Image

Gwobrau CREST

CREST logo

Gweld Gwyddoniaeth yw Sefydliad Cymorth Rhanbarthol CREST (RCSO) Cymru. Rydym yn darparu arweiniad arbenigol trwy gydol y broses Gwobrau CREST. 

Mae CREST yn gynllun a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n ysbrydoli pobl ifanc i feddwl ac ymddwyn fel gwyddonwyr a pheirianwyr trwy waith prosiect dan arweiniad myfyrwyr yn y pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Mae CREST yn darparu gweithgareddau a syniadau prosiect ar gyfer ystod o oedrannau, maint grwpiau a galluoedd. O heriau parod, awr o hyd hyd at brosiectau ar raddfa fawr, dan arweiniad myfyrwyr o dros 70 awr o waith neu fwy, gall unrhyw un wneud CREST. 

Mae ysgolion a cholegau ledled Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y gwobrau CREST cenedlaethol i ysgogi diddordeb mewn gwyddoniaeth a hybu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd pynciau sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth. 

Mae Gwobrau CREST yn weithgareddau delfrydol i'w cynnal yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain ac mewn Clybiau STEM. Mae'r Wobr Darganfod hefyd yn addas iawn i weithgareddau dosbarth cyfnod pontio. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau Gwobrau CREST yng Nghymru a sut i gofrestru, cysylltwch â ni neu ewch i wefan CREST.

Gwobrau CREST yng Nghymru – AM DDIM i BAWB

Mae Llywodraeth Cymru, trwy eu Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn cefnogi Gwobrau CREST yng Nghymru ar gyfer pob oedran - bydd holl gofrestriadau CREST ar gyfer disgyblion Cymru AM DDIM. Mae hyn yn gwella presenoldeb y cynllun yng Nghymru yn fawr, gan adeiladu ar lwyddiannau diweddar a darparu cyfleoedd pellach sy'n gysylltiedig â STEM i bobl ifanc.

Y costau cofrestru yng Nghymru, diolch i'r gefnogaeth, am y flwyddyn academaidd hyd at Rhagfyr 2023 yw:

 Ysgolion yng Nghymru(fesul disgybl)Ysgolion yng ngweddill y DU (fesul disgybl)
StarAM DDIM£1.00
SuperstarAM DDIM£1.00
DarganfodAM DDIM£3.00
EfyddAM DDIM£5.00
ArianAM DDIM£10.00
AurAM DDIM£20.00

Cynlluniau gwobrau CREST i ddisgyblion uwchradd a cynradd 

Nod cynlluniau Gwobrau CREST Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain yw ysbrydoli ac ennyn diddordeb disgyblion mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Mae'r cynlluniau gwobrau CREST a gydnabyddir yn genedlaethol yn cynnwys: 

CREST ar gyfer Uwchradd: Grymuswch eich myfyrwyr i redeg eu hymchwiliad eu hunain o'r dechrau i'r diwedd - gadewch iddyn nhw redeg y prosiect maen nhw am ei wneud!

  • CREST Aur (16+ oed)
  • CREST Arian (14+ oed)
  • CREST Efydd (11+ oed)

CREST ar gyfer Pontio: Datblygwch sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a gwaith tîm eich myfyrwyr trwy fynd i'r afael â her yn y byd go iawn dros ddiwrnod.

  • CREST Darganfod (10-14 oed)

CREST ar gyfer Cynradd: Ysbrydolwch eich myfyrwyr oed cynradd gyda gweithgareddau byr, ymarferol sy'n eu herio i archwilio'r byd o'u cwmpas. 

  • CREST Superstar (7-11 oed)
  • CREST Star (5-7 oed)

CREST yn y Cwricwlwm i Gymru

Yn gynnar yn 2021 lansiodd Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain ganllawiau ar gyfer athrawon yn dangos sut y gellir ymgorffori CREST yng nghwricwlwm yr ysgol. Mae canllawiau ar wahân ar gyfer Cynradd ac Uwchradd ac mae'r ddau yn cynnwys adrannau yn benodol ar Gwricwlwm Cymru. Fel rhan o'r canllawiau, mae gweithgareddau CREST yn cael eu mapio ar y cwricwlwm. Gellir dod o hyd i'r rhain yn Llyfrgell Adnoddau CREST yma.

CREST a Bagloriaeth Cymru

Gellir defnyddio prosiectau Gwobrau CREST fel Prosiectau Unigol ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru yn CA4 a CA5.

CREST a chynllun Gwobr Dug Caeredin

Mae CREST yn gymwys i'w ddefnyddio tuag at adran sgiliau Gwobr Dug Caeredin. Gallwch ddarllen mwy am sut mae'r gwobrau'n gorgyffwrdd yma

I fyfyrwyr, mae Gwobrau CREST yn gydnabyddiaeth bendant o lwyddiant. Gellir eu cynnwys mewn cofnodion personol o gyflawniad - a'u defnyddio i wella ceisiadau i brifysgolion, colegau a darpar gyflogwyr.