This is the Welsh version of the STEM Ambassador Newsletter - to view this newsletter in English click here

Croeso i’r cylchlythyr STEM diweddaraf  ar gyfer Llysgenhadon STEM yng Nghymru  gan eich Hyb Llysgenhadon STEM lleol.
Rydym yn croesawu pob cynnig gan Lysgenhadon STEM i helpu gydag unrhyw gyfleoedd cyfoethogi - cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod eich anghenion unigol.

Gawn ni gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am yr amser rydych chi wedi gwirfoddoli. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio cofnodi'ch holl weithgareddau gan gynnwys yr amser paratoi sydd wedi mynd i mewn i drefnu'r gweithgareddau hynny.

I’r Llysgenhadon STEM hynny sy’n dal i fynd drwy’r broses gofrestru, cofiwch gwblhau eich cyfnod sefydlu ar-lein a’ch gwiriad DBS.

Os oes angen unrhyw help neu gefnogaeth ar unrhyw un gyda hyn yna cysylltwch â hayley.pincott@see-science.co.uk.

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn dal yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd cyfoethogi â phosibl i ddysgwyr ledled Cymru. Sicrhewch fod  cydweithwyr sydd wedi cofrestru gyda STEM Learning wedi ticio’r blwch i dderbyn cylchlythyrau yn eu dewisiadau er mwyn derbyn cylchlythyr Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol gan ddefnyddio’r ddolen https://www.stem.org.uk/user/register a yna dewiswch dderbyn y cylchlythyr yn ôl eich dewisiadau.

Mae gan Gweld Gwyddoniaeth dudalen Facebook lle byddwn ni hefyd yn rhannu llawer o syniadau newydd yn rheolaidd - hoffwch neu dilynwch y dudalen os gwelwch yn dda.

Peidiwch ag oedi cysylltu â ni os gallwn gefnogi addysgu pynciau STEM.

Dymuniadau gorau
Tîm Llysgenhadon STEM @Gweld Gwyddoniaeth.

NEWYDDION DIWEDDARAF

Rowndiau Terfynol First Lego League Challenge
Sul Gwyddoniaeth Gwych yn Abertawe
PwC yn ysgol Gynradd Marshfield
 

DIGWYDDIADAU CENEDLAETHOL

Diwrnod y Ddaear
Diwrnod Rhifedd
Energy Quest
I'm a Sceintist
 

DIGWYDDIADAU YNG NGNHYMRU

Digwyddiad Green Goblin
Explorify- Dathlu Gwyddonwyr
Digwyddiad Hwb i Lysgenhadon STEM
Llusgenhadon STEM - Dyma Fi
Gwneud Past Danedd
Gwreiddio Gyrfaoedd yn y Gwersi
 

CEISIADAU YSGOL UWCHRADD

Ysgol Gyfun Treforys
Ysgol Uwchradd Gwernyfed
Ysgol Uwchradd Castell Alun
Ysgol Gyfun Porthcawl

Ysgol Bro Dinefwr

CEISIADAU YSGOL GYNRADD

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Henllys
Ysgol Gynradd Windsor Clive
Ysgol Gynradd Llangynidr
Ysgol Gynradd Brynbuga
Ysgol Gynradd St Woolos

 

CEISIADAU ERAILL

WestJam - Gwersyll y Sgwotiaid
Mentora Gwobtr Aur CREST
Digwyddiad Green Goblin

Newyddion STEM diweddara

Rowndiau Terfynol Rhanbarthol FIRST® LEGO® League Challenge

Roedd Gweld Gwyddoniaeth yn falch o gynnal 3 rownd derfynol ranbarthol FIRST® LEGO® League Challenge dros yr wythnosau diwethaf, un yn Sir Benfro, un yng Nglynebwy a’r llall ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerdydd.

Mae FIRST® LEGO® League Challenge yn rhaglen STEM fyd-eang ar gyfer timau o bobl ifanc, i annog diddordeb mewn themâu byd go iawn a datblygu sgiliau allweddol sy'n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae pobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio pwnc penodol ac i ddylunio, adeiladu a rhaglennu robot LEGO® ymreolaethol i ddatrys cyfres o genadaethau. Thema eleni yw Ynni.

Dros y tair rownd derfynol ranbarthol, bu 40 o ysgolion yn cystadlu a chael llawer o hwyl ar y diwrnod. Llongyfarchiadau enfawr i’r tri Pencampwr Rhanbarthol a PHOB LWC wrth iddynt fynd ymlaen i gynrychioli eu rhanbarthau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol FIRST® LEGO® League yn Harrogate yn ddiweddarach y mis hwn!

  • Pencampwyr Sir Benfro: Ysgol Gelli Aur
  • Pencampwyr De Ddwyrain Cymru: Ysgol Derwendeg
  • Pencampwyr Cyfrwng Cymraeg Caerdydd: Ysgol Bro Edern


Diolch i Ysgol Harri Tudur, Ysgol Gynradd Willowtown ac Addewid Caerdydd am eu croeso a’u cydweithrediad cyn ac yn ystod y digwyddiadau.

Mwy o newyddion

Sul Gwyddoniaeth Gwych yn Abertawe

  • Gwahoddwyd Yamni a thîm Caru Cynrhon i Sul Gwyddoniaeth Gwych Caffi Oriel Science yn Amgueddfa’r Glannau ar Fawrth 19eg.
  • Mae ymgyrch Prifysgol Abertawe “Caru Cynrhon!” wedi'i lansio i godi ymwybyddiaeth o'r defnydd o gynrhon byw fel triniaeth glinigol i helpu i glirio a gwella clwyfau cronig.
  • Mae llawer o bobl mewn perygl o ddatblygu clwyfau nad ydynt yn gwella, gan gynnwys pobl sy'n dioddef o ddiabetes, neu'r rhai a allai fod â phroblemau fasgwlaidd.
  • Mae cynrhon meddyginiaethol yn fersiynau ifanc, bychain o'r pryf potel werdd hardd. Y cynrhon sy'n cael eu rhoi ar glwyfau yw'r babanod newydd eu geni!
  • Chwiliwch #LoveAMaggot ar y cyfryngau cymdeithasol i ymuno yn y trafodaethau a darganfod mwy, gallwch hefyd wylio ein hanimeiddiad diweddaraf.

Mwy o newyddion

Wythnos Wyddoniaeth Prydain- PwC Ysgol Gynradd Marshfield

Fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain, mynychodd Isobel Banfield a Geraint Worgan o PwC Ysgol Gynradd Marshfield yng Nghaerdydd i gyflwyno gwers mewn Technoleg ar gyfer Helpu Pobl i ddau ddosbarth Blwyddyn Un (tua 60 o blant). Hon oedd y wers TechSheCan gyntaf i Isobel a Geraint ac roedd yn wych gweithio mewn partneriaeth. Roedd y wers yn cynnwys dangos enghreifftiau o dechnoleg i helpu'r gwasanaethau brys, gofal iechyd, pobl ag anableddau a'r henoed. Roedd y plant wrth eu bodd yn clywed am y siwt jet disgyrchiant a'r robot llysnafedd magnetig! Fe wnaethom hefyd wylio un o'r fideos TechSheCan lle mae Katie a Tex yn archwilio roboteg a deallusrwydd artiffisial a mwynhaodd y plant yn fawr. Dyluniodd y plant eu robotiaid eu hunain i helpu pobl a chawsom ein hysbrydoli a’n plesio gymaint gyda’u dyluniadau gan gynnwys robot neidr a robot athro dawns, a gyflwynwyd ganddynt yn ôl i’w cyd-ddisgyblion ar ddiwedd y wers.

Mwy o newyddion

Diwrnod y Ddaear 22 Ebrill 2023

Mae Diwrnod y Ddaear yn ddigwyddiad blynyddol i ddangos cefnogaeth i warchod yr amgylchedd. . Y thema swyddogol ar gyfer 2023 yw Buddsoddi Yn Ein Planed.
Mae thema Diwrnod y Ddaear 2023 yn canolbwyntio ar ymgysylltu â mwy nag 1 biliwn o bobl, llywodraethau, sefydliadau, a busnesau sy’n cymryd rhan yn Niwrnod y Ddaear i gydnabod ein cyfrifoldeb ar y cyd ac i helpu i gyflymu’r newid i economi werdd deg, ffyniannus i bawb. Rydym yn canolbwyntio ar ail-fframio’r sgwrs, cyflymu gweithredu, a dod â phawb at ei gilydd i ddeall bod hyn o fewn ein cyrraedd os byddwn yn gweithio gyda’n gilydd.

P'un a ydych yn cymryd camau rhithwir neu wyneb yn wyneb - gallwch ymuno â'r mudiad amgylcheddol mwyaf ar y Ddaear!


I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Ddaear 2023, y thema swyddogol, diweddariadau, a sut i gymryd rhan, ewch i: https://www.earthday.org/earth-day-2023/

Diwrnod Rhifedd Cenedlaethol 17 Mai 2023

Adeiladu dyfodol mwy disglair trwy hyder gyda Rhifedd
Ymunwch â’n cymuned o ysgolion a sefydliadau mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr ar 17eg Mai 2023 i ddathlu’r rhifau rydyn ni’n eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd!
P'un a ydych yn hyrwyddo rhifedd mewn ysgol, gartref, gweithle neu sefydliad arall, pan fyddwch yn cofrestru byddwch yn derbyn pecyn cymorth gyda'r holl ddeunyddiau rhad ac am ddim sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan a helpu'r genedl i symud ymlaen â rhifau.
Mae hyn yn cynnwys y cyfle i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Arwyr Rhif lle mae gwobrau gwerth mwy na £6000 i ysgolion, cymunedau a grwpiau ieuenctid eu hennill.

Darganfod mwy am hyfforddiant a gweithdai

 

Digwyddiadau Llysgenhadon STEM yng Nghymru

Mae Energy Quest -  Amser i Roi - gweminar 30 munud ar 20 Ebrill 2023 (1-1:30pm) i arddangos arlwy Energy Quest. Rydym yn chwilio am Beirianwyr sy'n gweithio ym meysydd Hinsawdd, Ynni Adnewyddadwy, Ynni, Cynaliadwyedd ac ati (Mae gennym Lysgenhadon Hinsawdd SLAN).

“Mae Energy Quest yn weithdy 2 awr a gynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr uwchradd 11 i 14 oed. Dan arweiniad hwylusydd hyfforddedig, mae myfyrwyr yn rhoi eu hunain mewn esgidiau peirianwyr i ddylunio datrysiad i bweru ffôn symudol. 

Yn syml, mae rôl y gwirfoddolwr yn gofyn bod y gwirfoddolwr, o fewn yr amser a neilltuwyd, yn rhannu pwt o'i daith i faes Peirianneg ac yn ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan y myfyrwyr mewn ymateb. Nod hyn yw rhoi cipolwg ymarferol i'r myfyrwyr ar fyd peirianneg.

https://www.stem.org.uk/platform/activity/819bd667-44ce-464d-88c9-3846a6113943

I'm a Scientist - Get me Out of Here

Gwahoddir Llysgenhadon STEM i ymgysylltu â dosbarthiadau ledled y DU mewn Sgyrsiau byw, ar ffurf negeseuon gwib, ac ateb eu cwestiynau dilynol, ym mis Ebrill a mis Mai 2023.

Mae 'I’m a Scientist' yn weithgaredd ymgysylltu pleserus, ar-lein, dan arweiniad myfyrwyr nad oes angen unrhyw baratoi a dim amser teithio!

Ymgysylltwch â myfyrwyr o dros 30 o ysgolion, gan gynnwys y rhai hynny, oherwydd lleoliad, y mae gweithgareddau allgymorth wyneb yn wyneb yn anodd.


Gall Llysgenhadon STEM mewn rolau sy’n ymwneud ag ymchwil ac arloesi ddarganfod mwy, a gwneud cais i gymryd rhan, yma: 
 

Cyfleoedd Gwirfoddoli yng Nghymru

 Digwyddiad Goblin Green Power 

Bydd ras flynyddol Goblin Greenpower De Cymru ar gyfer disgyblion cynradd (9-11 oed - blynyddoedd ysgol 5-6) yn cael ei chynnal ar yr 22ain o Ebrill yn Renishaw, Meisgyn.

Mae diwrnod rasio Goblin yn ddiwrnod llawn hwyl sy'n cynnwys digwyddiadau llusgo, slalom a sbrintio. Mae gwobrau ychwanegol i’w hennill yn y digwyddiad sy’n cyfrif tuag at sgôr cyffredinol y tîm. Mae timau'n cyflwyno portffolio yn dogfennu eu taith adeiladu Goblin, a gweithgareddau cysylltiedig eraill megis penderfynu ar enw tîm, codi nawdd a chyllid, dylunio gwaith corff a phrofi ceir. Ynghyd â gwobr y portffolio, gall plant ennill y corffwaith mwyaf gwyrdd, y corffwaith gorau, y tîm a gyflwynir orau, ac Ysbryd Pŵer Gwyrdd. Mae elusen Greenpower Education Trust (www.greenpower.co.uk) yn defnyddio adeiladu ceir trydan, dylunio a rasio i ysbrydoli myfyrwyr (9-25 oed) i ddilyn pynciau STEM yn yr ysgol.  

Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn darganfod mwy am geir Greenpower Goblin, cysylltwch â ciara.doyle@siemens-energy.com.
Os ydych yn Llysgennad STEM ac yn awyddus i gofrestru eich diddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi ysgol i adeiladu car neu ar ddiwrnod y ras, cysylltwch â Gweld Gwyddoniaeth neu ciara.doyle@siemens-energy.com neu ewch yma

Darllenwch fwy

Explorify - Dathlu Gwyddonwyr. Dydd Mercher 26 Ebrill, 4-4.45pm. Ar-lein
Mae modelau rôl yn hanfodol os ydym am i fwy o blant ystyried gyrfaoedd STEM. Ymunwch â ni i edrych ar adnoddau Explorify newydd - 'Dathlu Gwyddonwyr' - sy'n darparu adnoddau hawdd eu defnyddio i athrawon sy'n cysylltu gwaith gwyddonwyr â'r cwricwlwm gwyddoniaeth cynradd. Heb fodelau rôl, mae llawer o blant (ac oedolion) yn darlunio gwyddonwyr fel ‘dynion mewn cotiau gwyn â gwallt gwyllt’ a pheirianwyr fel ‘dynion mewn siacedi llachar a hetiau caled.’ Mae archwilio gwaith gwyddonwyr a pheirianwyr go iawn yn ehangu’r farn hon. Mae gweithwyr proffesiynol STEM yn amrywiol, o ran eu sgiliau a’u diddordebau, yn ogystal â sut olwg sydd arnynt. Maent yn arddangos sut y gallai gyrfaoedd mewn STEM edrych a sut mae’r wybodaeth a’r sgiliau gwyddoniaeth y mae plant yn eu datblygu yn yr ysgol yn uniongyrchol gysylltiedig â swyddi STEM.  Bwcio yma.
Llun: Kiara Nirghin (22 oed), yn annerch y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 2019. Credyd delwedd: UN Women trwy Flickr, CC BY-NC-ND 2.0 

Darllenwch fwy

Digwyddiad Hwb Llysgenhadon STEM Cymru: Sut i ymgysylltu ag Ysgolion a Cholegau. Dydd Mercher 3 Mai 11.00-12.00. Ar-lein

Mae addysg yng Nghymru wedi'i ddatganoli ac rydym am i gynifer o Lysgenhadon STEM yng Nghymru ymgysylltu â chynifer o ysgolion â phosibl. 

Ymunwch â'r digwyddiad hwn ar-lein i ddysgu: 

  • Cyfnodau Addysg yng Nghymru 
  • Sut gallwch chi gysylltu ag Ysgolion a Cholegau AB 
  • Pa fath o weithgareddau sydd fwyaf priodol i bob grŵp oedran. 

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal gan Louise Thomas, Cydlynydd Cyswllt Ysgolion a Cholegau ar gyfer Hwb Llysgenhadon STEM (Cymru). 

Bwciwch yma.

Darllenwch fwy

Llysgenhadon STEM: Dyma Fi. Dydd Mercher Mai 10fed 3.45-4.30pm. Ar-lein

Mae sesiynau Dyma Fi yn gyfle i athrawon weld manteision dod â Llysgennad STEM i’r ystafell ddosbarth.Bydd athrawon yn cael y cyfle i gwrdd â rhai Llysgenhadon STEM a chael gwybod am y mathau o weithgareddau y gallant ddod â nhw i'r ystafell ddosbarth. Bydd yn cynnig cyfle i athrawon drafod manteision dod â Llysgenhadon STEM i’r ystafell ddosbarth i gefnogi pynciau a phrosiectau y gellid eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd i Gymru. 

*Os nad ydych yn gallu mynychu'r digwyddiad byw hwn ond wedi cofrestru, yna bydd recordiad o'r sesiwn ar gael i chi. Bwcio yma.

Darllenwch fwy

Gwneud Past Dannedd - gweithgaredd STEM i athrawon cynradd. Ar-lein 

Dydd Llun 15 Mai, 4-5pm. Sesiwn Cymraeg.

Dewch ag arbrawf cemeg i'ch dosbarth cynradd gyda'r weithgaredd ymarferol hwyliog, syml yma.Byddwn yn dangos pa mor hawdd yw hi i wneud eich past dannedd eich hun ac yn awgrymu sut y gall eich disgyblion ymchwilio'r cynnyrch trwy brofi os ydy'r past dannedd yn gweithio neu beidio!

Gall gwneud past dannedd fod yn weithgaredd yn ei hun neu byddwn yn dangos i chi sut gall fod yn gychwyn ar daith Gwobrau CREST i chi a'ch disgyblion.

Bydd pawb sy'n cofrestru yn derbyn rhestr cynhwysion fel y gallwch ddewis wneud yr arbrawf gyda ni. Byddwch hefyd yn derbyn fideo o'r sesiwn wedyn.

Bwciwch yma ar gyfer y sesiwn Cymraeg.

Darllenwch fwy

RSC: Gwreiddio gyrfaoedd yn eich gwersi gwyddoniaeth. Dydd Mawrth 6 Mehefin, 4–5pm. Ar-lein

Hoffech chi gael rhai syniadau am sut i ddod â gyrfaoedd gwyddoniaeth gemegol i mewn i'ch addysgu? Dewch draw i archwilio rhai o'n hadnoddau a thrafod gwahanol syniadau am sut i'w defnyddio a gwneud gyrfaoedd cemeg yn berthnasol. Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon byddwn yn amlygu rhai o’n hadnoddau gyrfa ac yn cyflwyno gwahanol ddulliau o ddod â gyrfaoedd i wahanol bynciau o fewn camau cynnydd 4 a 5 yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd cyfle i drafod gydag athrawon eraill pa ddulliau sy’n gweithio a pha wybodaeth neu adnoddau eraill fyddai’n ddefnyddiol yn y dosbarth.

Manylion a bwcio yma.

Ceisiadau am Lysgenhadon STEM

Ysgol Gyfun Treforys, SA6 6NH
Gweithdy Rocedi Potel neu Weithdy Robotiaid

Ebrill 26ain

Gweithgaredd gweithdy STEM i ddisgyblion a rhieni weithio arno gyda’i gilydd i gynyddu Cyfalaf Gwyddoniaeth. 
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ysgol Uwchradd Gwernyfed, LD3 0SG
Energy Quest 
16eg Mehefin - 7 Gorffennaf

Mae Energy Quest yn weithdy 2 awr a ddatblygwyd gan Engineering UK i hyrwyddo Peirianneg yn ei holl ffurfiau i ddisgyblion CA3. Bydd yn rhedeg yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed am 4 prynhawn dydd Gwener yn olynol: 16eg, 23ain a 30ain o Fehefin a 7fed o Orffennaf. Pe gallai Llysgennad STEM gefnogi un neu fwy o’r sesiynau, byddai hynny’n wych. Bydd hwylusydd yn rhedeg y gweithdy. Byddai angen i’r Llysgennad STEM gefnogi disgyblion sy’n gwneud y gweithgaredd ymarferol (batri ffrwythau) yna rhoi sgwrs fer 5 munud ar eu rôl eu hunain gyda sesiwn cwestiwn ac ateb i ddilyn.”
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma
 
 

Darllenwch fwy

Ysgol Uwchradd Castell Alun, Wrecsam LL12 9PY
Clwb STEM

9/11/22 - 12/7/23

Mae’r Clwb STEM yn ei ddyddiau cynnar ac felly maent yn  edrych am Lysgenhadon sy’n barod i ryngweithio â myfyrwyr am bwysigrwydd eu swyddi ac i roi cipolwg ar fyd gwaith STEM. Bydd yr athro  yn cynnal gweithgareddau penodol yn unol â’r Calendr Gwyddoniaeth ond ar hyn o bryd mae’n edrych am aelodau parod o’r gymuned sy’n hapus i fod yn gyswllt ac o bosib yn ymwneud â gweithgareddau mwy penodol yn y dyfodol.

I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ysgol Gyfun Porthcawl, CF36 3ES
Cyfweliadau Ffug
4 Gorffennaf 2023

Cyfweliadau Ffug er mwyn rhoi sgiliau bywyd i fyfyrwyr y gallant eu cymryd i mewn i'w bywyd gwaith. Cynhelir cyfres o sesiynau cyfweliadau ffug yn Ysgol Gyfun Porthcawl a gwahoddir Llysgenhadon STEM i'w mynychu i gefnogi a chynnig cyngor i fyfyrwyr. Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb.I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Henllys, NP44 6JA
Yr Amgylchedd

9 Mai 2023

Mae'r disgyblion yn mynd i ymchwilio i sut mae gweithredoedd dyn yn cael effaith ar yr amgylchedd, ar raddfa leol a byd-eang. Rydym yn edrych ar faterion cynnaladwyedd ac ôl troed byd-eang. Rydyn ni eisiau i'r plant ddeall yr effaith mae dyn yn ei chael a'r dewisiadau y gallwn ni eu gwneud a sut y gallant wneud gwahaniaeth yn lleol ac yn fyd-eang. Byddai croeso i unrhyw weithdy ar gyfer cyflwyniad gan Lysgennad STEM
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ysgol Gynradd Windsor Clive , CF44 6LA
Grymoedd a Phwliau

Dyddiadau Hyblyg
Mae un o ddosbarthiadau blwyddyn tri wedi gwneud cais. Maen nhw'n astudio 'The Lighthouse Keeper's Lunch' sy'n cynnwys grymoedd a sytemau pwli. Byddent yn hoffi cynnal prosiect diwedd tymor yn yr iard chwarae tua mis Mai. I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

 

Darllenwch fwy

Ysgol Gynradd Llangynidr, NP8 1NY
Ynni Adnewyddadwy

Wythnos yn dechrau 17 Ebrill

Hoffem i Lysgennad  roi cipolwg i’r plant ar egni adnewyddadwy a thrydan, sain a golau. Testun ysgol gyfan yw egni yn edrych ar gynhyrchu trydan a thrydan o ffynonellau adnewyddadwy. Mae hefyd yn cwmpasu sain a golau, felly mae'n amrywiol iawn.
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ysgol Gynradd Brynbuga, Brynbuga NP5 1SE
Cwricwlwm Seiliedig ar STEM

7/11/22 - 21/7/23

Eleni (2022-2023), mae ein hysgol yn cyflwyno cwricwlwm sy'n seiliedig ar STEM:  Prosiect Gwneud Gwahaniaeth (Ebrill-Mai) Prosiect Byddwch yn Iach, Bod yn Hapus (Mehefin-Gorffennaf)  Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn rhan o unrhyw un o'r rhain, cysylltwch â ni. Rydym yn chwilio am bobl i ennyn brwdfrydedd ac ennyn diddordeb ein dysgwyr, dangos iddynt fod gyrfa mewn STEM yn bosibl iddynt ac yn bennaf oll dangos iddynt fod STEM yn ystyrlon ac yn bleserus. Rydym yn ceisio pacio ein cwricwlwm gydag ymwelwyr ac ymweliadau i wneud i wyddoniaeth a thechnoleg ddod yn fyw. Os yn ymarferol, gorau oll. Cyswllt uniongyrchol: Alice Dougal dougala1@hwbcymru.net

I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ysgol Gynradd St Woolos, NP20 4DW
Merched mewn TGCh

Ebrill 24ain

Gellir cyflwyno'r gweithgaredd hwn AR-LEIN NEU YN BERSONOL. Rydym yn edrych i hyrwyddo'r diwrnod hwn trwy siaradwyr gwadd, cystadleuaeth ysgol gyfan a gweithgareddau dosbarth i ddatblygu dealltwriaeth o rôl cyfrifiadura yn y byd ehangach a'r gwahanol lwybrau i rolau o'r fath. Rydym am roi profiadau a gweithgareddau ymarferol i ddysgwyr a fydd yn datblygu eu dealltwriaeth o'r rolau hyn. Ein nod yw rhoi mynediad i'n dysgwyr at Lysgenhadon STEM uchelgeisiol o amrywiaeth o gefndiroedd a all wella ein dysgu. Gallai'r sesiynau fod yn gyflwyniad / sesiwn holi ac ateb neu'n sesiwn fwy ymarferol - rydym yn hapus i weithio gydag unrhyw ddarparwyr STEM i gynllunio'r gweithgareddau hyn.

I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

WESTJam - Gwersyll Rhanbarthol y Sgowtiaid NP11 4QZ
Maes Sioe Sir Gaerfyrddin

23-25 Mehefin 2023
Mae Vikki Phillips (Scowtiaid) yn trefnu gwersyll rhanbarthol ym mis Mehefin 2023 -  rydym yn chwilio am weithgareddau ar gyfer y dydd Sadwrn a dydd Sul. Hi sy'n trefnu'r parth antur a byddai wrth ei bodd yn cynnwys gweithgareddau nad yw'r bobl ifanc fel arfer yn cymryd rhan ynddynt. Bydd y gweithgareddau ar gyfer plant 4 oed hyd at 18 oed ond rydym yn ymwybodol na fydd pawb yn cael gwneud popeth oherwydd addasrwydd. Bydd y gweithgareddau yn rhedeg o 10am tan 4pm ar ddydd Sadwrn a 10am tan 1pm ar y dydd Sul. Mae'r trefnwyr yn chwilio am weithgareddau o amgylch y thema antur ond yn fwy na pharod i hyn gynnwys gweithgareddau STEM, yn enwedig gyda gweithgareddau'r Fyddin neu'r lluoedd, y bont ICE, unrhyw weithgareddau awyr agored a all gynnwys STEM, gall gweithgareddau fod yn hyblyg. Gall trefnwyr gynnig ardal i ddarparwyr wersylla gyda’u hoffer eu hunain am ddim a hefyd ar gyfer arlwyo am dâl ychwanegol bychan y pen.
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ar-lein/Ysgol Bro Dinefwr, SA19 6PE
Mentora Gwobr Aur CREST
25/1/23 - 19/7/23

Cefnogi grwpiau bach o ddisgyblion i gwblhau gwobr Aur Crest. Mae 5 grŵp o ddisgyblion MAT yn cwblhau Gwobr Aur Crest  ôl-16. Hoffwn i bob grŵp gael mentor y gallent gysylltu ag ef i'w cefnogi i gwblhau eu prosiectau. Y prosiectau yw: • Mesur effeithlonrwydd gwahanol siapiau adenydd awyren • Ymchwilio i ddifrod damwain • Ymchwilio i hwyliau aerodynamig • Dylunio a gwneud roller coaster • Ymchwilio i dwyll bwyd

I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma