Mae Clybiau STEM yn ffordd bwerus a difyr dros ben i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn pynciau STEM. Gallant fod yn hwyl ac yn foddhaus i fyfyrwyr ac arweinwyr clybiau, a chreu effeithiau cadarnhaol ar yr ysgol.
Gall cymryd rhan mewn Clwb STEM roi cyfle i fyfyrwyr ennill sgiliau ymarferol, gwaith tîm ac arweinyddiaeth a chynyddu hyder yn y pynciau STEM, gan eu annog i ymgymryd ag astudiaeth bellach o bynciau STEM a'r cyfle i ddarganfod gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM.
Trwy ein Llysgenhadon STEM a'n gwaith gydag ysgolion ac eraill, rydym yn gallu cynnig syniadau, adnoddau, gweithgareddau, arweiniad a chefnogaeth, yn ogystal â lleoedd i chwilio am gyllid posibl wrth sefydlu Clwb STEM neu adeiladu clwb sy'n bodoli eisoes yn eich ysgol.
Os ydych chi'n rhedeg clwb ar ôl ysgol neu glwb amser cinio sy'n gysylltiedig ag unrhyw fath o weithgaredd STEM - er enghraifft, Clwb Peirianwyr Ifanc a Gwyddoniaeth, Clwb Seryddiaeth, Clwb Mathemateg, Clwb Technoleg Bwyd, Clwb Camera - bydd gennych ddiddordeb mewn gwybod bod STEM Learning Ltd wedi sefydlu grŵp cymunedol Clybiau STEM i rannu gwybodaeth.
Mae STEM Clubs yn cynnig toreth o wybodaeth i athrawon sy'n ymwneud â Chlybiau ac yn rhoi canllawiau i chi ar ddechrau a rhedeg clwb, syniadau, gwybodaeth adnoddau, gwybodaeth her ac ati ar-lein.
Mae Gweld Gwyddoniaeth yn anfon cylchlythyrau e-bost rheolaidd i'ch hysbysu am ddigwyddiadau, datblygiadau a mentrau sy'n gysylltiedig â darparu STEM ledled Cymru.
Mae gan Gweld Gwyddoniaeth lawer o adnoddau ar gael i gyfoethogi a gwella'r ddarpariaeth STEM yn eich ysgol.
Dilynwch y ddolen i gael rhestrau cynhwysfawr o adnoddau cyfoes ynghyd â darparwyr allanol sy'n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau sy'n gysylltiedig â STEM.
Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig ystod o weithdai pwrpasol hanner diwrnod a diwrnod llawn.
Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio i ddarparu cyfres o heriau i'r disgyblion.
Dyluniwyd y gweithgareddau fel y gellir eu defnyddio hefyd fel gweithgareddau diwrnod pontio.
Mae'r heriau wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu, gweithio mewn tîm ac annog chwilfrydedd disgyblion i ddarganfod sut a pham mae pethau'n gweithio. Yn ystod pob her bydd disgyblion yn datblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu ac arloesi.