnwys 7 erw o arddangosfeydd rhyngweithiol, gerddi organig, caffi, siop a maes chwarae antur. Mae’r sefydliad yn croesawu 50,000 o ymwelwyr a phlant ysgol bob blwyddyn, yn darparu gwybodaeth ddi-dâl i dros 200,000 o bobl ac yn cynnig cyrsiau ôl-raddedig i 500 o fyfyrwyr bob blwyddyn. Mae rhai pobl yn dod i fwynhau diwrnod difyr a phleserus, ac mae eraill yn dod am resymau addysgiadol. Os ydych am fanteisio ar ein cyfleusterau addysg preswyl, mae gennym ddau eco-gaban sy’n cynnig llety hostel ar gyfer hyd at 18 o bobl. Gall ymweliad preswyl gynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, gweithdai a gweithgareddau arbenigol wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion eich grŵp.
Techniquest Glyndŵr (TQG), Wrecsam, yw canolfan darganfod gwyddoniaeth fwyaf Gogledd Cymru. Mae TQG yn cynnwys Stiwdio Arloesedd Addysg LEGO®, ac yn ganolfan barhaol lle gall pobl ac ysgolion ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae’n cynnig gweithgareddau ar y safle ac mewn ysgolion, ac mae adnoddau i’w lawrlwytho ar y wefan. I ysgolion, athrawon, oedolion a theuluoedd.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Profiad Darwin yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng y Ganolfan Darwin a Dragon LNG. Mewn cylched o 3 blynedd bydd bob ysgol gynradd yn cael cyfle i fynychu digwyddiad gwyddoniaeth yn seiliedig ar waith maes gyda gweithdy dilynol.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
01437 753193
Mae Dyfodol Morol yn gyfres o arbrofion a gweithdai gwyddonol ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Mae yna 4 gweithdy – defnyddio microsgôp, creu cylchedau trydanol, ail-greu achosion gollwng olew ac archwilio gwyddoniaeth yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd. Mae pob gweithdy ar gael am bris â chymhorthdal ac mae’n para 75 munud. I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac am brosiectau eraill Canolfan Darwin, cysylltwch â Marten Lewis, Canolfan Darwin, Coleg Sir Benfro.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Nac oes.
01248 715046
Mae'r Canolfan Thomas Telford ar gael trwy gydol y flwyddyn ar gyfer cyfarfodydd gymunedol. Mae ystafelloedd cyfarfod i'w gael yn ogystal â chyfleusterau cynhadledd. Mae'r ganolfan yn cynnig addysg a phrofiad unigryw i ysgolion a cholegau fel cyflwyniad i beirianneg, sgiliau adeiladu a hanes cyn ac ar ôl adeiladu'r ddwy bont. Cynigir gweithdai ar hanes ac ecoleg yr ardal.Byddwn yn falch o drafod y pynciau uchod gydag athrawon.
www.at-bristol.org.uk/education
0845 345 3344
Mae Canolfan At-Bristol yn ganolfan darganfod gwyddoniaeth rhyngweithiol. Mae’r ddau lawr o arddangosiadau a Planetariwm wedi’u cynllunio i gysylltu â meysydd y cwricwlwm, tra’n darparu profiad gwahanol iawn i’r ystafell ddosbarth. Mae At-Bristol yn cyflwyno gweithdai addysgol, sioeau gwyddoniaeth a digwyddiadau sy’n cwmpasu ystod eang o themâu gwyddonol, o sut mae pethau’n symud, y planedau a’r system solar i fioamrywiaeth a DNA. Mae At-Bristol hefyd yn cynnal SLC y De-orllewin sy’n darparu DPP o safon uchel mewn gwyddoniaeth. Mae At-Bristol yn amgylchedd diogel, creadigol, ysgogol ar gyfer dysgu anffurfiol, wedi ei hachredu gyda Bathodyn Ansawdd Dysgu y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth. Mae’r arddangosfeydd a’r rhaglenni yn ymdrin â ystod a chynnwys y cwricwlwm cenedlaethol gwyddoniaeth ac yn darparu cyd-destun ardderchog i ddysgu ‘Sut mae gwyddoniaeth yn gweithio’.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
Mae Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr, sy’n cael eu rhedeg gan Gydbwyllgor Addysg Cymru, yn annog pobl ifanc i arloesi’n dechnolegol a gwerthfawrogi pwysigrwydd dylunio. Gall athrawon a myfyrwyr weld peth o’r gwaith TGAU, UG a Safon Uwch gorau mewn arddangosfa. Mae’r diwrnodau gwobrwyo, a gynhelir yng Nghaerdydd a Llandudno, yn cynnwys seminarau i athrawon a sgyrsiau i fyfyrwyr. I ysgolion, athrawon a myfyrwyr.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
www.chemlabs.bris.ac.uk/outreach/primary/
0117 331 7680
ChemLabS Bryste yw’r Ganolfan Rhagoriaeth ar gyfer Addysgu a Dysgu (CETL) mewn Cemeg ym Mhrifysgol Bryste. Gall y tîm ChemLabS ymweld ag ysgolion i gyflwyno gweithdai ymarferol cemeg a gwasanaethau arddangosiad cyffrous mewn ysgolion cynradd; gyda diwrnodau ymarferol ar gyfer disgyblion dawnus a thalentog a darlithoedd gwyddoniaeth cynradd a gynhelir yn yr Ysgol Cemeg. Mae dolen gweithgareddau ymarferol i’r cwricwlwm, sgiliau, profi teg, ymchwiliad a chydweithrediad. Mae’r sgyrsiau diddorol a rhyngweithiol a gwasanaethau yn dod â’r cyffro gwyddoniaeth yn fyw ar gyfer pob oedran. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o raglen allgymorth helaeth i ennyn brwdfrydedd disgyblion cynradd ac athrawon cymorth – gweler hefyd ‘Chem @rt’ & Cwis ‘Gwyddoniaeth Cynradd Ar-lein ‘. Gall athrawon gofrestru ar-lein i’r Rhwydwaith Gwyddoniaeth Cynradd, i gael gwybod am ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Neu e-bostiwch eich manylion cyswllt i info@GoMotorsport.net
01372 41420
Mae’r Ymgyrch Chwaraeon Modur, a sefydlwyd gan y corff llywodraethu chwaraeon modur y DU- ‘Y Gymdeithas Chwaraeon Modur’, yn cynnig yn rhad ac am ddim, cyflwyniadau a chysylltiadau i ddangos i ddisgyblion o bob oed yr hyn y gall chwaraeon modur gynnig fel gweithgaredd hamdden neu yrfa. Gall diddordeb mewn chwaraeon modur agor amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa mewn meysydd fel peirianneg, marchnata, hyfforddi, gweinyddu, maeth, cysylltiadau cyhoeddus a gwyddor chwaraeon.
Mae YmgyrchChwaraeon Modur yn dwyn y cyffro o chwaraeon modur i mewn i’r ysgol drwy drefnu cyflwyniadau gan dîm o swyddogion rhanbarthol. Maent yn yrwyr blaenorol neu presennol, wedi eu hyfforddi’n llawn ac wrth gwrs wedi eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Gall y sesiynau yn cael eu trefnu i gyd-fynd ag ystod eang o gynulleidfaoeddAm fwy o wybodaeth neu i drefnu cyflwyniad am ddim cysylltwch â’ch cynrychiolydd lleol:
www.bracesbakery.co.uk/mini-bakers/schools-education/
Mae rhaglen ysgol Brace ar gael i holl ysgolion cynradd Ardal Gorllewin a De Cymru. Mae’r gweithdy hwn yn RHAD AC AM DDIM, ac wedi ei gynllunio i gyd-fynd â’r cwricwlwm cenedlaethol, yn cael ei ddefnyddio hefyd ar y cyd â’r prosiect gwyddoniaeth presennol yn ‘newidiadau mewn deunyddiau’. Mae’r cyflwyniad yn anelu at blant 5 – 10oed yn para tua 45 munud, gan gynnwys amser ar gyfer cwestiynau. Mae’n gyfle gwych i blant i weld sut mae bara bob dydd yn cael ei wneud, sut y mae’n mynd i mewn i’w cartref a sut y mae’n ffurfio rhan o ddeiet iach.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Nac oes.
01286 870166
Mae Cwmni First Hydro yn rheoli’r gorsafoedd pŵer yn Ninorwig a Ffestiniog yn Eryri. Mae’n cynnig canolfan a theithiau i ymwelwyr. Mae pecyn athrawon ar gael. I ysgolion, athrawon, oedolion a theuluoedd.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
http://www.darkskywales.org/services
Tîm o addysgwyr brwdfrydig a seryddwyr yw Dark Skies Wales. Mae ein hamrywiaeth o weithdai cyffrous a phartneriaethau diwydiannol cryf yn arwain at un nod syml: i ysbrydoli meddyliau ifanc. O adeiladu a lansio eu roced gyntaf, i gael eu amgylchynu gan y sêr a’r planedau ar daith drwy’r gofod, bydd ein gwasanaethau yn sicr o gyffroi disgyblion (ac athrawon!) am seryddiaeth a gwyddoniaeth. Mae ein gweithdai ar gael ar gyfer CA 1, 2 a 3, TGAU a Safon Uwch.
01792 392919
Diwrnodau Natur sydd yn annog dosbarthiadau o ddisgyblion o 3 i 18 oed allan i'r gwlad y Gŵyr i ddysgu cynnwys y cwricwlwm gwyddoniaeth sy'n seiliedig ar gedn gwlad yw 'Natures Days'. Mae'r diwrnodau maes yn cwmpasu ystod o feysydd megis ymchwiliad gwyddonol, cynefinoedd, addasu ac anifeiliaid ac adnabod planhigion. Mae'r holl deithiau maes yn glwm ac adnoddau i'w defnyddio yn y maes a hefyd pecynnau athrawon llawn gwybodaeth i barhau i ymchwilio yn ôl ar dir yr ysgol neu o fewn yr ystafell ddosbarth. Mae ' Natures Days' hefyd yn darparu DPP ar gyfer athrawon sydd yn ymgymryd â gwaith maes a defnyddio tir yr ysgol ar gyfer addysgu gwyddoniaeth. Mae 'Natures Days' wedi eu lleoli yn y Gŵyr yn Ne Cymru lle mae'r teithiau maes yn digwydd ond gall DPP yn cael ei gynnal ar dir eich ysgol eich hun neu safleoedd lleol.
Dr Ken Farquhar info@dodifferent.co.uk
01508 473 016
Mae'r pencampwr jyglo a cemegydd swigod sebon Dr Ken yn wyddonyd, mathemategydd a berfformiwr. Mae wedi datblygu amrywiaeth o sioeau a gweithdai addas ar gyfer pob cyfnod allweddol, nosweithiau rhieni, digwyddiadau yn yr ysgol a sesiynau hyfforddi DPP. "Mae Dr Ken yn berfformiwr syrcas profiadol, actor ac athro gwyddoniaeth. Gall 'Dr Ken wahaniaethu'n addas i bob oedran ac mae'n ysgogol a chyffrous ar gyfer plant a staff o bob oed." Meddai athrawon Ysgol Gynradd y Frenhines Fictoria. Mae'r sioe adloniant Gwyddoniaeth y Syrcas! A ellir ei weld ar 'Teachers TV' – yn edrych ar y wyddoniaeth y tu ôl i'r hwyl a sbri yn y Babell Fawr.
Pam jyglwyr caru disgyrchiant? Sut mae beic unolwyn yn dal i symud ond yn aros yn llonydd o hyd? Mae gwahanol sgiliau a dulliau yn cysylltu gwyddoniaeth y byd go iawn gyda arbrofion theatrig rhyfedd. "Mae Dr Ken yn cyflwyno cysyniadau gwyddonol cymhleth ar yr un pryd a difyru a ysgogi y myfyrwyr. Mae'n cyfathrebu gyda phob oedran yn rhwydd." LSU Llundain.
01792 324404
Mae Martin Thompson o Diamond Dust yn cynnig gweithdai addysgiadol gyda’i gath robot, KA-Tash-Trophe, neu KATT. Bwriad KATT yw i ddiddanu, addysgu ac ysbrydoli.
Mae KATT yn pwyso 220 Kg ac wedi ei modelu ar deigr. Fel arfer mae Ci Robot o’r enw Mascot yn dod gyda hi.
Gallwn ddarparu sesiynau gweithdy mewn ysgolion i CA2 a CA3. Mae disgyblion yn dysgu am wyddoniaeth trwy ryngweithio gyda peirianwaith y robotiaid, gweithgareddau chwarae ac ymchwiliadau.
Gall pob sesiwn gynnwys cyflwyniad PowerPoint a fideos yn dangos ein robotiaid yn gweithio. Mae ymchwiliadau ymarferol a gweithgareddau gyda rhannau o’r robotiaid, llyfrau gweithgaredd, taflenni lliwio, chwileiriau, grid dylunio, byrddau stori a mwy.
Mae pynciau trafod yn cynnwys Tair Deddf Roboteg Isaac Asimov, dyfodol robotiaid a hynodyn.
07759 375680
Dr Mark Lewney, y Doctor Rock, enillydd y cystadleuaeth FameLab cyntaf erioed a ffisegydd gitâr sy'n gallu chwythu eich clustiau gyda Theori Superstring. Mae Mark yn cyflwyno ffiseg anhygoel, gwyddoniaeth a sioeau mathemateg, sgyrsiau a chyflwyniadau ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau – i gyd-fynd â'r cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth yn CA3, CA4, TGAU a Safon Uwch.
01443 492 720
Mae gan Dŵr Cymru bedair canolfan addysg ar draws Cymru.
Mae ymweliadau â’r canolfannau yn RHAD AC AM DDIM.
Canolfan Addysg Amgylcheddol Alwen Mae ystafell ddosbarth yn llawn o offer dan do. Mae’r ganolfan yn cael ei reoli gan athro cyfnod allweddol 2. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur, a theithiau o gwmpas y Gwaith Trin Dŵr. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i brofi trochi yn y pwll, saffari bwystfilod bach, astudio planhigion ac arbrofion yr ystafell ddosbarth, i gyd wedi eu cysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae arddangosfa hanesyddol unigryw ar y gwaith o adeiladu argae Alwen hefyd wedi’i gynnwys yn y rhaglen addysgol.
Mae Canolfan Addysg Amgylchedd Cilfynydd gyda ystafelloedd dosbarth dan do ac awyr agored yn cael eu rheoli gan athro cyfnod allweddol 2. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur, yr astudiaethau Afon Taf a theithiau o gwmpas y Gwaith Trin Dŵr Gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i brofi trochi yn y pwll, saffari bwystfilod bach, astudio planhigion ac arbrofion yr ystafell ddosbarth, gyd wedi eu cysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae Canolfan Addysg Amgylcheddol Rhostir Cog gyda ystafell ddosbarth dan do a reolir gan athro cyfnod allweddol 2. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur a theithiau o gwmpas y Gwaith Trin Dŵr Gwastraff. Gall ysgolion cynradd ymweld â’r safle i brofi pwll dipio, cyfeiriannu, bwystfilod bach saffari, astudio planhigion ac arbrofion yr ystafell ddosbarth, i gyd wedi eu cysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol
Mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Cwm Elan, mae Ceidwad Addysg yn rheoli ystafell ddosbarth dan do. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur, a thaith o amgylch argaeau. Gall ysgolion ymweld â’r safle i brofi trochi yn y pwll, saffari bwystfilod bach, astudio planhigion ac arbrofion yr ystafell ddosbarth,i gyd wedi eu cysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae’r ardal yn gyfoethog mewn anifeiliaid a phlanhigion sy’n gwneud Elan yn safle bywyd gwyllt rhyngwladol bwysig.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
01452 313763
Mae Bae Caerdydd (cartref Dr Who a Torchwood) wedi datblygu o fod yn ddoc gweithio i ardal hamdden bywiog ac ardal ecoleg.Ni all ein teithwyr-amser Fictoraidd ddychwelyd adref heb ddeall y newidiadau, a dyna pam y bydd angen gwyddonwyr arbennig: eich disgyblion CA2! Bydd gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn arbrofion ac arddangosiadau, ac yn defnyddio dulliau ymholiad gwyddonol i weld sut y mae y llanw yn gweithio, sut y ecosystem y bae yn cael ei gynnal, beth yw ysglyfaethwyr a chydbwysedd ysglyfaeth, sut y mae’r deunyddiau ac adeiladu wedi’u gwneud yn gynaliadwy ac yn mynd ati diogelu yr amgylchedd, a sut y mae acwsteg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn gweithio. Sylwadau Athrawon: ‘Gwych, cyfnod allweddol cyfan wedi eu cyfareddu a diddordeb’ – Ysgol Gynradd Penywaun.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
07818 160044
Rydym yn darparu profiad deor cywion i ysgolion, meithrinfeydd, cartrefi ymddeol a chartrefi preifat, yn ogystal ag o fewn swyddfa neu amgylchedd gwaith. Mae profiad Eggsploring yn galluogi plant ac oedolion i brofi y llawenydd o ddeor cywion o flaen eich llygaid. Mae'r broses deor yn syml a di ffwdan, ac yn defnyddio offer o safon uchel a hawdd i'w osod.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
www.engineeringexplained.co.uk
Mae Engineering Explained yn gweithio gyda Science Made Simple i ddod â sioeau gwyddoniaeth i ysgolion.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
0117 951 8712
Gweithdai ffotograffiaeth twll pin ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau powerpoint sy’n cynnwys hanes ffotograffiaeth twll pin, gwyddoniaeth cyfoes yn ogystal â gwneud a defnyddio sawl math o gamera twll pin a adeiladwyd allan o gynwysyddion a ailgylchwyd gan ddefnyddio lliw a deunyddiau ffotograffig du a gwyn. Gall ystafelloedd tywyll gael eu hadeiladu o flaen llaw ac ame pob gweithdy yn cynnwys gosod camera twll pin hyd 6 mis yn edrych dros eich ysgol. Gydag amser ychwanegol y gellir datblygu camera obscuras syml ond effeithiol hefyd i’w gosod o fewn eich ysgol. Dros 19 mlynedd o brofiad yn dysgu ffotograffiaeth twll pin o ysgolion cynradd i lefel ôl l raddedig.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
https://botanicgarden.wales/learning/
01558 667150
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn darparu cyfres o weithdai ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen sy’n ymuno â Tedwen ar antur trwy ddolydd a choedwigoedd i ganfod y Pwll Dirgel. Mae hefyd yn cynnal gweithdai i fyfyrwyr safon uwch ar sut mae planhigion Môr y Canoldir yn llwyddo i addasu. Mae nifer o gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus ar gael ar gyfer athrawon gydol y flwyddyn hefyd. Cysylltwch â’r Swyddfa Addysg i gael rhagor o wybodaeth neu i siarad ag athro.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Llyfrgell ar-lein o adnoddau rhyngweithiol i athrawon a dysgwyr o’r Blynyddoedd Cynnar i ôl-16 yw’r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu (GcaD). Athrawon sydd wedi cynhyrchu’r adnoddau i gyd.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
07813 727414
Mae gan Gwaith Natur dros 16 mlynedd o brofiad o ddarparu Dysgu rhagorol y tu allan i’r cyfleoedd dosbarth yn y DU ac ar draws Ewrop. Ein nod ac athroniaeth yw i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r amgylchedd naturiol i addysg bellach ac i ymgysylltu â myfyrwyr, hyfforddwyr a’r cyhoedd ehangach i werthfawrogi ein byd naturiol.
Gyda arbenigedd mewn addysg uwchradd (CA3, CA4 a Safon Uwch), gan ddefnyddio’r amgylchedd fel ystafell ddosbarth awyr agored, rydym yn meddu ar wybodaeth a phrofiad helaeth o ddatblygu ac addysgu Ecoleg, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Mathemateg a Saesneg ffocws cwricwlwm astudiaethau maes.
Cyflwyniad Cymru: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
www.northwalesbutterflies.org.uk
education@northwalesbutterflies.org.uk
Yn ogystal â rheoli eu gwarchodfa eu hunain, mae gwirfoddolwyr lleol Gwarchod Gloÿnnod Byw hefyd yn ymweld ag ysgolion cynradd lleol i siarad am loÿnnod byw a gwyfynod yr ardal. Maent yn mynd â nifer o loÿnnod byw go iawn gyda nhw fel arfer. Gall aelodau’r gangen helpu i blannu gardd sy’n denu’r pryfed hyfryd hyn a gellir defnyddio adnoddau di-dâl hwylus eu gwefan i addurno waliau’ch ystafell ddosbarth.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
www.rspb.org.uk/reserves/guide/n/newportwetlands/index.aspx
01633 636354
Gallwch ymweld â Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB unrhyw adeg o’r flwyddyn a’r wythnos. Mae ymweliadau diwrnod llawn yn dechrau tua 10am, yn para tua 4 awr gyda seibiant am ginio. Gallwn drefnu sesiynau hanner diwrnod sy’n para tua 2 awr. Mae croeso i athrawon ymweld unrhyw adeg o’r flwyddyn i weld lle bydd eich grŵp yn gweithio, i gynnal eich asesiad risg eich hun ac i drefnu’ch rhaglen.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Mae gweithdai Hands on Science yn cysylltu'n uniongyrchol â'r Cwricwlwm Gwyddoniaeth Cynradd yn ogystal â bod yn hwyl ac yn gofiadwy hefyd.
Mae ein gweithdai CA1-CA3 awr o hyd yn ymarferol ac yn cael eu cynllunio i weithio gyda dosbarth ar y tro. Gall pob plentyn wneud ei ymchwiliadau ei hun a phrofi teg.
Mae gweithdai hefyd ar gael i'w rhentu fel STEMBOXES – sydd ag adnoddau yn union yr un fath â'r rhai a ddefnyddiwn ni. Mae STEMBOXES yn adnodd dosbarth gwych neu ar gyfer clwb gwyddoniaeth.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Amgueddfa sy’n gweithio yn cwmpasu hanes yr injan tanio mewnol mewn arddangosfeydd o’r cyfnod.Rydym yn dangos hanes y cynhyrchu, a’r defnydd o ynni! www.internalfire.com
0800 3345346
Ydych chi’n chwilio am syniadau ar sut i gynnwys roboteg, rheoli a rhaglennu i mewn i’ch cwricwlwm? Bydd hyn yn weithdy hwyl 90-munud sy’n caniatáu i ddisgyblion ac athrawon i ddefnyddio LEGO Addysg MINDSTORMS; yr adnodd amlbwrpas sy’n rhoi hyblygrwydd i ganiatáu i chi i adeiladu unrhyw beth o robotiaid sylfaenol iawn i declyn estynedig. Bydd y sesiwn hon yn caniatáu i chi i adeiladu robot crwydro a defnyddio’r meddalwedd sythweledol llusgo-a-gollwng i ymgymryd â’r Her LEGO! Gellir ei gynnal yn ystod amser gwersi, neu fel rhan o weithgaredd ar ôl ysgol, ac mae’r cwbl AM DDIM! Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer ysgolion sy’n dymuno gosod roboteg yn eu cwricwlwm ac yn hoffi ei weld yn gweithredu cyntaf. Mae MINDSTORMS yn cael ei ddefnyddio ar draws y cwricwlwm STEM cyfan, os oes gennych ffocws penodol, dim ond gofyn a byddem yn hapus i addasu’r gweithdy.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
Mae Mad Science yn cynnig dewis eang o raglenni ar ôl-ysgol, cyn-ysgol, gweithdai gwyliau haf, gweithdai, digwyddiadau arbennig a phartïon pen-blwydd. O raglenni addysgol i adloniant addysgol, mae’r dysgu gyda ‘Mad Science’ Gwyddoniaeth yn llawn dychymyg.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
www.young-enterprise.org.uk/wales
Mae rhaglenni Menter yr Ifanc Cymru yn ysgogi pobl ifanc i ymagweddu’n ‘gadarnhaol a gweithredol’ ac yn rhoi’r sgiliau a’r profiadau iddyn nhw sy’n gwneud gwahaniaeth i’w dyfodol.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
http://trainlikeanastronaut.org
Mae Mission X wedi cael ei ddatblygu gan wyddonwyr o NASA, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a gweithwyr ffitrwydd proffesiynol i ddefnyddio cyffro archwilio'r gofod i ysbrydoli myfyrwyr i ddysgu am wyddoniaeth maeth ac ymarfer corff, ac i gynyddu eu lefelau gweithgarwch. Mae ysgolion yn y DU yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr her Mission X ochr yn ochr ag ysgolion o bob cwr o'r byd.
Mae Llysgennad y Gofod ESERO-UK Dr Ashley Green yn chwilio am wyth ysgol gynradd o fewn cyrraedd hawdd i ei gartref yn yr Amwythig, i gefnogi athrawon sydd yn awyddus i gynnwys eu myfyrwyr mewn Mission X. Mae Dr Green wedi bod yn cefnogi staff mewn 16 o ysgolion yn Lloegr oedd wedi cofrestru ar gyfer y Prosiect Cynradd Tim Peake. Byddai hefyd yn hoffi cefnogi ysgolion yn y Canolbarth. Er ei fod wedi ei eni yng Nghanada, cafodd ei fagu yng Nghaerdydd a enillodd ei PhD mewn peirianneg solar yno.
(Dr Green yn cael ei ariannu gan ESERO-UK, felly mae ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion.)
Dylai athrawon sydd â diddordeb anfon e-bost at Dr Green: aagreen@btinternet.com.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
Mae Pete – Dyn y Trychfilod yn cynnig cyfarfyddiad anhygoel gyda anifeiliaid a fydd yncreu cyffro yn eich ysgol. Mae’r sioe yn gyflwyniad gwych i fyd difyr anifeiliaid bach (ac anifeiliaid sydd ddim mor) ac mae’n llawn o anifeiliaid anarferol; pryfed ffon mawr, chwilod, pryfed cop, sgorpionau a llawer mwy … Mae llawer yn cael eu dal yn y llaw fel fod disgyblion yn cael eu gweld yn agos, mae eraill yn cael eu cadw mewn cynwysyddion er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel y tu ôl i wydr. Mae gan Pete dros 30 mlynedd o brofiad o gadw a dangos anifeiliaid egsotig. Mae ymweliad gan Pete yn hwyl, addysgol a gwarantedig i ddifyrru a rhyfeddu. Mae sesiwn gyda Pete yn ffordd wych i gefnogi’r Cwricwlwm- Prosesau Bywyd a Phethau Byw yn CA1, CA2, CA3 neu CA4. Mae Pete yn gallu cyflwyno nifer o gysyniadau gwyddonol i gynulleidfa ifanc neu gynulleidfa hŷn,sydd yn helpu i egluro cysyniadau ecolegol amrywiol. Mae Pete yn un o’r hoff atyniadau yng Ngŵyl Natur Blynyddol Bryste ac mae wedi teithio yn y DU ddwywaith gyda Steve Backshall ‘Deadly 60’s’ a sioe deithiol CBBC ‘Live ‘n’ Deadly’.
01248 712474
Mae Pili Palas yn gyrchfan boblogaidd i lawer o ysgolion, rhai lleol ac ysgolion pell i ffwrdd. Bydd ymweliad â Pili Palas yn eich helpu i ddysgu am elfennau’r cwricwlwm megis ‘cylchredau bywyd’ a ‘mân drychfilod’. Mae’r ymweliad yn cynnwys sgyrsiau addysgiadol sy’n para hanner awr a fideo hynod ddiddorol am gylchred bywyd glöyn byw yn yr ystafell addysg. Ar ôl hynny, mae ein staff cymwysedig yn mynd â grwpiau am daith o’r ganolfan.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
02920710295
Mae’r daith yn ysbrydoliaeth anhygoel i fyfyrwyr 14-18. Gallant ymuno â’n rhaglen ysbrydoledig yn Star City, Moscow – pencadlys Rhaglen Gofod Rwsia. Bydd myfyrwyr yn gallu gweld uchafbwyntiau’r rhaglen gofod Rwsia, mynd i Moscow i weld golygfeydd mwyaf rhagorol y ddinas ac yn ymuno gyda fforwm amgylcheddol ‘Gwarcheidwaid y Ddaear’. Bydd y rhaglen ISSET cael ei arwain gan Hyfforddwr gofodwyr NASA Michelle Ham.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
Prosiect Telesgôp Faulkes yw adran addysgiadol Rhwydwaith Telesgôp Byd-eang Arsyllfa Las Cumbres (LCOGTN). Nod y prosiect yw darparu mynediad am ddim i delesgopau robotig a rhaglen addysg a gefnogir yn llawn er mwyn annog athrawon a myfyrwyr i gymryd rhan mewn addysg wyddonol sy’n seiliedig ar ymchwil. Rydym yn cynnig ein hadnoddau ni ac adnoddau ein partneriaid yn ddi-dâl i athrawon a myfyrwyr. Dilynwch y dolenni i’r wefan am fwy o wybodaeth.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Nac oes.
0800 028 0041
Mae Prosiect Barefoot wedi'i gynllunio i wella hyder athrawon mewn cyfrifiadureg, gan eu helpu i gymryd eu camau cyntaf.
Mae Barefoot yn herio'r camsyniad fod cyfrifiadureg yn gwbl gyfyngedig i adeiladu a defnyddio y dechnoleg ei hun. Drwy hyrwyddo 'meddwl cyfrifiadurol' mae Barefoot yn helpu athrawon a disgyblion ddeall cysyniadau sy'n sail i ystod eang o bynciau, megis Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Mae'r cysyniadau a'r dulliau o gyflwyno cyfrifiadureg meddwl: algorithmau, patrymau, ac ati, yn berthnasol ar draws y cwricwlwm. Yn wir, maent yn rhan annatod o ddatblygiad cyffredinol sgiliau STEM ehangach disgyblion.
Mae Barefoot hefyd yn helpu i integreiddio y math hwn o feddwl i ddysgu y disgybl; darparu sgiliau, hyder a chymwyseddau ar draws ystod lawn o bynciau STEM a thu hwnt. Nid yn unig mae hyn yn helpu disgyblion i gyflawni mwy ar lefel cynradd, ond maent hefyd yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy wrth iddynt symud i fyw a gweithio mewn byd digidol.
Mae Barefoot yn darparu adnoddau am ddim megis gweithgareddau a chynlluniau gwersi. Mae'r rhain yn cael eu gwneud gan athrawon, ar gyfer athrawon, yn unol â'r cwricwlwm cenedlaethol.
Mae cannoedd o adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim, ac mae yna hefyd weithdai dan arweiniad gwirfoddolwr am ddim ar gael. Bydd gwirfoddolwyr Barefoot yn dod i'ch ysgol ar adeg sy'n addas i chi, ac yn paratoi'r athrawon i ddefnyddio'r adnoddau, gan eu helpu i wella eu hyder cyffredinol mewn cyfrifiadureg.
Bydd athrawon yn gweld gwelliannau enfawr yn seiliedig ar sgiliau STEM-eu disgyblion unwaith mae y cysyniadau hyn yn cael eu harchwilio. Er bod yr adnoddau yn rhad ac am ddim eu hunain yn ddefnyddiol iawn, gweld sut i weithredu rhain yn gyntaf yw'r defnydd gorau o'r Prosiect Cyfrifiadureg Barefoot.
I gael y gorau absoliwt allan o Barefoot, archebwch weithdy rhad ac am ddim drwy fynd i www.barefootcas.org.uk neu cysylltwch â enquiries@barefootcas.org.uk 0800 028 0041
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
01452 865028
Bydd y sesiwn yn yr ysgol yn rhedeg am ddiwrnod cyfan a bydd yn cynnwys plant yn gweithio mewn timau yn dylunio ac adeiladu model y gellir ei reoli drwy raglen gyfrifiadurol a ysgrifennwyd gan y disgyblion. Bydd y grwpiau yn archwilio rhaglenni cyfrifiadurol a’r dylanwad sydd ganddo ar ein bywydau bob dydd. Mae union amseriad y diwrnod yn hyblyg. Mae’r sesiwn wedi ei gynllunio i fodloni holl ofynion ymgorffori TGCh o fewn y cwricwlwm DT.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na
01248 430411
Mae ein Safaris Traeth yn disodli’r profiad cyffwrdd pwll, ac yn darparu profiad morol arbennig y yn gwbl ddwyieithog yng Ngogledd Cymru. Mae athrawon a myfyrwyr o bob oedran yn cael eu cymryd i lannau creigiog a chynefinoedd eraill ar gyfer hwyl ac mewn cyd-destun dysgu am ecoleg traethlin a thrigolion. Gall athrawon gymryd rhan yn llawn neu yn syml oruchwylio wrth i’r myfyrwyr chwilio y draethlin gyda ein biolegwyr ar gyfer planhigion ac anifeiliaid morol. Gallwn ddarparu ar gyfer pob oed, o Ysgol Gynradd i Goleg Trydyddol, a byddwn yn darparu yr holl offer, o rwydi i esgidiau rwber. Rydym gyda asesiad risg llawn ac wedi ein cymeradwyo gan y gymdeithas ar gyfer Gwyddoniaeth Addysg, Prifysgol Cymru, ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i enwi ond ychydig.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
029 2057 3500
Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn defnyddio coetiroedd Sain Ffagan i gynnal nifer o weithgareddau dysgu awyr agored creadigol. Mae’r rhain yn amrywio o archwilio’r goedwig a dysgu am sut mae planhigion ac anifeiliaid yn goroesi yn y tywydd oer i fesur eich effaith bersonol ar y blaned a sut i’w lleihau trwy ailddefnyddio, arbed ac ailgylchu deunyddiau. Cysylltwch â’r Amgueddfa am ragor o fanylion.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
www.liv.ac.uk/chemistry/outreach/schools-lab/
0151 794 3571
Mae’r SchoolsLab ym Mhrifysgol Lerpwl yn cynnig ysgolion gweithdai gwyddoniaeth i ysgolion a cholegau mewn adran yn y brifysgol. Mae’r rhaglenni yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau (er enghraifft, cemeg polymer, sbectrosgopeg, elfennau pontio a nanotechnoleg). Maent yn darparu gweithgareddau ymarferol cemeg a sgyrsiau yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar wyddoniaeth. Ar bob sesiwn yn addas ar gyfer 10-15 o fyfyrwyr o un ysgol neu goleg, ac mae angen o leiaf un aelod o staff gwyddoniaeth i fynychu gyda’r grŵp. Bydd myfyrwyr yn cael budd o wneud gwaith ymarferol mewn lleoliad prifysgol. Mae athrawon yn elwa o gynwys sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, ac o’r cymorth staff cymwys sy’n helpu myfyrwyr gyda’u gweithgareddau.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
Sut y gall clown, jyglwr, digrifwr a gitarydd roc ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr? www.SciEnts.co.uk – yn syml, o ansawdd uchel 'siop un stop' ar gyfer athrawon sy'n chwilio am syniadau ar gyfer trefnu sioe wwyddoniaeth neu fathemateg. Mae pymtheg 'aelod criw' ar gael a gallant drafod pynciau STEM yng nghyd- destun sgiliau perfformio, o gerddorion a dewiniaid i actorion a hyd yn oed rhai sydd yn gweithio mewn syrcas. Mae SciEnts yn cynnig cyfleoedd gwyddoniaeth ymarferol sy'n cefnogi athrawon ysgol ac yn ategu a chyfoethogi pynciau STEM i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr. Mae'r safle yn caniatáu i athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ddewis yn gyflym a hefyd yn rhoi canllawiau i athrawon sut mae sicrhau fod eu diwrnod STEM neu eu digwyddiad Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth yn rhedeg yn llyfn.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na.
029 20 876 884
Cwmni cyfathrebu gwyddoniaeth hynod lwyddiannus yw Science Made Simple sy’n dod â sioeau gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg i ysgolion ledled y DU, gyda’r nod o ennyn brwdfrydedd a chyffro ymysg pobl ifanc ynglŷn â gwyddoniaeth. Mae Science Made Simple yn defnyddio arddangosiadau gweledol, cyfathrebu da a llawer o egni i gynnig cyflwyniadau hynod ryngweithiol awr o hyd sy’n berthnasol i’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion rhwng CA1 a CA5. Mae pynciau yn amrywio o Swigod a Balwnau i’r Sbectrwm Electromagnetig. NEWYDD – cyfres o weithdai gyda cymhorthdal a rhad ac am ddim i ysgolion yn Ne Cymru – mwy o wybodaeth yma.
Cyflwyniad Cymraeg: Nac oes. Adnoddau Cymraeg: Nac oes.
www.sciencemadesimple.co.uk/topics/curriculum-blogs/space-blogs/
02920 688 938
Mae 'Space Made Simple' yn fenter newydd gan 'Science Made Simple', sydd wedi ennill gwobrau cwmni cyfathrebu gwyddonol, ac maent yn cynnig 20 diwrnod seryddiaeth gyda chymhorthdal, diolch i arian gan yr NSA (Yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol). Mae y diwrnod seryddiaeth yn cynnwys sioe 3D yn y bore i'r ysgol gyfan, sioe Gofod 3D i bawb yng Nghyfnod Allweddol 2 ac yn olaf gweithdy drwy'r prynhawn i un o'ch dosbarthiadau (blwyddyn 5 neu flwyddyn 6) (uchafswm 36).
Cyflwyniad Cymraeg: Nac oes. Adnoddau Cymraeg: Nac oes.
Mae canolfan Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru (WIMCS) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n cynnig gweithgareddau ledled Cymru i amrywiaeth o grwpiau ac oedrannau i godi diddordeb mewn mathemateg. I ysgolion, athrawon ac oedolion.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
info@seawatchfoundation.org.uk
01545 561227
Mae’r Sefydliad Gwylio’r Môr yn elusen genedlaethol sy’n gweithio i gadw a diogelu morfilod, dolffiniaid a llabidyddion yn y moroedd o amgylch y DU ac Iwerddon trwy ymchwil gwyddonol a chodi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Me’r wefan yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau am amddiffyn yr amgylchedd morol. Gall athrawon ysgolion cynradd gweithgareddau addysgol lawrlwytho o wefan.
Gall sgyrsiau a deunyddiau gael eu darparu ar gyfer disgyblion uwchradd ac ôl-16, hefyd, trwy gysylltu â’r Sea Watch Foundation. info@seawatchfoundation.org.uk Gall athrawon yng Ngorllewin Cymru sydd â diddordeb mewn gweithio ar brosiectau arsylwi gysylltu gyda’r Sefydliad Gwylio’r Môr yng Nghei Newydd, Ceredigion. Ffoniwch am fwy o fanylion.
laura.turner@deafnessresearch.org.uk
020 7164 2294
Mae’r Sioe Clust Bionic yn sioe rhyngweithiol ac addysgol am y clustiau am ddim, sydd yn hyrwyddo pwysigrwydd edrych ar ôl eich clyw a gwrando yn ddiogel. Mae’r sioe yn dangos sut mae sain yn teithio trwy’r glust i’r ymennydd, yr hyn sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o’r system gwrando, a sut y gall pob rhan o’r system fethu neu ‘dorri i lawr’ – y cyfan mewn ffordd hwyliog, addysgiadol a llawn dychymyg. Mae hefyd yn helpu pobl i ddeall sut y gall unigolion golli eu clyw ac yn darparu negeseuon iechyd addysgol pwysig ar ddiogelu eich clyw eich hunain.
Mae’r sioe yn cael ei deilwra i weddu i grwpiau o wahanol oedrannau a gweithwyr proffesiynol, o blant meithrin i fyfyrwyr prifysgol, yn ogystal ag elusennau a sefydliadau eraill.
Sw Môr Môn yw’r lle delfrydol ar gyfer ymweliad addysgol, rydym i gyd yn hapus iawn i drafod anghenion penodol eich grŵp a chyfateb ein rhaglenni i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae’r staff biolegol morol yn Sw Môr Môn hefyd yn addysgwyr profiadol, ac yn gallu cynnig profiad gwerth chweil, yn llawn gwybodaeth ac yn bennaf oll, profiad pleserus ar gyfer pob oedran a lefelau o’r meithrin i’r brifysgol. Gallwn ddarparu popeth y bydd angen gan gynnwys popeth o daflenni gwaith syml i deithiau tywys llawn, yn ogystal â saffaris traeth, sgyrsiau rhyngweithiol a darlithoedd gan rai o’n biolegwyr môr.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
Y Swyddfa Eiddo Deallusol yw corff swyddogol y llywodraeth sy'n gyfrifol am ganiatáu hawliau Eiddo Deallusol (IP) yn cynnwys Patentau, Nodau Masnach, a Dyluniadau yn y Deyrnas Unedig. Mae'r swyddfa yn un o Asiantaethau Gweithredol yr Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau (BIS).
Mae'r tîm ymgyrchu ac addysg yn ymgysylltu ag athrawon ac addysgwyr ledled y DU i hybu ac addysgu am Eiddo Deallusol (IP) tra'n annog arloeswyr ifanc a chrewyr i godi eu hymwybyddiaeth o hawliau eiddo deallusol (IPR).
Elusen addysgol ddielw sy'n cynnal cynlluniau ledled Cymru i ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i ddewis gyrfa ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yw Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW). Mae EESW yn derbyn cyllid i gynnal prosiect STEM Cymru yn Ardal Gydgyfeirio Cymru gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, a chyllid pellach gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol i barhau â gweithgareddau mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.
Cyflwyniad Cymraeg:Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
029 20475476
Techniquest yw’r ganolfan wyddoniaeth ymarferol ym Mae Caerdydd lle mae’r ymennydd chwilfrydig yn gallu archwilio a dysgu yn ddiarwybod. Mae Techniquest yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weld a chyffwrdd â gwyddoniaeth a chael pob math o brofiadau ymarferol. Mae pob grŵp ysgol sy’n ymweld â Techniquest yn gweld sioe neu gyflwyniad yn y Theatr Wyddoniaeth neu’r Planetariwm neu’n cymryd rhan mewn gweithdy yn y Labordy. Mae Techniquest hefyd yn darparu amrywiaeth o weithdai a sioeau i’w cyflwyno yn eich ysgol.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
01792 606890
Mae Technocamps yn rhaglen allgymorth ledled Prifysgolion Ysgolion Cymru wedi ei leoli ym Mhrifysgol Abertawe gyda chanolfannau yn Aberystwyth, Bangor, Prifysgolion Fetropolitan Caerdydd, Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru (Morgannwg). Fe'i sefydlwyd yn 2003, ac ers 2011 mae wedi cyflwyno gweithdai rhad ac am ddim ar y campws i dros 10,000 o bobl ifanc o 170 o Ysgolion Uwchradd a 50 o ysgolion cynradd ar draws Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, yn ogystal â modiwlau hyfforddi DPP 22-awr am ddim i dros 100 o athrawon.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
http://www.theatr-nanog.co.uk/cy
01639 641771
Mae’r cwmni theatr hwn yn mynd â’i gynyrchiadau ar gyfer plant o bob oed ar daith i ysgolion yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’r cwmni hefyd yn perfformio ei gynyrchiadau ar gyfer ysgolion mewn theatrau ledled Cymru a’r DU ac mae’n cynhyrchu prosiect preswyl pedwar mis yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe, sy’n ei alluogi i greu profiad theatraidd hynod addysgiadol o ansawdd uchel.
Mae Meddwl Mathemateg yn cael ei redeg gan grŵp o siaradwyr mathemateg sy'n ymweld ag ysgolion gyda gweithdai a sesiynau ar gyfer pob oedran a gallu. Mae'r tîm wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd am nifer o flynyddoedd, ac mae'n cynnwys myfyrwyr PhD, cyn-athrawon a chyfathrebwyr mathemateg profiadol. Mae'r sesiynau yn rhyngweithiol, yn ddoniol ac yn cwmpasu cynnwys mathemategol a fydd yn aml yn sylw myfyrwyr ac yn eu hysbrydoli i gymryd mathemateg. Eu nod yw ennyn brwdfrydedd myfyrwyr o bob gallu, tra eu bod dysgu sgiliau meddwl mathemategol amhrisiadwy. Mae Meddwl Mathemateg yn darparu ystod o sesiynau (hyd at awr) ar gyfer 30 – 100 o fyfyrwyr ar bynciau yn amrywio o topoleg, theori rhif, a thebygolrwydd i hud a mathemateg mewn diwylliant poblogaidd. Mae sgyrsiau a gweithdai newydd yn cael eu datblygu bob amser, ac mae rhai o'r siaradwyr yn cynnig eu sesiynau eu hunain, yn seiliedig ar eu harbenigeddau personol.
Mae Andy a Jan o 'Timezones' wedi bod yn wynebau cyfarwydd yn yr ysgolion cynradd De Cymru am bron i 20 mlynedd erbyn hyn. Mae ein cyflwyniadau gwyddoniaeth rhyngweithiol yn cael adborth ardderchog gan athrawon, ac mae dros hanner miliwn o ddisgyblion wedi elwa o weld eu perfformiadau. Mae ganddynt dri sioe ar gyfer babanod, gan gynnwys ‘Mega Mechanics’ sioe ffiseg boblogaidd iawn, ac ar gyfer plant iau ‘Robokids’ sy’n cynnwys y cwricwlwm gwyddoniaeth cyfan mewn 1 awr. Mae ‘Amser a Llanw’ ar gyfer CA2 sy’n cynnwys Gwyddoniaeth Bae Caerdydd, yn ogystal â sioeau EYFS a llawer mwy….
Rydym yn cynnal gweithdai addysg arbennigol arbenigol sydd wedi creu enw cryf da o ran creu amgylcheddau bywiog ac ysgogol ar gyfer pobl ifanc i greu gwaith arloesol a llawn dychmyg. Rydym yn arbenigo mewn datblygu dyheadau pobl ifanc, gan gynhyrchu gweithdai sy'n ennyn diddordeb y cyfranwyr i greu eu ffilmiau eu hunain a gwaith celf, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau tîm, amynedd, dyfalbarhad a sgiliau technegol.
Mae gweithdai 'Turnip Starfish' yn cael eu rhedeg gan athro profiadol ac unigolyn gyda chymwysterau animeiddio diwydianol neu arbenigedd mewn cynhyrchu. Rydym yn dod â'r holl dechnoleg a deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer ein gweithdai a byddwn yn darparu manyleb technoleg diwydianol ar gyfer pobl ifanc i'w ddefnyddio. Am ragor o fanylion ewch i www.turnipstarfish.com/workshops.html.
Mae VSTEAM Education yn ddarparwr gweithdai STEM ar draws y DU sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith. Rydym yn cyflwyno ystod o weithdai sy'n ymdrin â phynciau mewn mathemateg, ffiseg, dylunio a thechnoleg, peirianneg a bioleg. Yn ogystal, rydym yn cyflwyno cyflwyniadau ysgol sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd STEM, cynaliadwyedd yn ogystal â sgyrsiau ysgogol. Dawnswyr stryd proffesiynol sy'n cyflwyno ein hymrwymiadau, sy'n eu gwneud yn unigryw ac yn ddifyr i unrhyw grŵp oedran.
Cyflwyniad Cymraeg: Na. Adnoddau Cymraeg: Na
www.xlwales.org.uk
info@xlwales.org.uk
Mae XLWales yn darparu gweithgareddau STEM i ysgolion cynradd ar draws De Cymru. Mae ein sioeau teithiol wedi bod yn darparu heriau cyffrous, ysbrydoledig, ar ers 1996. Nod Sioe Deithiol Dyfeisio a Darganfod yw helpu plant i brofi cyffro Gwyddoniaeth Dylunio, Technoleg a Mathemateg yn ogystal â helpu i ddatblygu sgiliau bywyd mewn ymchwilio, datrys problemau, gwaith tîm, cyfathrebu, creu, meddwl a all-wneud. Mae ymweliad y Sioe Deithiol yn weithgaredd diwrnod cyfan ac rydym fel arfer yn cynnal heriau gyda thri dosbarth gwahanol. Mae'r Her Ddyfeisiadau yn defnyddio pecyn adeiladu poblogaidd K'NEX sy'n ychwanegu at gyffro y plant, yn ogystal â darparu sylfaen peirianneg. Mae'r Her Ddarganfod yn defnyddio ystod o offer sydd wedi cael ei ddewis yn ofalus gan gyflenwyr addysgol.
01492 532 938
Mae ysgolion sy’n ymweld â’r Sw Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn yn gallu defnyddio gwasanaethau’r Adran Addysg heb unrhyw gost ychwanegol. Mae yna le i 30 eistedd yn ystafell yr ysgol, sy’n llawn arddangosfeydd diddorol ac addysgiadol ac yn defnyddio casgliad o anifeiliaid yn y sesiynau addysgu i ddod â’r pynciau yn fyw! Nod y sw yw ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i weithredu mewn ffordd gadarnhaol i helpu i warchod anifeiliaid gwyllt yn eu cynefin naturiol.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/
01554 741 087
Mae rhaglen y Gwlyptir yn manteisio’n llawn ar ei safle hardd ar aber yr Afon Llwchwr ac ar ei chasgliad anferth a thrawiadol o adar y gwlyptir o bedwar ban byd. Mae’r rhaglenni addysgiadol yn canolbwyntio ar bethau byw yn eu hamgylchedd; cynefinoedd pyllau ac addasu; bioamrywiaeth ac ecosystemau; cadwyni bwyd; cadwraeth; newid amgylcheddol; datblygu cynaliadwy; dinasyddiaeth fyd-eang a’r cylchred ddŵr. Cysylltwch â swyddog addysg y Ganolfan i gael rhagor o wybodaeth am ei rhaglenni.
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
01348 874737
Cwmni Buddiannau Cymunedol di-elw yw Ymddiriedolaeth y Môr gyda'r nod o hybu diddordeb mewn bywyd gwyllt morol. Mae hefyd yn cynnal arolygon teulu'r morfil yn y moroedd o amgylch Sir Benfro. Mae'n rhedeg arddangosiad yn Abergwaun (ar agor bob dydd 10am-4.30pm) gan gynnwys tanc o bysgod a chramenogion sy'n dod o harbwr cyfagos. Ar gyfer ysgolion y mae'n cynnig profiad y tu allan i'r ystafell ddosbarth a sesiwn yn yr arddangosiad "Yellow Submarine". Gall athrawon uwchradd hefyd fod â diddordeb mewn gweithio ar brosiectau arsylwi gydag Ymddiriedolaeth y Môr.
Mae tâl bychan yn cael ei godi ar gyfer mynediad i'r arddangosfa, sy'n mynd tuag at gynnal y tanciau a bwydo'r arddangosion. (Oedolion £2, plant £1)
Cyflwyniad Cymraeg: Oes. Adnoddau Cymraeg: Oes.
01926 333200
Mae Ymddiriedolaeth Smallpeice yn elusen annibynnol, addysgol sy’n hyrwyddo peirianneg, technoleg, gwyddoniaeth a mathemateg fel gyrfa i bobl ifanc. Mae eu ystod eang o raglenni peirianneg ysbrydoledig i fyfyrwyr o Flynyddoedd 9-12,er mwyn annog datblygu sgiliau creadigol, dylunio, menter a thechnoleg.
Mae cyrsiau byr yn digwydd mewn prifysgolion ledled y wlad. Mae’r prisiau yn cynnwys cymhorthdal a chynnwys yr holl lety, prydau bwyd, deunyddiau cwrs a gweithgareddau cymdeithasol.
www.rspb.org.uk/reserves/guide/y/ynys-hir/index.aspx
monica.lloyd-williams@rspb.org.uk
01654 700222
Lleolir gwarchodfa natur Ynys hir yr RSPB ar lannau aber yr Afon Dyfi. Mae’n gartref i amrywiaeth arbennig o gynefinoedd gan gynnwys coetiroedd, morfa heli, pyllau dŵr croyw a thir pori. Mae’n llawn adar cân sy’n bridio yn y gwanwyn ac mae’n denu llawer o hwyaid a gwyddau yn y gaeaf. Mae’r barcud a’r hebog tramor yn bresennol gydol y flwyddyn.
Gall grwpiau ysgol ymweld â’r warchodfa bob dydd rhwng 9am a machlud haul. Mae modd trefnu sesiynau hanner diwrnod sy’n para dwy awr, neu sesiynau diwrnod llawn sy’n cynnwys dau gyfnod dwy awr. Mae croeso i athrawon ddod i weld y safle a’r cyfleusterau unrhyw adeg o’r flwyddyn cyn ymweliad eu dosbarth er mwyn cynnal asesiad risg a threfnu’r rhaglen.
Gall staff yr RSPB ymweld ag ysgolion hefyd fel rhan o’u rhaglenni addysg ar gadwraeth a rhywogaethau.