Annwyl Lysgennad STEM
Eleni gwelwyd datblygiadau newydd yn y rhaglen; y prif nodwedd yw'r Llwyfan Digidol. Nod yr arloesedd hwn yw gwella'ch mynediad i’ch proffil Llysgennad STEM, diweddaru'ch 'cofnodion gweithgaredd' eich hun, gweld casgliad o geisiadau diweddar ar draws y rhwydwaith a hefyd chwilio trwy gatalog helaeth o adnoddau.
Fe allwch chi gael mynediad i'ch proffil trwy logio i mewn i www.stem.org.uk gyda'ch cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair.
Gall Llysgenhadon STEM sydd angen DBS newydd ac nad ydynt yn gallu cwrdd â’r Hwb yn bersonol ar gyfer y gwiriad ID nawr enwebu gwirydd ID Allanol. Mae cyfarfodydd gyda Hwb Cymru yn dal i gael eu darparu ond bydd y cyfleuster hwn yn arbed llawer o amser. Sicrhewch fod eich DBS yn dal i fod yn gyfredol - mae'n ofyniad er mwyn parhau yn y Rhaglen.
Hefyd, i'w nodi yw’r DBS Update Service, gwasanaeth gwerthfawr a rhad ac am ddim i Lysgenhadon STEM. Pan adnewyddwch eich DBS, mae gennych 30 diwrnod i gofrestru’r rhif DBS fel gwirfoddolwr. Bydd hyn yn dilysu eich DBS newydd i'w ddefnyddio heb orfod ei hadnewyddu cyhyd ag y dymunwch barhau â'ch rôl Llysgennad STEM.
Yn naturiol, byddaf yn dal i roi cyfleoedd lleol i chi a'ch cefnogi chi yn eich rôl Llysgennad STEM.
Darllenwch ymlaen am newyddion cyffrous ar ddigwyddiadau!
Sian
|
|
Lansiad Canolfan Renishaw
Ar y 28ain o Fawrth, roeddwn yn falch o fod yn westai yn lansiad Canolfan Datblygu Ffabrigo (FDC) newydd Renishaw ar safle Miskin Pontyclun.
Mae'r Ganolfan yn cynnig ystod wych o gyfleoedd dysgu i fyfyrwyr Cynradd ac Uwchradd. Datblygwyd rhaglen a chyfleusterau'r FDC gyda'r nod penodol o gyflwyno a brwdfrydu dysgwyr mewn sgiliau Peirianneg.
Darllenwch am y cyfleoedd gwych sydd ar gael yn Renishaw’s yma
Agorwyd y Ganolfan gan Wing Commander Andy Green, sy'n dal Record Cyflymder Tir y Byd ac sy'n gweithio gyda Bloodhound SSC yn anelu at y record 1000 mya.
Roedd y car Bloodhound Supersonic yno i bawb ei weld. Roedd Tîm Llysgennad STEM Renishaw yn arweinwyr teithiau gwych.
Cafodd disgyblion Ysgol Gyfun Radur wylio sioe gan Lysgenhadon Bloodhound, a chymeryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdy. Mae ysgolion yn bwcio'n gyflym iawn ar gyfer gweithdai am ddim, a chymeradwywyd ansawdd y rhaglen gan yr athrawon o Ysgol Gyfun Radur.
“Rydym mor ddiolchgar am y bartneriaeth busnes-ysgol sydd gennym gyda nhw. Diolch”
Ras Green Power Goblin Renishaw dydd Sadwrn Mehefin 9fed – Mae croeso i Lysgenhadon STEM yn y digwyddiad yma.
|
|
Green Power Goblin yn Ysgol Gynradd Edwardsville
Mae’r Llysgennad STEM Bob Love yn fentor a hyfforddwr canmoladwy ar gyfer tîm Rasio Green Power Goblin Edwardsville. Mae'r disgyblion yn yr ysgol wedi bod yn gweithio ar adeiladu’r Kit Car ers mis Rhagfyr; cafodd yr alwad am gefnogaeth ei wneud gan yr athrawes Catherine Price ac roedd Bob yn ffit perffaith fel Llysgennad STEM am ei arbenigedd a'i frwdfrydedd amlwg.
Ers mis Ionawr mae Bob wedi ymweld â'r ysgol bob wythnos, gan gymryd y disgyblion trwy Ddosbarthiadau Meistr ar adeiladu prosiect, manylebau technegol y car ac yn raddol rhoi’r car at ei gilydd.
Roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag un sesiwn yn yr ysgol. Ymgymerwyd â gwaith hyfryd iawn gyda'r disgyblion yn dysgu trin offer ymarferol, adeiladu cynaliadwy, electroneg a ffiseg grymoedd a mudiant. Mae Bob yn dechrau'r sesiwn gyda sgwrs ar y mathemateg, peirianneg a ffiseg cyn iddynt ddechrau bore o waith ar y car.
Mae ystafell ddosbarth wedi ei neilltuo ar gyfer adeiladu’r car ac yn ystod y bore hwnnw bu’r plant yn rhoi’r breciau at ei gilydd ac yn profi’r pŵer brecio.
Mae staff wedi bod yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Bob:
“Heb ei fewnbwn a'i sgil ni fyddai hyn byth wedi digwydd. Mae fel aelod o'r staff addysgu nawr ac wedi nodi meysydd gwendid y gallwn weithio arni i wella dysgu disgyblion, megis mesur a chymhwyso mathemateg - ased tîm go iawn!”
Catherine Price
“Y prosiect gorau erioed!! Dwi wedi dysgu sut i ddefnyddio sbaner ac am Ohms” Maisie
“Darllen y diagram gwifro oedd y peth mwyaf diddorol a’r cyflymiad oedd rhan orau’r adeiladu” Jack
“Dwi wedi dysgu sut i ddefnyddio tyrnsgriw a sbaner, dwi wir yn mwynhau’r prosiect yma”
Millie
Bydd gyrrwyr, peirianwyr ac arweinwyr yn cael eu dewis ar gyfer y rownd derfynol a bydd y tîm i’w gweld yn Ras Green Goblin Renishaw dydd Sadwrn, Mehefin 9fed. Maen nhw’n gobeithio codi arian ar gyfer gwisg smart i’r tîm. Pob lwc iddyn nhw!
|
|
Wythnos Wyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Crughywel
Fel rhan o’r Wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol, dathlodd disgyblion Ysgol Uwchradd Crughywel trwy gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau STEM cyffrous. Dechreuwyd yr wythnos gyda taith i’r Big Bang Fair yn yr NEC lle bu disgyblion blwyddyn 9 yn mwynhau amrwy o weithdai STEM, arddangosiadau a digon o stondinau i’w hysbrydoli a’u brwdfrydu.
Yn dilyn hyn, roedd syrcas o ddigwyddiadau STEM yn yr ysgol wedi eu cefnogi gan Lysgenhadon STEM lleol. Yn eu plith roedd Gweithdy Dragster, y Gymdeithas Cadwraeth Morol yn siarad am Lygredd Plastig, tasg adeiladu pont, gweithdy Fforensig, Blychau Dirgel a gweithdy gan Dŵr Cymru.
Meddai’r athrawes Mathemateg, Mrs Hand, ‘Mae’r myfyrwyr wir yn mwynhau’r math yma o weithgareddau; mae’n rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar sgiliau newydd ac i feddwl am y posibiliadau o yrfa mewn STEM.’
Dwi wir wedi mwynhau pob un o’r gweithgareddau heddiw; fy hoff un oedd gwneud a rasio’r dragsters’. Tom, Blwyddyn 7
Dywedodd y Llysgennad STEM Matt Gillie, oedd yn rhedeg y gweithdai Fforensig, ‘Roedd hi’n grȇt i weld bod disgyblion yn darganfod bod gwyddoniaeth yn ddefnyddiol!’
‘Diolch i bob un o’r Llysgenhadon STEM a gymerodd amser i helpu i wneud yr Wythnos Wyddoniaeth yma yn llwyddiant. Mae na gynnwrf wedi bod o amgylch yr ysgol ac mae’r disgyblion wir wedi mwynhau yr amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi cael eu cynnig.’ Athrawes Gwyddoniaeth, Kelly Holmes
|
|
Cystadleuaeth LEGO WEDO2.0 G2G Communities CIC Gogledd Cymru
Llawer o ddiolch i G2G Communities a Dr Bill Lockitt am yr adroddiad canlynol ar lwyddiant y Gystadleuaeth Lego Wedo. Noddwyd y gystadleuaeth gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a hoffai G2G Communities CIC ddiolch iddynt am gefnogi’r ‘All SySTEMs Go’.
Daeth ysgolion i Neuadd y Dref Y Rhyl ddydd Mawrth, Mawrth 20 2018 i gymryd rhan yn y gystadleuaeth WEDO 2.0. Roedd y safon a osodwyd gan y cystadleuwyr yn hynod o uchel. Lluniau o’r dydd yma
Cit LEGO WEDO 2.0 Robotics: Mae ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth yn cael cadw eu cit WEDO 2.0 (gwerth cyfredol £120).
Derbyniodd pob ysgol blac i nodi eu bod wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth. Hefyd, rhoddwyd tystysgrifau i ddisgyblion ac athrawon. Roedd y rownd derfynol yn agos iawn a chafodd y Llysgenhadon STEM oedd yno fel Beirniaid amser caled yn dewis y goreuon.
Gwobr Gyntaf a’r Enillwyr Cyffredinol: Ysgol Llywelyn
Ail Wobr: Ysgol Gwynedd
Trydydd Wobr: Ysgol Cornist
Dyluniad Gorau: Ysgol Christchurch CP
Fideo Gorau: Ysgol Tudno
Dyfalbarhad ac Ymdrech: Ysgol Bodnant: Ysgol Brynteg and Ysgol St
Marys
Bwriad y rhageln yw i ysbrydoli ysgolion ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu mwy o weithgareddau ymarferol sy’n ymwneud â STEAM ac i dynnu sylw at gyfleoedd yn y dyfodol.
|
|
Menter newydd i Bobl Ifanc
Dydd Sadwrn Mawrth 10fed oedd diwrnod Digwyddiad Gwyddoniaeth Prydeinig Youth Cymru.
Bu 9 Llysgennad STEM yn rhedeg gweithdai i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed sydd yn mynychu Clybiau Ieuenctid ac hefyd i rai sy’n derbyn Addysg yn y Cartref.
Roedd y digwyddiad yn un agored lle roedd ymwelwyr yn rhydd i alw i mewn i weithdai fel y mynnon nhw. Dewiswyd y Tramshed yng Nghaerdydd fel lleoliad anffurfiol a fyddai’n apelio at grwpiau Ieuenctid na fyddai fel arfer yn cael eu denu at ddigwyddiadau Gwyddoniaeth.
Roedd y gweithdai yn cwmpasu: Rhaglennu Cyfrifiadurol; arddangosfa car wedi ei awtomeiddio; Ymchwil Cancr; Gwyddoniaeth Genetig; Pretisiaethau General Dynamics; Sialens rhyngweithiol Network Rail; Lego Mindstorms.
Daeth Dr Rhian Morgan, Parc Geneteg Cymru ag ystod wych o weithgareddau ymarferol; cyflwynodd Dr Valentina Flamini sgwrs a gweithgaredd diddorol iawn ar ei hymchwil. Dewisodd pob un o’r bobl ifanc i aros am y bore cyfan.
“Y rhan gorau oedd ein bod yn gallu trafod pethau gyda pobl ac roedd eu cyflwyniadau yn dda iawn.”
“Roedd Valentina yn dda iawn. Roedd y ffaith ei bod wedi cymryd amser i drafod ei hymchwil cancr wedi helpu fi i ddeall y pwyntiau roedd hi yn eu gwneud. Fel arfer mae pobl yn gryno iawn a ddim yn cymryd amser i egluro.”
Pobl ifanc ar ddiwedd y bore
|
|
Mae cystadleuaeth 2018 nawr wedi ei lansio ar draws Cymru! Mae gwobrau gwych ar gael i ysgolion.
Rhannwch y newyddion gydag unryw gysylltiadau sydd gennych mewn ysgolion (Cynradd ac Uwchradd). Efallai eich bod yn riant neu bod ganddoch chi gysylltiadau gydag ysgolion lleol. Mae’r cyfeiriad gwefan yr un fath â’r llynedd:
http://dvlacodechallenge.dvla.gov.uk
Ar y wefan mae’r holl wybodaeth mae ysgolion ei angen yn ogystal â thaflen hysbysebu A5 i’w lawrlwytho!
Eleni mae ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn gymwys: bydd dwy gystadleuaeth yn rhedeg ar yr un pryd – un i blant 7 i 11 oed a’r llall i rai 11 i 14 oed.
Mae pob un o’r themau ar agor i bob grŵp oedran, yr unig wahaniaeth ydy bod yn rhaid i rai 7 i 11 oed ddefnyddio SCRATCH (yr un fath â llynedd) ond gall rhai 11 i 14 oed ddefnyddio unryw iaith o’u dewis nhw.
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw hanner nos ar Hydref 12 2018
Hyfforddiant Caerdydd a Wrecsam
Gweithdy Biocemeg
- Caerdydd. Lleoliad i’w gadarnhau. Dydd Mercher Mai 16eg 4.30pm – 6.30pm
- Wrecsam Techniquest Glyndŵr LL11 2AW Dydd Llun Mai 21ain 4.30pm – 6.30pm
Mae gwahoddiad i Lysgenhadon STEM i gymryd rhan yn y gweithdy newydd yma sydd yn canolbwyntio ar Biocemeg mewn Coginio – ond does dim angen i chi fod yn arbenigwr mewn biocemeg na choginio. Bydd y gweithdy yn cael ei arddangos yn ystod y sesiwn.
Yn dilyn hyn bydd Llysgenhdaon yn cyflwyno un sesiwn o’r gweithdy eu hunain mewn grŵp cymunedol neu ysgol.
Mae’r gweithdy wedi ei ddatblygu ar gyfer disgyblion CA2/3 (7 i 12 oed)
Bwciwch eich lle cyn gynted â phosib sian.ashton@see-science.co.uk
Byddwch yn Lysgennad STEM Gweithredol o’ch desg!
Bydd I’m a Scientist, Get me out of here yn rhedeg am bythefnos o ddydd Llun 11eg i ddydd Gwener 22ain o Fehefin 2018.
Eleni rydym yn rhedeg tair ardal gyda themau penodol a dwy ardal gyffredinol fydd yn addas ar gyfer unryw un sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth. Darllenwch amdanynt neu ewch yn syth at y ffurflen gais: I'm a Scientist - take part
Mae hwn yn gyfle rhwydd i ymgysylltu mewn STEM gyda phobl ifanc yn eich amser eich hun.
Dewch â’ch bathodyn i’r gwaith – cymerwch ran
Mae ymgyrch sydd yn annog Llysgenhadon STEM i wisgo’i bathodynau i’r gwaith wedi cychwyn: bring your badge to work campaign. Rydym am i chi gymeryd rhan trwy rannu eich lluniau/hanesion ar wefanau cymdeithasol. Mae tri taleb Amazon o £50 ar gael am y negeseuon gorau!
|
|
|
Gŵyl Spread the Word Merthyr Tudfil Dydd Iau Ebrill 19 2018
- Gŵyl Lenyddiaeth a Chelf Plant Spread the Word yw’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru ar Ddiwrnod Byd-eang y Llyfr.
- Mae galw am Lysgenhadon STEM ar gyfer gweithgaredd gyda thema STEM.
- Dydd Iau Ebrill 19 o 9am tan 3pm gyda dros 3000 o blant.
- Am 9.30am bydd gorymdaith o dros 1000 o blant trwy’r dref gyda pawb wedi eu gwisgo mewn gwisg Gymraeg.
Wythnos STEM 21-25 Mai
Ysgol Gynradd Whitchurch
Caerdydd
CF14 1XL
- Mae’r athrawes Sophie Hawkins yn gofyn am ymweliadau gan Lysgenhadon STEM gyda chyflwyniadau, gweithdai neu unryw weithgareddau eraill ar gyfer ei disgyblion yn ystod yr wythnos. Pupils are aged 4 – 10 years old – you can select the year group of your choice.
- Unrhyw ddiwrnod ac amser yn ystod yr wythnos i’ch siwtio chi.
Microbau a Bwyd
Ysgol Gynradd Cyfarthfa
Merthyr Tudfil
CF47 8RE
- Mae’r athro Rich Price yn chwilio am Lysgennad STEM i gydfynd â’r thema, ‘Food Glorious Food’
- Mae’n awyddus iawn i gael sesiwn ar Meicrobau a Bacteria
- Unrhyw ddyddiad yn nhymor yr Haf.
- Cysylltwch â rprice@cyfarthfapark-pri.merthyr.sch.uk
Wythnos Wyddoniaeth Trelewis
Mai 28 - Mehefin 8 (unrhyw ddiwrnod)
Ysgol Gynradd Trelewis
Merthyr Tudfil
CF46 6AH
Nid oedd yr ysgol yn gallu rhedeg Wythnos Wyddoniaeth ym mis Mawrth, ac nid ydynt am i'r disgyblion golli'r profiad
- Mae’r athro Jonathan Keefe yn gofyn am sesiynau ar unryw bwnc STEM.
- Gallwch gynnig ar gyfer unryw oedran o 5 i 10 oed ac unryw bwnc.
- Mae’r disgyblion yn astudio Trydan, Y Gofod, Golau, Sain, Yr Amgylchedd, Cynefin, Y Corff Dynol, Technoleg, Peirianneg a llawer o rai eraill.
STEM - Ffrangeg
Ysgol Lewis Pengam
Pengam,
Bargoed
CF81 8LJ
- Mae Ffion McCarthy yn awyddus i drefnu sesiwn i fechgyn blwyddyn 8 ar bwysigrwydd dysgu Ffrangeg gyda pynciau STEM.
- Y nod yw i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ieithoedd ac o weithio mewn amgylchedd STEM.
- Mae hon yn ysgol uwchradd i fechgyn yn unig.
‘Ditch the Dirt’
Ysgol Gynradd Clytha
Casnewydd
NP20 4JT
- Mae Jade Jones yn cycwhyn Her STEM ar Ddŵr Glân gyda’i disgyblion CA2.
- Mae'r prosiect yn cwmpasu'r pwysigrwydd a'r dechnoleg y tu ôl i hidlo, rhidyllu a sut y gellir gwneud dŵr budr yn lân.
- Byddent yn gwerthfawrogi Llysgennad STEM i ymweld â'r prosiect a darparu rhywfaint o gyngor / mewnwelediad
Goroesi, Addasu Llywio a Chyfathrebu
Unrhyw ddyddiad ar ôl Pasg
Ysgol Gynradd Crughywel
Crughywel
NP8 1DH
- Mae Sue Jones yn chwilio am sesiynau ar unryw un o’r uchod.
- Ar gyfer disgyblion bl 5 & 6 (9 - 11 oed)
- 70 o ddisgyblion ond gellir eu rhannu i grwpiau a sesiynau
- Byddai gweithdai neu gyflwyniadau yn ddelfrydol
- Syniadau: Anifeiliaid, Bywyd Morol, Radar, Adar, technoleg Dynol ayyb
Gwasanaeth Cyflawnwyr Positif Rhondda Cynon Taf
Gwahanol ysgolion Ebrill
Mae ‘Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith’ yn raglen sydd yn gwobrwyo disgyblion mewn ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ac sydd ar agor i rai ym mlynyddoedd 10 ac 11. Mae Julie Williams yn chwilio am Lysgenhadon STEM i roi sgwrs fer 10 – 15 munud mewn gwasanaeth.
Bydd y sgwrs yn amlinellu pwysigrwydd rhinweddau gwobr cyflawnwr positif o safbwynt diwydiant ac yn pwysleisio'r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen mewn gweithle modern.
Dyddiadau:
- Dydd Llun 16 Ebrill YSgol Gymunedol Aberdâr
- Dydd Mercher 18 Ebrill Ysgol Y Cymer
- Dydd Llun 23 Ebrill Ysgol Gymunedaol Tonypandy
- Dydd Gwener 27 Ebrill Ysgol Gymunedol Porth
Cynefinoedd ar gyfer CS unrhyw ddyddiad yn nhymor yr Haf
Ysgol Idris Davies School
Abertysswg,
Rhymni
NP22 5XF
- Mae Danielle Self yn chwilio am Lysgenhadon STEM all gynnig sesiwn ar Gynefinoedd (planhigion neu anifeiliaid) ar gyfer disgyblion Cyfnos Sylfaen.
- Mae disgyblion yn 4 – 6 oed.
- Unrhyw ddydiad ar ôl gwyliau’r Pasg.
Wythnos Wyddoniaeth 18 – 22 June
Ysgol Gymraeg Nant Caerau
Ely
Caerdydd
CF5 5QZ
- Mae’r cydlynydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Alaw Le Bon, yn trefnu Wythnos Wyddoniaeth. Mae’r ysgol wedi ei lleoli yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd gyda tua 30% o ddisgyblion yn derbyn Prydau Am Ddim.
- Ei nod yn ystod Wythnos Wyddoniaeth yw adeiladu dyheadau bywyd y plant ac ennyn diddordeb y disgyblion mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
- Mi fydd yn hapus iawn i groesawu sesiynau Llysgenhadon STEM ar unryw thema ac unryw bwnc!
Diwrnod Hwyl i’r Teulu Cas-gwent: Mae’n Cymryd Pentref i Fagu Plentyn!
Dydd Sul Mai 13
Dell Park
NP16 5HD
- Mae Cyfeillion Dell Park yn cynnal digwyddiad i dynnu sylw at y cyfleoedd i bobl ifanc a thrawsnewid y Parc i mewn i Ganolfan Ddysgu Awyr Agored
- Byddent yn croesawu Llysgenhadon STEM all dood â gweithgaredd / stondin / gweithgaredd awyr agored.
- Mae’r digwyddiad ar fynd 10.30 – 4pm ond gallwch gynnig cymaint o amser ag y gallwch chi ei sbario.
Diwrnod Cynaliadwyedd Mai 25
Ysgol Gynradd St Brides Major
Pen-y-bont
CF32 0TB
- Mae Mair Clarke yn cydlynu Diwrnod Cynaliadwyedd i ddathlu eu Gwobr Platinwm am Ecoleg
- Byddai Mair yn croesawu Llysgenhadon STEM all gynnig sgyrsiau neu weithgareddau ymarferol ar wyddoniaeth amgylcheddol neu cynaliadwyedd yn eich gwaith
- Mi fydd yn ddiolchgar am unryw gynnig!
Wythnos STEM 11 – 15 Mehefin
Ysgol Gynradd Windsor Clive
Caerdydd
CF5 4HX
- Mae Anouska Leckie yn chwilio am sesiynau STEM yn ystod yr wythnos ar unryw bwnc.
- Pynciau o ddiddordeb arbennig yw’r Amgylchedd a Iechyd ond mae croeso i bopeth
- Hoffai Anouska gychwyn yr wythnos gyda sgwrs mewn gwasanaeth gan Lysgennad STEM
Caerdydd. Science Cafe: sgyrsiau neu i fod yn y gynulleidfa mewn cyfarfodydd gyda’r nos yng Nghaerdydd
Cysylltwch â Sri i gynnig sgwrs neu jyst dewch i’r cyfarfod nesaf!
Mae Sri Ponnusamy yn croesawu Llysgenhadon STEM i roi sgyrsiau byr neu i fod yn gynulleidfa i gefnogi Science Cafe Caerdydd.
Cwrdd yn Porters Bar Bute Terrace CF10 2FE, am gyfarfod cymdeithasol nos FAwrth cyntaf bob mis. Am bris paned o goffi neu gwydriad o win, gall unryw un ddod i glywed am y syniadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.
Afonydd, Dyfrffyrdd a Daeareg
Ysgol Gynradd St Pauls
Grangetown
Caerdydd CF11 7EU
- Mae Matt Wilson yn awyddus iawn i groesawu Llysgenhadon STEM gyda sesiynau ar Afonydd, Daeareg Dyfrffyrdd neu bynciau tebyg.
- Ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 (10 oed) Dyddiad o’ch dewis chi
Casnewydd. Grŵp Brownie Rhiwderin sesiwn Gwyddoniaeth / Peirianneg
Unrhyw nos Fercher 5.30pm – 6.30pm.
- Mae’r arweinydd Sam yn chwilio am Lysgenhadon STEM (yn enwedig rhai benywaidd) i ymweld â’r grŵp. Byddent wrth eu bodd yn clywed stori eich gyrfa chi.
- Byddai’n wych os gallech ddod ag unrywbeth diddorol gyda chi – arddangosfa neu weithgaredd.
Gweithdai STEM
Ysgol Gymraeg Y Ffin
Cil-y-Coed
Casnewydd
NP26 4NQ:
- Mae croeso mawr i Lysgenhadon STEM ar unryw adeg sydd yn cynnig ymweliad i wers neu i glwb STEM ar ôl ysgol
- Bydd yr ysgol yn cynnal digwyddiad teuluol ar ddydd Sadwrn – manylion i ddilyn – croeso i Lysgenhadon STEM
**Galw penodol am sesiynau Cymraeg ar gyfer Clwb amser cinio neu ar ôl ysgol
Ysgol Gymraeg Trelyn.
Caerffili
NP12 3ST.
- Mae Liz Owen yn awyddus i groesawu Llysgenhadon STEM. Mae disgyblion CA2 yn astudio pynciau ar Chwarae gyda Ffiseg (bl 3/4) ac Ynni Golau a Sain (bl 5/6)
- Os gallwch chi gynnig sesiwn un awr 3.30 -4.30 neu ymweliad amser cinio, fe wnai eich rhoi mewn cysylltiad â Liz.
- Unrhyw ddyddiadau y tymor yma.
Pynciau Gwyddoniaeth – manylion isod
Ysgol Gynradd Waunfawr
Pont-y-cymer
NP11 7PG.
Dyddiadau hyblyg
- Mae Joanne Cueto yn chwilio am sesiynau Llysgenhadon STEM ar unryw rai o’r canlynol:
- Fi Fy Hun neu O Dan y Môr neu Cestyll Rhyfedd Meithrin - Bl2
- Tecstiliau neu ‘Sut mae fy nghorff yn gweithio’. Bl 3 & 4
- Byw’n Iach a Bwyd. Bl 5 & 6
Ymweliadau i weithleoedd cyfagos
Ysgol Gynradd St Peters
Y Rhath
Caerdydd CF24 3SP.
- Mae’r athro Phil Ryan yn awyddus iawn i adeiladu ar ymweliadau diweddar gan Lysgenhadon STEM ac i ddiwydiannau lleol.
- Dyddiadau’n hyblyg.
- Hoffai Phil glywed gan Lysgenhadon STEM unigol neu fel grŵp sydd yn gallu cynnig sesiwn neu ymweliad i gwmni.
- Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ym mlwyddyn 4.
Gwyddoniaeth i Flwyddyn 5
Ysgol Gynradd Lansdowne
Treganna
Caerdydd CF5 1JY
- Mae Karl Redding yn awyddus i gynnal sesiwn Llysgennad STEM.
- Pynciau addas: Y Gofod, Natur, Y Corff Dynol, Peirianneg, Y Byd o’n cwmpas.
- Gall y sesiwn fod o unryw hyd rhwng 1 awr i hanner diwrnod.
Dylunio Cynnyrch, Dyfeisio, Anatomi Dynol.
Ysgol Gynradd Rhydypenau
Llanishen
CF14 0NX.
Mae Clarissa Brind yn chwilio am weithdai ar
- Blwyddyn 3: Anatomi dynol: y system dreulio, esgyrn, gwaed.
- Blwyddyn 6: Dyfeisio a Dylunio cynnyrch.
Computer Science applications.
Lewis School Pengam
Bargoed
CF81 8LJ.
- Mae’r athro David Eyles yn awyddus iawn i groesawu Llysgenhadon STEM all gynnig sesiynau, sgyrsiau neu weithdai ar Gyfrifiadureg. Mae’n hyblyg o ran dyddiadau.
- Mae nifer fawr o ddisgyblion â diddordeb mawr mewn gemau cyfrifiadurol, rhaglennu a chymhwyso cyffredinol mewn gyrfaoedd.
- Cysylltwch â mi os gallwch chi gefnogi.
|
|
|
Digwyddiad STEM Clwstwr Aberteifi Dydd Llun Gorffennaf 9
Theatr Mwldan
Aberteifi
SA43 1JY
- Mae Lee Burrows, Arweinydd Dysgu ERW, yn trefnu diwrnod STEM i athrawon a disgyblion.
- Bydd gweithgareddau yn cynnwys cyfres o weithdai.
- Mae Lee yn chwilio am Lysgennad/Lysgenhadon STEM all gynnig sgwrs agoriadol ar eich rȏl fel Llysgennad STEM gyda gweithdy STEM i ddilyn.
- Mae gofyn i’r gweithdy redeg sawl gwaith yn ystod y dydd.
- Copiwch fi i mewn i neges at Lee: lee.burrows@erw.org.uk
Gweithdai Carwsel 18 Mehefin
Ysgol Gowerton
Gowerton
SA4 3DL
- 4-5 gweithdy i 30 disgybl y sesiwn
- Mae’r digwyddiad ymlaen rhwng 9am a 3pm
- Byddai unryw fath o seswin ymarferol 40 – 50 munud yn wych
Ffug Gyfweliadau Mehefin 19 neu 20
Ysgol Gowerton
Gowerton
SA4 3DL
- Bydd Llysgenhadon STEM yn cyfweld disgyblion gan roi adborth ar CVs a sgiliau cyfweld.
- Unrhyw oriau y gallwch chi eu sbario rhwng 9am a 3pm.
- Mae cwestiynau sampl a chanllaw ar gael.
Gŵyl Gyrfaoedd Abertawe, Nedd a PhortTalbot 21 Mehefin
- Croeso i Lysgenhadon STEM a Chyflogwyr i ddod â stondinau rhyngweithiol.
- Dylai’r stondinau ysgogi, hysbysu a chodi dyheadau
- Y nod yw i alluogi disgyblion i ystyried mynd i mewn i’r sector wedi iddynt adael yr ysgol
- Manylion gan Gareth Price yn Gyrfa Cymru
Sesiwn Llysgennad STEM / Ymweliad Clwb
Ysgol Gynradd Cadle
Fforest Ffach
SA5 5DU
- Mae’r Cydlynydd Gwyddoniaeth Jamie Davies yn gofyn am sesiynau Llysgennad STEM ar gyfer ei ddisgyblion
- Mae’r ysgol mewn ardal difreintiedig ac mae’r disgyblion yn brin o brofiadau gwyddoniaeth diddorol y tu allan i gwricwlwm yr ysgol.
- Byddai Jamie yn croesawu ymweliad i’r Clwb STEM neu sesiwn o’ch dewis chi unryw adeg yn ystod y tymor.
STEM – FFRANGEG – SBAENEG
Ysgol Dylan Thomas
Sgeti
Abertawe
SA3 0FR
- Mae Lucy Griffin yn chwilio am Lysgennad STEM gyda sgiliau iaith Ffrangeg neu Sbaeneg
- Mae disgyblion yn astudio Ffrangeg o flwyddyn 7 a Sbaeneg o flwyddyn 8.
- Ffocws y sesiwn fyddai gyrfaoedd mewn Maths/ Gwyddoniaeth/ Peirianneg/ Tech ond gyda ieithoedd tramor modern.
- Cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau iaith nid yn unig dramor ond hefyd yma yng Nghymru.
- Mae llawer o’r disgyblion yn dod o gefndiroedd mewnblyg gyda statws cymdeithasol – economaidd isel a llawer gyda sgiliau llythrennedd is na’r cymedr cenedlaethol.
- Yn ddelfrydol, 4 sesiwn gyda egwyl i ginio rhwng sesiynau.
Byddai hyn yn gyfle gwych i’r disgyblion yma gan fod ganddynt lai o gysylltiad gyda pobl proffesiynol STEM.
Llanelli. Ysbrydoliaeth STEM i Ferched
Ysgol Bryngwyn
Llanelli.
SA14 8RP.
- Mae Francesca Fair yn chwilio am Lysgennad STEM i ysbrydoli ac ysgogi ei merched blwyddyn 9 gyda stori gyrfa diddorol.
- Mae’r merched yn grŵp da gallu cymysg ond mae angen iddynt fod yn fwy uchelgeisiol gyda’u llwybrau gyrfa.
|
|
|
Sesiynau Gwyddoniaeth Cynradd. Dyddiadau hyblyg.
Ysgol Gynradd Llangors
Llangors ger Aberhonddu
LD3 7UB.
Mae Meg, yr athrawes, yn awyddus i groesawu Llysgenhadon STEM ar gyfer unryw un o’r pynciau yma:
a) Coedwigoedd glaw – Blwyddyn 3
b) Bywyd Morol – Blwyddyn 4
c) Cynaliadwyedd – Blwyddyn 5
Byddai’r ysgol fach wledig hon yn gwerthfawrogi gwirfoddolwyr
Sesiwn Ynni Adnewyddadwy / Biomas / Tyrbin Gwynt.
Ysgol Gynradd Llangynidr
NP8 1LU.
Mae Claire Watson yn chwilio am Lysgennad STEM i gyflwyno sgwrs neu weithdy ar unryw un o’r uchod.
‘Brockweir Soapbox Derby’. Tymor yr Hydref 2018
Cefnogaeth Llysgennad STEM / Beirniaid
Bydd disgyblion a grwpiau cymunedol yn rasio ceir maent wedi eu hadeiladu eu hunain yn y ras ‘Dylunio Cart Canaliadwy’
https://www.facebook.com/brockweirsoapbox/
· Bydd gofyn i’r timau ddangos sut mae eu cart yn eco-gyfeillgar
· Bydd angen i dimau ystyried cynaliadwyedd gan ddangos sut mae cylch bywyd y cart yn cydfynd â dylunio cylchol.
· Bydd gwobr am y Cart mwyaf cynaliadwy ar ddiwedd y ras.
· Bydd y ras nesaf yn ystod tymor yr Hydref 2018.
|
|
|
Cefnogaeth Clwb Codio (neu unryw sesiwn STEM)
Ysgol Bodafon
Llandudno
LL30 3BA
- Mae’r ysgol yn chwilio am gefnogaeth ar gyfer eu Clwb Codio neu am sesiwn ar STEM yn gyffredinol.
- Os gallwch helpu mi wna i eich rhoi mewn cysylltiad ag Adam Davies wales@codeclub.org.uk
Ffug Gyfweliadau Blwyddyn 10
Dydd Gwener Ebrill 20 (bore yn unig)
Ysgol Uwchradd Darland
Rossett
LL12 0DL
- Bydd disgyblion yn cael eu cyfweld gan Lysgenhadon STEM mewn sesiynau byr o 15 munud
- Mae cwestiynau sampl ar gael
- Bydd disgyblion yn derbyn adborth ar eu CV ac ar eu perfformiad yn y cyfweliad
- Copiwch fi i mewn i neges at Lesley Lloyd: lesley.lloyd@careerswales.com
Sesiwn sgiliau proffesiynol STEM. 11 Mehefin
The Marches School
Oswestry
SY11 2AR
- Mae Meg Murphy yn chwilio am Lysgenhadon i gymeryd rhan yn y digwyddiad.
- Bydd Llysgenhadon STEM yn siarad gyda grwpiau bach o ddisgyblion.
- Mae proffesiynau Gofal Iechyd o ddiddordeb arbennig – ond bydd croeso i bawb sy’n cynnig!
- Copiwch fi i mewn i neges at Murphy.M@marchesschool.net
Ymweliadau Clwb STEM
Ysgol Gynradd St Gerards
Bangor
LL57 2EL
- Mae Tamzin Pritchard yn cynnal Clwb STEM ar bnawn Mawrth rhwng 3pm a 4pm.
- Bu Llysgenhadon STEM yn yr ysgol tymor diwetha ac mae Tamzin yn awyddus i gael mwy o ymweliadau ar unryw bwnc STEM.
- Os na fedrwch gyrraedd y Clwb STEM gellir trefn ymweliad ar ddiwrnodau ac amseroedd eraill.
|
|
|
|
|
|