Llysgenhadon STEM

Mae Llysgenhadon STEM yn gwirfoddoli eu hamser a'u harbenigedd i hyrwyddo STEM i bobl ifanc mewn ffyrdd gwreiddiol, creadigol, ymarferol ac atyniadol.

STEM Ambassador Hub Wales

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn gweithio gyda dros 2,000 o wirfoddolwyr gwych ac ysbrydoledig sy'n cefnogi'r cwricwlwm STEM mewn ysgolion, yn cefnogi gweithgareddau STEM yn y gymuned ac yn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd STEM.

Pwy yw Llysgenhadon STEM?

Image

Mae Llysgenhadon STEM o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynrychioli nifer fawr o wahanol gyflogwyr.

Ymhlith llawer o gefndiroedd a phroffesiynau eraill, mae ein Llysgenhadon STEM yn cynnwys: gwyddonwyr amgylcheddol, peirianwyr awyrofod, dadansoddwyr ynni, daearegwyr, genetegwyr, ffisegwyr niwclear, peirianwyr cemegol, dylunwyr graffig, rheolwyr cyllid, penseiri, dylunwyr gemau, rheolwyr prosiect, syrfewyr a gweithwyr meddygol proffesiynol.

Sut mae Llysgenhadon STEM yn gwneud gwahaniaeth?

Maent yn helpu i agor y drysau i fyd o gyfleoedd a phosibiliadau sy'n deillio o ddilyn pynciau a gyrfaoedd STEM.

Mae ymchwil yn dangos bod Llysgenhadon STEM yn codi ‘cyfalaf gwyddoniaeth’ pobl ifanc, yn cynyddu eu hymgysylltiad â STEM, codi eu dyheadau ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfaoedd.

P'un a'i ydych chi'n gyflogwr, athro, arweinydd grŵp cymunedol neu arweinydd ieuenctid, neu yn gwirfoddoli fel Llysgennad STEM ar hyn o bryd, gallwn eich cefnogi chi.


Cliciwch ar y penawdau isod i wybod mwy am wahanol agweddau ar ddod a bod yn Llysgennad STEM.