Cystadleuaeth First LEGO League Challenge
Cystadleuaeth fyd-eang ar gyfer pobl ifanc rhwng 9 ac 16 oed yw First® Lego League Challenge, sy’n cael ei rhedeg yn y DU gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.
Roedd Gweld Gwyddoniaeth unwaith eto wrth eu bodd yn cefnogi First® Lego® League Challenge y tymor hwn, a thrwy hynny ysbrydoli pobl ifanc i ddeall hanfodion STEM trwy gymhwyso eu sgiliau mewn cystadleuaeth gyffrous wrth adeiladu arferion dysgu, hyder, a sgiliau gwaith tîm ar hyd y ffordd.
Eleni cynhaliodd Gweld Gwyddoniaeth bedwar twrnamaint rhanbarthol yn Ysgol Harri Tudur, Ysgol Gynradd Willowtown, Coleg Merthyr a Phrifysgol De Cymru. Ar draws y pedwar digwyddiad, cymerodd 40 tîm o fyfyrwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled De Cymru yr her ar y ‘Challenge Mat’ enwog gyda’u robotiaid rhaglenadwy Lego® SPIKE Prime neu EV3 pwrpasol. Gwnaeth pob tîm waith anhygoel a llongyfarchiadau i'r enillwyr a fydd yn mynd ymlaen i rowndiau terfynol y DU yn Harrogate.
Roedd Gweld Gwyddoniaeth wrth eu bodd ac yn ddiolchgar i gael cefnogaeth ym mhob un o’r 4 digwyddiad gan Lysgenhadon STEM a weithredodd fel dyfarnwyr a beirniaid.
Dyma beth oedd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud:
Karl Gilmore, Trafnidiaeth Cymru: “Pleser pur oedd cefnogi Cerian Angharad a chydweithwyr Gweld Gwyddoniaeth eraill yr wythnos hon yng Ngholeg Merthyr, ynghyd â Llysgenhadon STEM eraill i helpu gyda First LEGO League Challenge.
Casgliad trawiadol o bobl ifanc dalentog o ysgolion amrywiol y Cymoedd, yn arddangos eu sgiliau gwaith tîm a chodio.”
Lewis Davies, BDO Eaton Square: “Cefais fy syfrdanu gan waith caled a syniadau clyfar y deg tîm a gymerodd ran. Dangoson nhw sgiliau gwaith tîm a datrys problemau anhygoel.
Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig oherwydd eu bod yn dangos i fyfyrwyr y gall STEM fod yn gyffrous ac yn hwyl. Maent hefyd yn eu helpu i ddysgu gweithio gyda'i gilydd a meddwl mewn ffyrdd newydd. Diolch i’r holl fyfyrwyr, athrawon, a threfnwyr a wnaeth y diwrnod hwn yn wych!”
Os hoffech chi ystyried cymryd rhan y flwyddyn nesaf, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
|