Cryfder Gweld Gwyddoniaeth yw staff y cwmni ac ymgynghorwyr, sydd â blynyddoedd lawer o brofiad o weithio ym maes addysg a darparu gweithgareddau cyfoethogi.
Tîm craidd Gweld Gwyddoniaeth yw:
Cerian Angharad yw Rheolwr Gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Gweld Gwyddoniaeth.
Mae Cerian wedi bod yn athrawes Gwyddoniaeth ers 1993. Mae ei phrofiad yn yr ystafell ddosbarth yn cynnwys 12 mlynedd fel Pennaeth Ffiseg mewn ysgol gyfrwng Gymraeg yn Ne Cymru.
Gradd gyntaf Cerian oedd Ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Yna aeth ymlaen i gwblhau cwrs CPE yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg cyn dilyn cwrs TAR Uwchradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd farc CSiTeach yn 2008.
Mae hi wedi bod yn gefnogwr brwd o'r Sefydliad Ffiseg (IoP) trwy gydol ei gyrfa ac wedi bod yn Gydlynudd Rhwydwaith Athrawon iddynt ers 2004 ac yn Hyfforddwr Dysgu ac Addysgu ers 2015.
Mae ganddi brofiad o drefnu cynadleddau athrawon llwyddianus yng Nghymru ar ran y Sefydliad Ffiseg ynghŷd â chyflwyno gweithdai ymarferol a digwyddiadau ledled Cymru a thu hwnt. Mae yn Swyddog Maes i’r ASE ers 2004 gan drefnu amrywiaeth eang o weithgareddau i athrawon yng Nghymru ac hfyd yn Arweinydd Hwb i’r Marc Ansawdd Gwyddoniaeth Cynradd (PSQM).
Sefydlodd Cerian Gweld Gwyddoniaeth ar y cyd gyda Liz Terry yn 2010. Ers hynny, mae Gweld Gwyddoniaeth wedi gweithio mewn partneriaethau llwyddiannus gyda llawer o sefydliadau ledled y DU gan gynnwys Y Gymdeithas Fioleg Frenhinol , Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Amgueddfa Cymru a'r Ymddiriedolaeth Addysgu Gwyddoniaeth Cynradd.
Derbyniodd Cerian MBE am ei gwasanaeth i hyrwyddo gwyddoniaeth ac ymgysylltu â phobl ifanc yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Ionawr 2020.
Ymunodd Llinos Misra â’r tîm yn eu swyddfa yng Nghaerdydd yn Ionawr 2017.
Hi yw cyldlynydd prosiectau Gweld Gwyddoniaeth ac mae’n datblygu ac yn cyflwyno ystod eang o weithdai i ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru.
Llinos hefyd yw Swyddog Cefnogi Rhanbarthol CREST yng Nghymru.
Yn awyddus i alluogi ysgolion cyfrwng Cymraeg gael mynediad at adnod-dau STEM o safon uchel, mae hi yn gyfieithydd profiadol o adnoddau gan amryw o sefydliadau.
Mae gan Llinos gefndir amrywiol wedi iddi weithio yn y diwydiant gemegol, mewn ysgolion ac ym myd cyfathrebu gwyddoniaeth.
Graddiodd ym 1990 gyda gradd mewn Peirianneg Gemegol a gweithiodd fel Peiriannydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu gemegol cyn hyfforddi fel athrawes mathemateg uwchradd. Yna gweithiodd ar draws y sector ad-dysg, gan gynnwys ysgolion uwchradd a chynradd yn ogystal â dysgu Sgili-au Sylfaenol i oedolion.
Yn dilyn newid arall mewn cyfeiriad, bu Llinos yn gweithio mewn canolfan wyddoniaeth flaenllaw lle bu yn datblygu a chyflwyno ystod eang o raglenni addysgiadol i gynulleidfaoedd ysgol a chyhoeddus o bob oed.
Mae Hayley Pincott yn cydlynu y Rhaglen Llysgenhadon STEM ar gyfer y Partner Llysgenhadon STEM yng Nghymru, Gweld Gwyddoniaeth. Mae'r rôl yn cynnwys recriwtio, hyfforddi a lleoli dros 1,600 o Lysgenhadon STEM yng Nghymru.
Yn ogystal, mae'n cysylltu ag athrawon, cyflogwyr, addysgwyr a grwpiau cymunedol i gefnogi gweithgareddau cyfoethogi trwy'r rhaglen Llysgenhadon STEM.
Ymunodd Hayley â’r tîm gan ei bod yn awyddus i gynorthwyo a chefnogi Llysgenhadon STEM i hyrwyddo ac amlygu pynciau STEM a gyrfaoedd STEM. Mae Hayley wedi gweithio fel Ymarferydd Cyswllt yn y GIG a’i rôl oedd cynorthwyo i fonitro, canfod a thrin afiechyd.
Mae ganddi bron i 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn labordai Gwyddor Biofeddygol sy’n cwmpasu ystod o ddisgyblaethau patholeg gan gynnwys Histoleg, Biocemeg, Haematoleg a Banc Gwaed.
Cofrestrodd Hayley fel Llysgennad STEM i godi proffil gwyddonwyr gofal iechyd ac mae’n ysgrifennydd cangen De Ddwyrain Cymru y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol. Cwblhaodd Hayley PGCert mewn Cyfathrebu Gwyddoniaeth ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd o Brifysgol Caeredin yn 2021.
Ymunodd Louise Thomas â Thîm Gweld Gwyddoniaeth Caerdydd ym mis Ionawr 2023.
Mae’n cysylltu ag athrawon, cyflogwyr, addysgwyr a grwpiau cymunedol i gefnogi gweithgareddau cyfoethogi trwy’r rhaglen Llysgenhadon STEM.
Graddiodd Louise o Brifysgol Lerpwl yn 1991, gyda gradd mewn Anatomeg a Bioleg Ddynol. Dilynodd yrfa mewn Embryoleg Glinigol am 17 mlynedd, yn gyntaf yn gweithio i Brifysgol Bryste ac yna i’r Coleg Meddygaeth, Caerdydd. Roedd ei rôl yn cynnwys defnyddio gametau dynol i greu embryonau ar gyfer trin cleifion, storio gametau dynol ac embryonau ynghyd â chyhoeddiadau academaidd.
Yn 2010 enillodd TAR mewn Gwyddoniaeth Uwchradd, ac enillodd y Wobr Addysgeg ym Met Caerdydd. Yn dilyn cyfnod o ddysgu Bioleg a Ffiseg uwchradd yng Nghaerdydd, mae hi bellach wedi ymuno â Gweld Gwyddoniaeth i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Wyddonwyr.
Gweld Gwyddoniaeth / See Science
8 Cilgant Sant Andreas
Caerdydd CF10 3DD
02920 344727
Gweld Gwyddoniaeth Cyf. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cwmni: 07712605
Dyluniad gwefan: www.word-smiths.co.uk
Gweld Gwyddoniaeth / See Science
8 Cilgant Sant Andreas
Caerdydd CF10 3DD
02920 344727
Llyfrgell adnoddau STEM
Gweld Gwyddoniaeth Cyf. Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cwmni: 07712605
Dyluniad gwefan: www.word-smiths.co.uk