I bob athro ac athrawes Ffiseg ...
Wythnos wych o gyflwyniadau a gweithdai i athrawon, technegwyr a myfyrwyr TAR â chyfleoedd i rwydweithio â chydweithwyr ar-lein - i gyd am ddim.
Byddwn yn cynnig gweithdai rhwng 16:00 a 20:00 bob nos Lun - Gwener, yn ogystal â rhaglen lawn ddydd Mercher (09:00 - 20:00) a bore Sadwrn (09:00 - 13:00) gyda dewis o weithdai, sioeau a chyflwyniadau.
Ymunwch â ni am wythnos lawn o weithdai a darlithoedd ysbrydoledig sy’n cynnwys ‘Movement, Measurement and the Laws of Motion‘ - Yr Athro Huw Summers (Prifysgol Abertawe); ‘New Worlds‘ - Yr Athro Mike Edmunds (Prifysgol Caerdydd) a ‘The Planet of Pollution‘ - Yr Athro Averil MacDonald OBE (Prifysgol Southampton).
Bydd gweithdai yn cynnwys y Ddaear yn y Gofod; Ffiseg Lego; Sbectol haul, Ffidil ac Electronau; Ffiseg gyda Balŵns - a'r Cwis Blynyddol (rhithwir) o Zeera‘s!
Mae croeso hefyd i dechnegwyr fynychu diwrnod llawn o weithdai ddydd Mercher 7 Hydref yn ogystal ag ymgysylltu â digwyddiadau eraill yn ystod yr wythnos
Gellir gweld y rhaglen lawn yma ) a gellir cofrestru yma.
|