Hoffem glywed gan athrawon a all ein helpu i ddatblygu astudiaethau achos gan roi blas o'r math o brosiectau CREST a gynhelir mewn ysgolion.
Os hoffech chi gyfrannu, cysylltwch â ni.
Mae gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain lawer o adnoddau prosiect i'w lawrlwytho am ddim yma. Cysylltwch â ni os hoffech help i ddod o hyd i adnoddau ar thema benodol. Mae llawer o adnoddau CREST ar gael yn y Gymraeg.
Dilynwch y ddolen hon am adnoddau a gweithgareddau sydd wedi'u hachredu gan CREST.
Gweld Gwyddoniaeth yw Sefydliad Cymorth Rhanbarthol CREST (RCSO) Cymru. Rydym yn darparu arweiniad arbenigol trwy gydol cynllun Gwobrau CREST.
Mae CREST yn dod â gwyddoniaeth yn fyw trwy gynnig cyfleoedd i bobl ifanc 11-19 oed archwilio prosiectau byd go iawn mewn ffordd gyffrous ac arloesol.
Cliciwch ar y penawdau isod i ehangu'r cynnwys ar gyfer yr astudiaeth achos hwnnw. Mae clicio ar bennawd arall yn cau'r un a oedd ar agor o'r blaen yn awtomatig.
Mae myfyrwyr yn cyflawni Gwobrau CREST Efydd drwy weithgareddau ysbrydoledig ac ymgysylltu.
Tua diwedd tymor yr haf bu grŵp o ddisgyblion dawnus a thalentog o flwyddyn 7 yn Ysgol Syr Hugh Owen yn cymryd rhan mewn gweithdy i ddysgu sut i wneud plastig eu hunain o laeth. Maent yn dilyn hyn i fyny trwy gynnal ymchwiliad ar y gwahanol fathau o blastig a sut y gellir eu defnyddio, ac yn cyflwyno eu canfyddiadau mewn fformatau digidol amrywiol. Ariennir y gweithgaredd gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru.
Y Ddaear Gynaliadwy:
Sgiliau gwyddonol:
"Rydym yn ffodus iawn i allu croesawu Robyn i'n hysgol. Roedd yn darparu disgyblion cyfle gwych i ddisgyblion ymarfer eu sgiliau ymholi yr oeddynt wedi datblygu fel rhan o gwricwlwm CA3 ac i weld eu perthnasedd mewn cyd-destun anghyfarwydd. Roedd yn braf gweld y disgyblion yn mwynhau'r gwaith ymarferol ac mae eu hymateb brwdfrydig i'r dasg ymchwil wedi cadarnhau hyn. Yn ben ar y cyfan roedd y disgyblion yn falchiawn gyda'r tystysgrifau CREST trawiadol a gawsant!" Dr Huw Williams, Pennaeth Gwyddoniaeth, Ysgol Syr Hugh Owen.
Cychwynodd cysylltiad Ysgol Syr Huw Owen yn gyntaf gyda Gwobrau CREST yn dilyn cyswllt gyda Heather Hall (Gweld Gwyddoniaeth), y Cydlynydd CREST Lleol a gweithdy diwrnod gan Dr Robyn Wheldon-Williams, Rheolwr Allgymorth Ysgolion, Adran Gemeg, Prifysgol Bangor; fferyllydd a oedd yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol. Mae Robyn yn cyflwyno gweithdai a sioeau megis ' Flash Bang'.
Yn dilyn cyflwyniad byr am blastigau, bu'r disgyblion yn gwylio arddangosiad o sut y gall llaeth gael ei drin i gynhyrchu ffurf o blastig, cyn cynllunio ymchwiliad i wneud eu sampl eu hunain. Mae'r broses yn golygu gwresogi'r llaeth a'i gymysgu ag asid sy'n achosi i'r protein yn y llaeth i geulo. Mae'r disgyblion wedyn yn straenio y gymysgedd i echdynnu y protein hwn, lliwio gan ddefnyddio lliw bwyd, mowldio i mewn siapiau a'u sychu i ffurfio deunydd solid 'plastig'. Mae'r protein yn cael ei adnabod fel casein, ac roedd yn sail ar gyfer cynhyrchu'r plastigau cyntaf yn y 1930au, cyn fod plastig synthetig ar gael.
Ar ôl eu sesiwn labordy, cafodd y disgyblion y dasg o ymchwilio i wahanol fathau o blastig sydd ar gael heddiw, dod i wybod am eu priodweddau cemegol a strwythur, a chysylltu hyn â'r defnydd a wneir mewn cynhyrchion pob dydd. Cyflwynwyd y wybodaeth hon wedyn mewn fformat digidol fel cyflwyniadau Powerpoint, dogfennau Publisher, a hyd yn oed MovieMaker sydd ers hynny wedi ymddangos ar You Tube.
Mae'r prosiect estynedig yn cynnwys sesiwn ymarferol yn y labordy, ymchwilio a chyfathrebu gyflwynwyd yn llwyddiannus gan y disgyblion fel gwobr Efydd CREST yn Nhymor yr Hydref.
Mae myfyrwyr yn ennill profiad uniongyrchol o gyfarfod a gweithio gyda fferyllydd, gyda'r bonws ychwanegol ei fod yn gyn-ddisgybl o'r ysgol!Mae Robyn hefyd yn rhan o'r Rhaglen Llysgenhadon STEM. Roeddent yn gallu defnyddio'r syniadau o arddangosiad labordy i gynhyrchu eu sampl eu hunain o blastig, gan amrywio'r lliw a siâp y cynnyrch gorffenedig. Mae'r gwaith ymchwil ar blastig wedi rhoi cipolwg ar yr amrywiaeth o wahanol fathau, priodweddau a defnydd o'r deunydd cyfarwydd bywyd bob dydd, ac wedyn bydd cyfle i ddatblygu ymhellach eu sgiliau TG wrth gyflwyno eu canfyddiadau.
Ar ôl cael eu dewis i gymryd rhan yn y gweithdy cyffrous, ac yna dilyn i fyny eu gwaith ymarferol gyda ymchwilio a chyflwyno eu syniadau, mae'r myfyrwyr hyn wedi cael cipolwg gwerthfawr ar sut mae gwyddonwyr yn gweithio. Mae myfyrwyr wedi dysgu i weithio'n annibynnol ac ennill hyder trwy brofiad a oedd yn cyfoethogi ac ymgysylltu. Bob blwyddyn mae myfyrwyr yn Ysgol Syr Hugh Owen yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwella a chyfoethogi yn y pynciau STEM. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r rhain wedi cynnwys, ymweliadau gan y planetariwm o Techniquest a cromen gell,gweithdy geneteg a drefnwyd gan Techniquest, diwrnod gwyddoniaeth fforensig gyda chyflwynwyr gwadd ac ymweliad sbectromedr is-goch symudol o Brifysgol Bangor. Mae myfyrwyr hefyd wedi mynychu gweithdai Cemeg Salters a gweithdy peirianneg i ferched dawnus a thalentog yn y Brifysgol. Mae myfyrwyr Safon Uwch cymryd rhan yn rheolaidd yn yr Her Peirianneg yn y Brifysgol ac yn ymgymryd â phrosiectau Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) lle maent yn cael cyfle i ennill Gwobr Aur CREST.
Y gobaith yw y bydd myfyrwyr Blwyddyn 7 fu'n cymryd rhan yn y gweithgaredd 'Plastics' yn symud i fyny'r ysgol ac i mewn i addysg uwch a chyflogaeth, byddant yn parhau i ddatblygu eu diddordeb, gwybodaeth ac arbenigedd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg,Peirianneg a Mathemateg.
Mae cyflwyno CREST mewn fformat cystadleuaeth sy'n caniatáu i grwpiau o ddisgyblion o wahanol flynyddoedd gyflawni Gwobrau Efydd drwy gysylltu'r ymchwiliad i'r cwricwlwm ac i senario y 'byd go-iawn'. Mae Gwobr CREST yn sicrhau fod y gystadleuaeth gyda ffocws ychwanegol sy'n galluogi pob disgybl i gyflawni yn ogystal â bod yn werth chweil ac yn hwyl.
Mae'r athrawes Cemeg Lisa Lock, yn Ysgol Abertilleri wedi cynnwys Gwobrau CREST iyn y cwricwlwm gwyddoniaeth drwy gynnwys y disgyblion mewn cystadleuaeth gwyddoniaeth yr ysgol. Mae'r disgyblion sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn cysylltu â'r cwricwlwm i senario o'r 'byd go-iawn'. Mae'r enghraifft hon yn dangos pa mor hyblyg yw Gwobrau CREST sydd yn cysylltu â'r cwricwlwm mewn ffordd ddychmygus ac yn helpu'r disgyblion i gymryd rhan mewn pynciau STEM.
Mae Gwobrau CREST yn rhoi canmoliaeth i unrhyw ran o'r cwricwlwm gwyddoniaeth; yn yr achos hwn cafodd y prosiect / cystadleuaeth ei ysgrifennu gan yr athrawes cemeg fel gweithgaredd dosbarth â oedd yn cwmpasu'r meysydd o'r cwricwlwm ac yn darparu senario gyda'r 'byd go-iawn'.
"Rwy'n gweld bod y disgyblion wedi mwynhau'r gystadleuaeth a'r dysgu broblem. Mae'r disgyblion wedi elwa o gymryd rhan weithredol gyda Gwobrau CREST ar y lefel Efydd."
Bu disgyblion ym mlynyddoedd 7-9 yn cymryd rhan mewn Cystadleuaeth Gwyddoniaeth Fforensig lle roedd angen iddynt ddatrys 'llofruddiaeth' drwy ddadansoddi samplau a gymerwyd oddi wrth y dioddefwr a phum drwgdybiwr. Roedd rhaid i'r disgyblion ddefnyddio technegau gwyddonol cymhleth i ddarganfod cyfansoddiad cemegol yr holl samplau, cyn penderfynu pwy allai fod wedi cyflawni y drosedd.
Cafodd y disgyblion eu darparu gyda senario a nifer o amheuon fod drwgdybwyr wedi cael y cyfle i gyflawni trosedd. Drwy gynnal yr ymchwiliad cemegol ar y samplau dim ond un o'r rhai dan amheuaeth oedd yn addas ar gyfer y proffil. Roedd angen sgiliau ymholi a sgiliau dadansoddol i ddadansoddi'r canlyniadau er mwyn darganfod pwy oedd y dihuryn!
Mae golygfa senario trosedd yn ddewis delfrydol ar gyfer y disgyblion sydd â diddordeb mewn DPC a gwyddoniaeth fforensig. Drwy ymgysylltu sgiliau dadansoddol a phynciau y cwricwlwm i gystadleuaeth gall y disgyblion ddysgu mewn ffordd hwyliog a chofiadwy.Trwy eu gwersi gwyddoniaeth, mae'r disgyblion yn dysgu technegau a sgiliau sydd eu hangen o fewn y cwricwlwm yn ogystal a'r sgiliau dadansoddol y tu ôl i ddadansoddiad fforensig ac felly roeddent yn gallu cysylltu'r cwricwlwm i fyd y gwaith a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Cynhaliwyd tri rhagras ac yna cafodd y tîm buddugol o bob rhagras, yn ogystal â'r ail uchaf eu cymryd i'r Labordy DNA yn Ysgol Nantyglo i gymryd rhan mewn Pencampwriaeth Gwyddoniaeth.
"Mae pawb yn troi allan i fod yn Ditectifs Fforensig arbennig ac yn glod iddyn nhw eu hunain a'r ysgol. Mae pob disgybl wedi derbyn tystysgrif a gwobrau am gymryd rhan. Mae'r Wobr CREST Efydd yn ychwanegu ffocws ychwanegol i'r gweithgaredd ac yn galluogi'r holl ddisgyblion i ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion."
Teimlia Lisa Lock fod defnyddio'r Gwobr CREST yn y fformat hwn yn llwyddiannus iawn, gyda'r disgyblion yn cymryd rhan ac yn ystyried prosiectau eraill yn y dyfodol. Teimlai fod yr holl brofiad wedi bod yn fuddiol ar gyfer yr ysgol a'r disgyblion.
Gall gwobrau CREST ysbrydoli prosiect yn seiliedig ar ddysgu sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm ar gyfer yr holl grwpiau blwyddyn ar draws yr ysgol. Gall y sbardun cychwynnol i ysbrydoli prosiect fod yn grŵp theatr sy'n ymweld, gwaith maes neu ardal o'r cwricwlwm gyda cyd-destun 'byd go-iawn'.
Athrawes Cemeg yn ysgol Gyfun Glyncoed yw Dr Rebecca Roberts, oedd yn awyddus i gynnwys Gwobrau CREST yn y cwricwlwm STEM. Yn ystod tymor yr haf, cynlluniodd Dr Roberts i dreialu Gwobrau CREST gyda thri grŵp blwyddyn: blynyddoedd 7, 8 a 11 drwy ddylunio prosiectau ar gyfer y tri grŵp blwyddyn sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Roedd yn llwyddiant mawr gyda'r disgyblion sy'n cymryd rhan ac maent wedi elwa o'r cynllun.
Mae Gwobrau CREST yn rhoi canmoliaeth i unrhyw ran o'r cwricwlwm gwyddoniaeth, os nad oes 'na brosiect addas mae'n hawdd i'w haddasu neu ysgrifennwch brosiect eich hun. Un fantais yw y gall rhannau o'r cwricwlwm gael mwy o sylw gan y disgyblion ac hefyd roi ymdeimlad o gyflawniad, yn ogystal â'u galluogi i ymarfer sgiliau, er enghraifft, i ddatblygu sgiliau cyfathrebu pan fyddant yn cyflwyno eu prosiect i'r dosbarth gan ddefnyddio Powerpoint.
"Mae Cynllun Gwobrau CREST sy'n seiliedig ar brosiectau sy'n gyraeddadwy i bob disgybl p'un ai os ydynt yn abl a thalentog neu AAA yn wych. Y rhan orau oedd gwylio fy nosbarth AAA gan eu bod yn sylweddoli fod hyn yn rhywbeth y gallent lwyddo ynddo ac chael eu cydnabod am. Y tro cyntaf i mi glywed am y Gwobrau CREST a'i manteision oedd ar ôl mynychu cyfarfod STEM a drefnwyd gan y deiliaid cytundeb CREST lleol ynYsgol Gyfun Gorllewin Trefynwy. Ers hynny, rwyf wedi integreiddio Gwobrau CREST i mewn i fy ngynllun dysgu. Mae'r myfyrwyr yn Ysgol Gyfun Glyncoed wedi elwa o gymryd rhan gweithredol yn Ngwobrau CREST ar y lefel Efydd ac Arian."
Mae Dr Roberts wedi cynnal y Gwobrau CREST Efydd ac Arian.
Mae meddwl am dystysgrif ar y diwedd yn sbarduno y disgyblion Gwobr CREST Efydd ymlaen, a phan fyddai pethau'n mynd anodd roedd hyn yn gymhelliad â oedd yn eu hannog i wneud y gwaith ychwanegol sydd ei angen i gwblhau eu prosiectau.
'Roedd y ffaith fod UCAS yn cymeradwyo Gwobrau CREST i'w cynnwys mewn datganiadau personol myfyrwyr ac y gallent ddangos eu tystysgrifau yn eu cyfweliadau coleg yn sbarduno ar gyfer disgyblion Gwobr Arian CREST.
Yn y ddau achos 'roedd Gwobrau CREST yn ysbrydoli disgyblion i:
"Ar ôl gweld yr effaith gadarnhaol y mae'r Gwobrau CREST wedi ei gael ar y disgyblion sydd wedi cymryd rhan ynddo yn Ysgol Gyfun Glyncoed byddwn yn sicr yn aros yn rhan o'r Gwobrau CREST. Yn wir, y cynllun yw i gynnwys y Gwobrau CREST Efydd ac Arian yn y cwricwlwm, gan alluogi pob disgybl i gael y siawns o ennill y wobr.
"Roeddwn yn digalonni ar y dechrau, gyda'r syniad o'r holl waith ychwanegol a'r ansicrwydd a fyddai'n dod o gyflwyno'r Gwobrau CREST i'r disgyblion a'r ysgol. Ond chwe mis yn ddiweddarach, gyda chefnogaeth ac arweiniad gan y deiliad cytundeb CREST lleol, rwyf wedi llwyddo o'r diwedd. Mae'r budd sydd wedi dod i'r disgyblion wedi yn llawer mwy na'r problemau yr wyf wedi dod ar eu traws ar hyd y ffordd. Felly ewch ati i roi cynnig arni. Does dim unrhyw beth i'w golli o gyflwyno'r Cynllun Gwobrau CREST ac mae llawer iawn i'w ennill."
Enillodd grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 9 eu Gwobr CREST Efydd trwy weithio gyda'r brifysgol a diwydiant lleol i gyflawni'r Her F1. Mae CREST yn cefnogi gwaith prosiect deinamig a chreadigol.
Ffurfiodd grŵp o bedwar myfyriwr blwyddyn 9 o Ysgol Uwchradd Friars ym Mangor, Gwynedd dîm i gystadlu yng Nghystadleuaeth F1 mewn Ysgolion sy'n cael ei gydlynu yng Nghymru gan STEM Cymru. Dilynwyd misoedd o waith ymroddedig, pan ddatblygodd a rasiodd y myfyrwyr eu car model model nwy eu hunain.
CA3 Dylunio a Thechnoleg: Sgiliau - Dylunio
CA3 Dylunio a Thechnoleg: Sgiliau - Creu
CA3 Gwyddoniaeth: Sgiliau
CA3 Gwyddoniaeth: Ystod – Sut mae pethau'n gweithio
“Roedd y tîm o bedwar yma yn Ysgol Friars yn rhagori ar yr holl ddisgwyliadau ac yn llawn haeddu mynychu'r Rownd Derfynol Genedlaethol. Roedd yr ethig gwaith a'r cymhelliant a ddangoswyd gan bob aelod yn rhagorol. Trwy gydol y broses gyfan, bu holl aelodau'r tîm yn gweithio gyda'i gilydd ac yn cynhyrchu ffolio dylunio rhagorol ynghyd â chyflwyniad wedi'i roi at ei gilydd yn ofalus. Rwy'n hynod falch o'r tîm F1 mewn Ysgolion hwn a'r hyn a gyflawnwyd ganddynt. Mae'r tîm eleni wedi gwneud rhai ychwanegiadau gwerthfawr i'r tîm. Mae dau aelod newydd wedi ymuno i ddod â sgiliau a chymhelliant ychwanegol, i'r hyn a oedd eisoes yn dîm llwyddiannus wedi'i yrru gan lwyddiant, brwdfrydedd a chymhelliant.” Shaun Holdsworth.
Ar ôl sefydlu eu tîm ‘Fast Lane’ yn nhymor yr hydref, aeth y myfyrwyr ati i ymchwilio i ofynion CSS Bloodhound a sut y byddent yn adeiladu eu model rasio. Er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth roedd yn hanfodol cadw o fewn y rheolau, ond hefyd datblygu syniadau newydd a'u harchwilio. Yn ogystal, roedd yn ofynnol i'r tîm gynhyrchu cynllun busnes, datblygu cyllideb a chodi nawdd.
O'u gwybodaeth am dechnoleg a gwyddoniaeth, roedd y tîm yn gwybod y byddai agweddau ar ffrithiant, llilinio, iriad a dewis deunyddiau i gyd yn chwarae rhan wrth ddylunio a gwneud car rasio model llwyddiannus.
Fel rhan o'r gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion iroedd grwpiau yn cael mynediad at becyn meddalwedd CAD Solid Works ac i Quick CAM i weithgynhyrchu'r car ei hun. Gweithgynhyrchwyd y car model Bloodhound ei hun gan ddefnyddio peiriant CNC Denford ym Mhrifysgol Bangor, a chyda'u hysgol ddim ond taith gerdded fer i ffwrdd, roedd y tîm yn gallu bod yno i weld eu model yn cael ei dorri o'r bloc rheoleiddio o bren balsa!
Yn dilyn ymchwil helaeth, dewisodd y tîm olwynion wedi'u gwneud o aloi magnesiwm, gan ei fod yn ysgafnach nag alwminiwm ac felly'n lleihau pwysau'r car ymhellach. Roedd gostyngiad pwysau ychwanegol yn ein cerbyd yn yr echelau. Gwnaed y rhain o ffibr carbon. Cynhaliwyd llawer o brofion i gofnodi cyflymder ac amseroedd ymateb. Roedd y profion hyn yn darparu sylfaen i'r hyn a fyddai yn y pen draw yn fodel Bloodhound hynod gyflym a chain.
Roedd gwaith datblygu pellach yn cynnwys profi twnnel gwynt, yn rithwir ac yn y peth go iawn, ac wrth gwrs yn treialu'r car ar hyd trac a adeiladwyd yn arbennig. Ar gyfer y gystadleuaeth roedd angen i'r car Bloodhound gael ei bweru gan getris nwy CO2 ac i redeg ar hyd trac 20m o hyd.
Treuliodd y myfyrwyr, gyda’u hathro dylunio a thechnoleg fel eu mentor, oriau lawer ar waith ymchwil a datblygu wrth iddynt baratoi eu car ar gyfer Rownd Derfynol Ranbarthol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl cyflawni'r lle cyntaf, yna fe wnaethant ennill lle iddynt eu hunain yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Ffair Wyddoniaeth Big Bang, ICC Excel yn Llundain. Yma daeth y tîm ‘Fast Lane’ yn ail yn genedlaethol o fewn y Dosbarth Bloodhound! Cyflawniad gwych!
Yn ystod eu hymweliadau â Phrifysgol Bangor a Ffair Wyddoniaeth Big Bang yn Llundain, llwyddodd y myfyrwyr i drafod eu prosiect gydag ystod eang o beirianwyr a gwyddonwyr.
Wrth gymryd rhan yn y prosiect F1 mewn Ysgolion hyn sy’n gysylltiedig â CREST mae’r myfyrwyr yn y tîm ‘Fast Lane’ wedi cael profiad bythgofiadwy. Mae wedi gofyn iddynt weithio yn eu gwahanol rolau fel rhan o dîm, gwneud gwaith ymchwil â ffocws mewn maes technolegol iawn, defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol soffistigedig ar gyfer dylunio a gweithgynhyrchu eu car, ac i weithio tuag at derfynau amser allanol. Bydd hyn i gyd yn eu sefyll mewn sefyllfa dda iawn ar gyfer eu hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol, ym mha bynnag faes y byddant yn ei ddewis.
Bu ‘Fast Lane’ yn ffodus i ennill cefnogaeth gan y canlynol: Recognition Express, Welsh Slate, Ysgol Friars, Gwynedd Smart Repair a Phrifysgol Bangor.
Mae gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain lawer o adnoddau prosiect i'w lawrlwytho am ddim yma. Cysylltwch â ni os hoffech help i ddod o hyd i adnoddau ar thema benodol. Mae llawer o adnoddau CREST ar gael yn y Gymraeg.
Hoffem glywed gan athrawon a all ein helpu i ddatblygu astudiaethau achos gan roi blas o'r math o brosiectau CREST a gynhelir mewn ysgolion.
Os hoffech chi gyfrannu, cysylltwch â ni.
Dilynwch y ddolen hon am adnoddau a gweithgareddau sydd wedi'u hachredu gan CREST.
Gweld Gwyddoniaeth / See Science
8 Cilgant Sant Andreas
Caerdydd CF10 3DD
02920 344727
Gweld Gwyddoniaeth Cyf. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cwmni: 07712605
Dyluniad gwefan: www.word-smiths.co.uk
Gweld Gwyddoniaeth / See Science
8 Cilgant Sant Andreas
Caerdydd CF10 3DD
02920 344727
Llyfrgell adnoddau STEM
Gweld Gwyddoniaeth Cyf. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cwmni: 07712605
Dyluniad gwefan: www.word-smiths.co.uk