IOP Gwobrau Athrawon Ffiseg
Mae enwebiadau nawr ar agor!
Mae Gwobrau Athrawon Ffiseg yn dathlu llwyddiant athrawon ffiseg lefel uwchradd sydd wedi codi proffil ffiseg a gwyddoniaeth mewn ysgolion a cholegau. Gwyddom fod athrawon yn cyfrannu llawer iawn at gymdeithas, a dymunwn roi’r gydnabyddiaeth haeddiannol iddynt.
Gyda’r gwobrau hyn, rydym yn anrhydeddu athrawon ochr yn ochr â gwyddonwyr ymchwil, technegwyr a diwydianwyr nodedig.
Yn y modd hwn rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw gymuned ymchwil ffiseg na sylfaen dechnolegol yn y gymdeithas heb athrawon ymroddedig.
Mae'r enillwyr yn derbyn gwobr o £1,000, pwysau papur gwydr wedi'i ysgythru a thystysgrif.
Bellach mae un system ymgeisio ar gyfer pob athro yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon a Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Y dyddiad cau yw dydd Sadwrn 30 Mawrth.
Manylion yma.
|