Gwobrau CREST AM DDIM yng Nghymru – Sesiwn ar-lein i ddarganfod mwy! I ysgolion UWCHRADD dydd Mawrth Ionawr 24ain. Ar-lein
Digwyddiadau tebyg:
I ysgolion CYNRADD dydd Mercher Chwefor 1af
Sesiwn CYMRAEG ar gyfer Cynradd ac Uwchradd dydd Mawrth Ionawr 31ain.
Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yn un o’n digwyddiadau ar-lein rhad ac am ddim, a gynhelir mewn partneriaeth â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain (BSA), i ddysgu mwy am gynllun Gwobrau CREST yng Nghymru, gan gynnwys sut y gallwch hawlio eich Gwobrau CREST AM DDIM a defnyddio’r gweithgareddau i gyfoethogi cwricwlwm newydd eich ysgol.
Mae Gwobrau CREST yn gynllun cyfoethogi STEM sy’n cael ei redeg gan y BSA sy’n ysbrydoli pobl ifanc o bob oed i feddwl ac ymddwyn fel gwyddonwyr a pheirianwyr gan ddefnyddio gwaith prosiect ymchwiliol.
Byddwn yn rhannu popeth sydd angen i chi ei wybod i ddechrau rhedeg cynllun Gwobrau CREST yn eich ysgol a byddwn yn arddangos adnodd Diwrnod Darganfod CREST, ‘Peiriannau’r Dyfodol’, sy’n addas ar gyfer Blynyddoedd 5 i 9.
Wyddoch chi?
- Mae ffioedd Gwobr CREST ar gyfer holl fyfyrwyr Cymru yn cael eu talu’n llawn gan lywodraeth Cymru tan o leiaf 31 Mawrth 2025.
- Mae holl weithgareddau CREST yn seiliedig ar ymholi ac yn cael eu harwain gan fyfyrwyr gyda chynnwys cryf o’r byd go iawn, sy’n eu gwneud ffit gwych i’r Cwricwlwm i Gymru.
- Gall Gwobrau CREST fod yn rhan annatod o'ch cwricwlwm neu gall ddarparu gweithgareddau ar gyfer Clwb STEM.
- Mae llawer o'r gweithgareddau yn rhad ac yn hawdd i'w cynnal, heb fod angen offer arbenigol, sy'n eu gwneud yn briodol ar gyfer ystod o leoliadau y tu mewn a'r tu allan i ysgolion. Bwciwch eich lle yma.
|