Ar Ddydd Llun, Hydref 9fed, roedd Cerian Angharad a Llinos Misra o Gweld Gwyddoniaeth yn falch o fod yn rhan o’r tîm o feirniaid yng Ngwobrau Arloesedd CBAC eleni yn Stadiwm Swalec, Gerddi Sophia, Caerdydd.
Mae’r digwyddiad mawreddog hwn yn arddangosfa a chystadleuaeth ar gyfer y gwaith prosiect mwyaf arloesol ar lefel TGAU, UG a Safon Uwch mewn Dylunio a Thechnoleg.
Ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn, enwebodd cymedrolwyr ac athrawon Dylunio a Thechnoleg CBAC brosiectau i'w cynnwys yn yr arddangosfa a chafodd 80 o'r prosiectau A2, UG a TGAU mwyaf arloesol eu harddangos. Treuliodd y beirniaid amser yn asesu pob un o’r prosiectau cyn dewis enillwyr y 1af, yr 2il a’r 3edd Wobr ar lefel Safon Uwch, Safon UG a TGAU a dewis enillydd cyffredinol y Gwobrau Arloesedd. Dyfarnwyd gwobrau unigol hefyd am y prosiect sy'n dangos y potensial mwyaf ar gyfer diogelu Eiddo Deallusol, y cynnwys Gwyddoniaeth gorau ac am y prosiect sy'n arddangos y creadigrwydd mwyaf.
Llongyfarchiadau i bawb yr oedd eu gwaith yn rhan o'r arddangosfa. Mae pob prosiect a arddangosir yn gymwys ar gyfer Gwobr Arian neu Aur CREST.
|