Mae aelodau'r tîm, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i gyd yn cytuno mai digwyddiadau FIRST® LEGO® League yw rhai o'r profiadau mwyaf anhygoel, ysbrydoledig a gawsant erioed. Ble arall allwch chi wneud ffrindiau newydd, rhannu syniadau, datrys problemau ar hedfan, a chael eich ysbrydoli mewn technoleg trayn cael amser eich bywyd? Yn nigwyddiadau FIRST® LEGO® League, mae pobl ifanc yn sylweddoli yn fwy nag erioed fod FIRST yn ymwneud â gwaith tîm, rhannu, helpu eraill, a pharchu a dyma yw'r amser i ddod â'ch tîm at ei gilydd a meddwl am y ffyrdd y gallwn ymgysylltu tîm o fyfyrwyr â'r rhaglen. Mae'r holl adnoddau wedi'u haddasu ac wedi eu cyfieithu er mwyn addasu i'r gystadleuaeth ar-lein ac mae fideo i ddisgyblion eu dilyn. Oherwydd amrywiaeth o ffactorau o amgylch COVID-19, gwnaed y penderfyniad y bydd pob twrnamaent rhanbarthol yn cael ei yn ddigidol. Mae cyllid ar gael i bob grŵp addysg, gan gynnwys ysgolion. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth, ynghyd â'r ffurflen gais, yma. Y dyddiad cau yw hanner dydd ar 26 Tachwedd 2020. Mae Gweld Gwyddoniaeth yn gobeithio cynnal 3 chystadleuaeth eleni yn De-ddwyrain Cymru - 23 Ebrill 2021
Sir Benfro - 16 Ebrill 2021
Gogledd Orllewin Cymru - cyfrwng Cymraeg - 19 Mawrth 2021
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r cystadlaethau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â cerian.angharad@gweld-gwyddoniaeth.co.uk Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer tymor. Dewch â'ch tîm at ei gilydd a meddyliwch am y ffyrdd y gallwn gael pobl i symud! Manylion yma
|