Rhaglen cysylltu natur AM DDIM i ysgolion
Mae WWT wedi lansio eu rhaglen Generation Wild yn ddiweddar a fydd yn cysylltu 45,000 o blant a’u teuluoedd â byd natur. Mae’n cynnwys ymweliadau ysgol AM DDIM (gan gynnwys cludiant AM DDIM), ymweliadau AM DDIM i deuluoedd a gwefan wedi’i dylunio’n arbennig i annog gweithgarwch cysylltu natur parhaus yn yr ysgol, gartref ac mewn mannau gwyrdd lleol.
Yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli, mae’r prosiect yn agored i unrhyw ysgol sydd â dros 30% o ddisgyblion yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim gyda lleoedd yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. Gweler
www.generationwild.org.uk
Ymweliadau ysgolion â Chanolfan Gwlyptir Llanell
Ydy'ch dosbarthiadau wedi ymweld â Chanolfan Gwlyptir Llanelli? Os na, rydych chi'n colli trît! Gallwn eich helpu i ddod â’ch cwricwlwm gwyddoniaeth a daearyddiaeth yn fyw gyda’n sesiynau dysgu ymarferol ar gyfer pob oed a gallu. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig amdano… Byddai 100% o athrawon gwadd yn y pedair blynedd diwethaf yn argymell ymweliad â Chanolfan Gwlyptir Llanelli!
Dysgwch fwy yn:
https://learningzone.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli
Os yw hyn yn edrych yn ddiddorol, rydym yn cynnig ymweliadau am ddim i bob athro, gan ganiatáu i chi ymweld â'r ganolfan gyda'ch teulu yn rhad ac am ddim. Yn syml, cysylltwch â
addysg.llanelli@wwt.org.uk, gan adael i ni wybod eich enw a chyfeiriad yr ysgol.