Ar gyfer cyflogwyr Llysgenhadon STEM

Recriwtio a chofrestru'ch gweithwyr fel Llysgenhadon

Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn ychwanegu gwerth at ein gwaith a bywydau pobl ifanc yng Nghymru.

STEM Ambassador Hub Wales

Mae yna ddigon o ffyrdd y gallwch chi ysbrydoli pobl ifanc o bob cefndir i symud ymlaen i astudio a dilyn gyrfaoedd STEM.

Mae pobl ifanc ac ysgolion hefyd yn rhoi gwerth enfawr i gyflogwyr. Gallwn ddarparu llawer o gyfleoedd i chi hyrwyddo'ch sector a'ch cyfleoedd gwaith i bobl ifanc.

Darganfyddwch fwy am gynnig cyflogwr STEM Learning yma a dadlwythwch eich llawlyfr Cyflogwr yma.

Ymunwch â'r Rhaglen Llysgenhadon STEM

Ysbrydolwch bobl ifanc i fyd gwaith trwy annog eich gweithwyr i ddod yn Llysgenhadon STEM. Mae Llysgenhadon STEM yn dangos posibiliadau pynciau a gyrfaoedd STEM trwy ddatgelu pa mor hanfodol yw Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ledled y byd yr ydym yn byw ynddo.

Darganfyddwch fwy yma.

Gwobr Ysbrydoliaeth STEM

Mae'r Gwobrau Ysbrydoliaeth STEM yn dathlu'r unigolion, sefydliadau a chlybiau STEM sy'n gweithio i ysbrydoli pobl ifanc mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Digwyddiad blynyddol yw hwn a gydlynir gan STEM Learning - darganfyddwch fwy yma.

Beth sy'n gysylltiedig?

Ar ôl i chi lenwi ein ffurflen gais, bydd rhestr fer yn cael ei llunio a byddwch yn cael eich gwahodd i ddod i'n seremoni wobrwyo genedlaethol. Cyhoeddir yr enillwyr mewn digwyddiad gwobrau mawreddog yn San Steffan.