Digwyddiad undydd ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 10, 11 a 12 o ysgolion uwchradd yng Nghymru, i archwilio byd electroneg a datrys dirgelwch lled-ddargludyddion.
Gall ysgolion neu fyfyrwyr unigol archebu eu lle yn y digwyddiadau hyn. Yn ystod y dydd, bydd cyfranogwyr yn darganfod mwy am Electroneg ac astudio'r pwnc ar lefel prifysgol. Bydd cyflwyniad ‘ymarferol’ hefyd i ficroreolyddion, teithiau tywys a chyfleoedd i siarad â myfyrwyr presennol a staff addysgu.
Mae 3 digwyddiad:
Prifysgol Bangor, dydd Mercher Ebrill 17eg. Bwcio yma.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, dydd Llun Mehefin 24ain. Bwcio yma.
Prifysgol De Cymru (Campws Pontypridd), dydd Mercher Gorffennaf 3ydd. Bwcio yma.
Dewch ag arbrawf cemeg i'ch ystafell ddosbarth gynradd gyda'r gweithgaredd ymarferol syml a hwyliog yma.
Byddwn yn dangos pa mor hawdd yw gwneud eich past dannedd eich hun a byddwn yn awgrymu sut y gall eich disgyblion ymchwilio i'r cynnyrch trwy brofi a yw'r past dannedd yn gweithio ai peidio!
Gall gwneud past dannedd fod yn weithgaredd ar ei ben ei hun neu byddwn yn dangos i chi sut y gall fod yn ddechrau taith Gwobrau CREST eich disgyblion.
Os na allwch ymuno ar y diwrnod, cofrestrwch ymlaen llaw a derbyniwch recordiad o’r sesiwn ar-lein ynghyd â fideo gwych gan Lysgennad STEM deintyddol yn rhoi syniadau ar sut y gallwch gysylltu’r gweithgaredd â dysgu am iechyd y geg.
Cofrestrwch yma.
De Cymru. Dydd Mawrth Gorffennaf 2il, 9.30am–3.00pm, Y Coleg Merthyr Tudful CF48 1
Gogledd Cymru. Dydd Gwener Gorffennaf 5ed, 9.30am–3.00pm, Prifysgol Bangor LL57 2PZ
Rydym yn falch o fod yn ymuno unwaith eto i ddod â'n cynadleddau dydd blynyddol i chi. Y llynedd, fe wnaethoch chi ofyn am fwy o weithgareddau ymarferol felly eleni bydd RSC, IOP a gwestai arbennig yn cyflwyno tri gweithdy ymarferol.
Cewch gyfle i fynychu’r holl weithdai, cael amser i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r wlad ac, wrth gwrs, mwynhau cinio arnom ni.
Cofrestrwch am ddigwyddiad De Cymru yma.
Cofrestrwch am ddigwyddiad Gogledd Cymru yma.
Gwnewch gais nawr i gymryd rhan flwyddyn nesaf!
Mae Diwrnodau Her IET Faraday® yn ddiwrnodau gweithgaredd STEM undydd am ddim sy’n cyflwyno myfyrwyr i beirianneg, yn eu hysbrydoli i ystyried peirianneg fel gyrfa ac yn helpu i ddatblygu eu sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd, gan gynnwys gweithio mewn tîm, datrys problemau a meddwl yn greadigol. Maent wedi'u cynllunio fel diwrnodau gweithgaredd trawsgwricwlaidd sy'n cwmpasu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Mae ein Diwrnodau Her yn rhoi cyfle i chwe thîm o chwe myfyriwr, 12-13 oed (Cymru a Lloegr Blwyddyn 8, Yr Alban S1/S2, Gogledd Iwerddon Blwyddyn 9), i ymchwilio, dylunio a gwneud datrysiadau prototeip i broblemau peirianneg y byd go iawn. Mae’r gystadleuaeth flynyddol hon, gyda digwyddiadau ar draws y DU gyfan, yn gweld timau’n cystadlu i ennill gwobr i’w hysgol. Mae’r timau gorau ar ddiwedd y tymor yn cael eu gwahodd i’r Rowndiau Terfynol Cenedlaethol i frwydro i gael eu coroni’n Bencampwyr Cenedlaethol IET Faraday® ac ennill gwobr ariannol o hyd at £1,000 i’w hysgol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener Mai 24ain 2024.
Manylion yma.
At sylw Ysgolion Cynradd yn siroedd Dinbych, Casnewydd a Torfaen
Mae Ymddiriedolaeth Edina yn cynnig grantiau gwyddoniaeth ysgolion cynradd o £700 a grantiau gwyddoniaeth blynyddoedd cynnar o £500. Mae grantiau ar gael mewn awdurdod leol am dair mlynedd, cyn symud ymlaen i ardaloedd newydd.
Mae'n syml iawn i'w gael gan bod y grantiau yn anghystadleuol, sy'n golygu eich bod yn sicr o gael arian os ydych yn un o'r ardaloedd cyfredol.
Gall ysgolion ddefnyddio'r arian ar gyfer:
Mae manylion y broses ymgeisio syml yma.