World Skills UK rownd derfynol a Sioe Sgiliau
Coleg Caerdydd a'r Fro
Dyddiad: 16-18 Tachwedd 2022
Mae Sioe Sgiliau/Ffair Gyrfaoedd yn cael ei chynnal ochr yn ochr â rowndiau terfynol WorldSkills UK sy'n cael eu cynnal yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.
Mae ysgolion o Gaerdydd a’r cyffiniau wedi’u gwahodd i ddod draw i weld rhai o’r cystadlaethau sy’n cael eu cynnal a hefyd i ddarganfod mwy am eu camau nesaf a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.
Bydd Tîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW) yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Rhowch Gynnig Arni ac yn gofyn i ddarparwyr helpu gyda rhai o'r stondinau, yn ogystal â mynd â'ch llenyddiaeth/rhoddion am ddim eich hun gyda chi. Bydd aelodau o Dîm ISEiW o gwmpas i ddangos sut mae'r offer yn gweithio ac i ateb unrhyw ymholiadau trwy gydol y dydd.
Fel y gwelwch o'r rhestr isod bydd ystod eang o weithgareddau ar gael, er bod y rhestr derfynol eto i'w chadarnhau.
- Peirianneg - Weldio Rhithiol, Hydroleg/ Mecanweithiau, Cit adeiladu peirianyddol,
- Cit Cylched, Lego.
- Adeiladu - Efelychydd Cludiant, Gwaith Brics, Gwaith Saer, Plymio, Trydanol,
- Tech Gwyrdd, Tirfesureg a Lefelu.
- Creadigol a'r Cyfryngau - animeidio 2D a 3D animation a Thech Cerddoriaeth.
- Iechyd Lletygarwch a Ffordd o Fyw - Arlwyo, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Trin Gwallt,
- Harddwch, ICAROS, Gofal Plant.
- TG a Menter - citiau TG a IT kits and Parth Trochi CWIC.
Mae hwn yn gyfle gwych i chi hyrwyddo eich cynnig ac nid oes unrhyw gost i arddangos. I fynegi diddordeb yn y digwyddiad hwn ewch yma
#SCW22 @WorldSkillsUKW @iseinwales
|