Ymunwch â ni i archwilio sut y gellir cysylltu cynaliadwyedd â chemeg, bioleg a ffiseg mewn diwrnod o weithdai a thrafodaethau ar gyfer athrawon gwyddoniaeth. Ynghyd â’r ASE, IOP a phrosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE) Prifysgol Abertawe, byddwn yn cyflwyno gweithgareddau ac ymarferion ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y rôl bwysig y gall algâu ei chwarae mewn datgarboneiddio diwydiant, ac ymchwiliad i wyddoniaeth ar raddfa ficro fel agwedd fwy cynaliadwy at waith ymarferol.
Cefnogir y digwyddiad hwn a ariennir yn llawn gan STEM Learning ac mae wedi’i anelu at athrawon gwyddoniaeth uwchradd, technegwyr, athrawon newydd gymhwyso ac athrawon dan hyfforddiant, a byddai o’r budd mwyaf i’r rhai sy’n datblygu cwricwlwm newydd a/neu sy’n gweithio gyda dosbarthiadau yng ngham cynnydd 4 a cham cynnydd 5 (tua CA3 a CA4).
Bydd bwrsariaethau ar gael gan STEM Learning Ltd.
Ar gyfer De Cymru, bwcio yma.
Ar gyfer Gogledd Cymru, bwcio yma.
Ar y bore Sadwrn byddwn hefyd yn trefnu bore o ddigwyddiadau i deuluoedd yn Sw Môr Môn - gan gynnwys gweithdy Ffiseg "arnofio a suddo", taith o amgylch y Sw a chyflwyniad gan yr Adran Eigioneg, Prifysgol Bangor. Cysylltwch â cerian.angharad@iop.org am fwy o fanylion.
|