Mae Wythnos Wyddoniaeth Prydain yn ddathliad deng niwrnod o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a gynhelir gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain (sydd hefyd yn rhedeg Gwobrau CREST). Cynhelir yr Wythnos eleni ar 10-19 Mawrth.
Mae’r pecynnau gweithgaredd yn adnodd rhad ac am ddim a ddarperir gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain, yn llawn gweithgareddau wedi’u seilio ar y thema ‘Cysylltiadau’, a gynlluniwyd i’w rhedeg mewn meithrinfeydd, ysgolion a gartref.
Mae tri phecyn, pob un yn darparu ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, felly mae rhywbeth at ddant pawb! Mae pecyn y Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer y dysgwyr lleiaf – dan 5 oed. Mae'r pecyn Cynradd ar gyfer oedran 5-11, ac mae'r pecyn Uwchradd wedi'i gynllunio ar gyfer pobl ifanc hyd at 14 oed. Canllawiau yn unig yw'r grwpiau oedran hyn wrth gwrs, a gellir addasu'r gweithgareddau yn dibynnu ar y grŵp oedran rydych chi'n gweithio gyda nhw.
Dewch o hyd i'r pecynnau a'r holl fanylion yma.
|