Mae tymor 2023-24 FIRST LEGO League MASTERPIECE wedi cychwyn! Mae’r tymor hwn yn ymwneud â rhoi’r Gelf i mewn i ‘STEAM’, gyda thimau’n dychmygu ac arloesi ffyrdd newydd o greu a chyfathrebu celf ar draws y byd. Rydym yn gyffrous iawn i weld yr holl syniadau anhygoel a chreadigol y gwyddom a fydd yn cael eu cynhyrchu y tymor hwn.
Mae Cynghrair FIRST® LEGO® yn cyflwyno gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM) i blant 4-16* drwy ddysgu ymarferol llawn hwyl. Mae cyfranogwyr yn cael profiad datrys problemau yn y byd go iawn drwy raglen roboteg fyd-eang dan arweiniad, gan helpu myfyrwyr ac athrawon heddiw i adeiladu dyfodol gwell gyda'i gilydd.
Byddwn yn cynnal 4 digwyddiad rhanbarthol ledled Cymru -
Sir Benfro 16 Mawrth 2024
Merthyr Tudful - 13 Mawrth 2024
Glyn Ebwy - 18 Mawrth 2024
Caerdydd/hybrid (Cyfrwng Cymraeg) - 20 Mawrth 2024
I gael gwybod mwy am y cystadlaethau cysylltwch â
cerian.angharad@gweld-gwyddoniaeth.co.uk
I ddarganfod mwy am First Lego League ewch i
https://education.theiet.org/first-lego-league-programmes