Gweithdai Cemeg AM DDIM (Ariannwyd gan yr RSC)
Hyd at ddiwedd tymor yr haf, bydd Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig amrywiaeth o weithdai AM DDIM i ysgolion ledled Cymru. Byddwn yn hyblyg o ran sut rydym yn cyflwyno'r gweithdai hyn, yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID, yn cyflwyno wyneb yn wyneb mewn ysgolion neu yn rhithiol trwy gysylltiadau byw ar lwyfannau sy'n addas i'r ysgolion.
Gweithdy Cemeg ar Waith (Bl 9)
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn cynnal diwrnodau Cemeg yn y Gwaith ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 ond eleni rydyn ni'n mynd yn rhithiol. Un budd o hyn yw y gallwn gynnwys Cemegwyr o brifysgolion eraill, yn ogystal ag o ystod eang o weithleoedd. Ond, hyd yn oed yn well, gallwn gynnig y gweithdy i ysgolion ledled Cymru!
Bydd y ffocws ar ble y gall Cemeg fynd â chi yn y dyfodol, gyda mewnwelediadau i astudio pynciau cysylltiedig â Chemeg yn y Brifysgol ac ehangder y gyrfaoedd y gallant arwain atynt.
Gweithdy 2 awr fydd hwn a gallwn fod yn hyblyg wrth ei gyflwyno - naill ai mewn un sesiwn neu dros ddwy sesiwn ar ddiwrnodau gwahanol.
Gweithdy Cemeg mewn Pandemig (Bl 5 i 9)
Bydd hwn yn weithdy newydd sbon yn edrych ar Cemeg a rôl Cemegwyr wrth ymladd pandemig byd-eang.
Am fwy o fanylion neu i gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch Llinos ar llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.