Wedi ei ddiweddaru ddiwetha: Mai 2il 2024
Dydd Mercher Mai 15fed 13.30-14.30
Cyfarfod rhwydweithio ar-lein i dechnegwyr AR-LEIN
Cyfarfod yw hwn i dechnegwyr sy'n rhoi cyfle iddynt rannu syniadau, prosiectau ac arfer da gyda technegwyr eraill mewn ysgolion a cholegau ar draws y wlad. Mae gan bob TechMeet ar-lein slotiau cyflwyno i chi rannu eich arbenigedd gyda thechnegwyr ledled y wlad. I'r rhai sy'n gwylio mae'n ffordd wych o rannu syniadau a gallwch ofyn cwestiynau ar ôl pob cyflwyniad. I archebu lle ewch yma
Dewch ag arbrawf cemeg i'ch ystafell ddosbarth gynradd gyda'r gweithgaredd ymarferol syml a hwyliog yma.
Byddwn yn dangos pa mor hawdd yw gwneud eich past dannedd eich hun a byddwn yn awgrymu sut y gall eich disgyblion ymchwilio i'r cynnyrch trwy brofi a yw'r past dannedd yn gweithio ai peidio!
Gall gwneud past dannedd fod yn weithgaredd ar ei ben ei hun neu byddwn yn dangos i chi sut y gall fod yn ddechrau taith Gwobrau CREST eich disgyblion.
Os na allwch ymuno ar y diwrnod, cofrestrwch ymlaen llaw a derbyniwch recordiad o’r sesiwn ar-lein ynghyd â fideo gwych gan Lysgennad STEM deintyddol yn rhoi syniadau ar sut y gallwch gysylltu’r gweithgaredd â dysgu am iechyd y geg.
Cofrestrwch yma.
Cynhelir digwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth a'r Senedd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol am yr ugeinfed tro yn y Senedd a’r Pierhead, Bae Caerdydd, ddydd Mawrth 21 Mai 2024.
Bydd thema eleni yn seiliedig ar Yr Economi Werdd.
Noddir y digwyddiad hwn gan David Rees AS, dirprwy lywydd y Senedd.
Mae Gwyddoniaeth a’r Senedd yn dwyn ynghyd y gwyddonwyr, y peirianwyr a’r llunwyr polisi sy’n gweithio i adeiladu dyfodol i bawb.
Manylion yma.
Ymunwch â'n cymuned o ysgolion a sefydliadau mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr ddydd Mercher 22 Mai 2024 i ddathlu'r rhifau rydyn ni'n eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd!
P’un a ydych yn hyrwyddo rhifedd mewn ysgol, gartref, gweithle neu sefydliad arall, pan fyddwch yn cofrestru byddwch yn derbyn pecyn cymorth gyda’r holl ddeunyddiau rhad ac am ddim sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan a helpu’r genedl i symud ymlaen gyda rhifau.
Mwy o wybodaeth yma.
Digwyddiad ar-lein wedi'i anelu at Bl 7- Bl 9. Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Gwyddoniaeth Biofeddygol a darganfod mwy am y wyddoniaeth y tu ôl i ofal iechyd.
Ymunwch â ni wrth i ni gynnal y sesiwn Holi ac Ateb byw hon sy'n cynnig cyfle i sgwrsio â rhai o’n Llysgenhadon STEM sy’n gweithio ym maes Gwyddor Biofeddygol. Gallech chi ddarganfod beth maen nhw'n ei wneud bob dydd. Beth maen nhw'n ei fwynhau fwyaf? A oes unrhyw rannau o'u swydd nad ydynt yn eu hoffi? Beth oedd y llwybr gyrfa at eu rôl? Cofrestrwch a darganfyddwch ychydig mwy am un o'r gyrfaoedd cudd o fewn y GIG.
Os na allwch ddod i'r sesiwn fyw yna cofiwch gofrestru beth bynnag gan y bydd recordiad o'r sesiwn yn cael ei anfon atoch.
Cofrestrwch yma.
Mae’r ymgyrch arobryn yn parhau i ysbrydoli plant 5-14 oed i gymryd yr awenau wrth ofyn, ymchwilio a rhannu cwestiynau gwyddonol sy’n bwysig iddynt gyda chynulleidfaoedd newydd.
Profiad cynhwysol, anghystadleuol a chydweithredol i bawb.
Mae cofrestru ar agor drwy'r flwyddyn sy'n rhoi mynediad i amrywiaeth eang o adnoddau i ysbrydoli eich disgyblion i wyddoniaeth a pheirianneg.
Manylion yma.
Mae'r Ffair Big Bang yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda gweithgareddau ymarferol, arbrofion a gweithdai. Mae dathliad STEM mwyaf y DU ar gyfer pobl ifanc yn dychwelyd ddydd Mercher 19 i ddydd Gwener 21 Mehefin 2024 yn yr NEC yn Birmingham.
Peidiwch â cholli'r sioeau llwyfan byw anhygoel yn y Ffair Big Bang! Yn ôl ar ol llwyddiant blaenorol, mae 2 sioe ryngweithiol, sy'n mynd â chi ar daith gyffrous trwy STEM.
Manylion yma.
Digwyddiad undydd, yn ystod gwanwyn 2024, ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 10, 11 a 12 o ysgolion uwchradd yng Nghymru, i archwilio byd electroneg a datrys dirgelwch lled-ddargludyddion.
Gall ysgolion neu fyfyrwyr unigol archebu eu lle yn y digwyddiadau hyn. Yn ystod y dydd, bydd cyfranogwyr yn darganfod mwy am Electroneg ac astudio'r pwnc ar lefel prifysgol. Bydd cyflwyniad ‘ymarferol’ hefyd i ficroreolyddion, teithiau tywys a chyfleoedd i siarad â myfyrwyr presennol a staff addysgu.
Manylion yma.
Cynhadledd RSC gyda IOP
Rydym yn falch o fod yn ymuno unwaith eto i ddod â'n cynadleddau dydd blynyddol i chi. Y llynedd, fe wnaethoch chi ofyn am fwy o weithgareddau ymarferol felly eleni bydd RSC, IOP a gwestai arbennig yn cyflwyno tri gweithdy ymarferol.
Cewch gyfle i fynychu’r holl weithdai, cael amser i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r wlad ac, wrth gwrs, mwynhau cinio arnom ni.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, mewngofnodwch neu cofrestrwch i gael cyfrif ar wefan Addysg RSC yma.
Cynhadledd RSC gyda IOP
Rydym yn falch o fod yn ymuno unwaith eto i ddod â'n cynadleddau dydd blynyddol i chi. Y llynedd, fe wnaethoch chi ofyn am fwy o weithgareddau ymarferol felly eleni bydd RSC, IOP a gwestai arbennig yn cyflwyno tri gweithdy ymarferol.
Cewch gyfle i fynychu’r holl weithdai, cael amser i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r wlad ac, wrth gwrs, mwynhau cinio arnom ni.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, mewngofnodwch neu cofrestrwch i gael cyfrif ar wefan Addysg RSC yma.
Digwyddiad undydd, yn ystod gwanwyn 2024, ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 10, 11 a 12 o ysgolion uwchradd yng Nghymru, i archwilio byd electroneg a datrys dirgelwch lled-ddargludyddion.
Gall ysgolion neu fyfyrwyr unigol archebu eu lle yn y digwyddiadau hyn. Yn ystod y dydd, bydd cyfranogwyr yn darganfod mwy am Electroneg ac astudio'r pwnc ar lefel prifysgol. Bydd cyflwyniad ‘ymarferol’ hefyd i ficroreolyddion, teithiau tywys a chyfleoedd i siarad â myfyrwyr presennol a staff addysgu.
Manylion yma.
Darganfyddwch ymchwil ac arloesedd blaengar yn Arddangosfa Wyddoniaeth Haf Y Gymdeithas Frenhinol, a gynhelir rhwng 2 a 7 Gorffennaf 2024, profiad rhyngweithiol rhad ac am ddim sy'n agored i bawb â meddwl chwilfrydig.
Bydd grwpiau ysgol yn gallu ymweld ag Arddangosfa y Gymdeithas Frenhinol rhwng 3 – 5 Gorffennaf, ochr yn ochr â'r cyhoedd. Mae cynnwys yr Arddangosfa yn fwyaf addas ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr STEM 14+ oed ar lefel TGAU a Safon Uwch (neu gyfwerth) sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg). Yn ystod eu hymweliad, bydd grwpiau ysgol yn cael y cyfle i siarad yn uniongyrchol ag ystod eang o ymchwilwyr mewn 14 o stondinau arddangos blaenllaw a hefyd ymgysylltu ag amrywiaeth o weithgareddau a sgyrsiau rhyngweithiol sy’n hygyrch i’r cyhoedd.
Manylion yma.