Peiriannau'r Dyfodol yw'r grŵp diweddaraf o adnoddau CREST ac fe'u datblygwyd ar y cyd â'r Gymdeithas Frenhinol. Yn seiliedig ar Ddysgu Peirianyddol, maent yn amserol ac yn berthnasol i bob disgybl, p'un a oes ganddynt ddiddordeb penodol mewn cyfrifiadureg ai peidio. Mae yna adnodd prosiect Peiriannau'r Dyfodol ar gyfer pob oedran o flwyddyn 5 i ôl-16 a'r cyfle i ennill Gwobr Darganfod CREST, Efydd, Arian neu Aur. Mae holl weithgareddau CREST yn benagored, yn cael eu harwain gan fyfyrwyr ac yn seiliedig ar ymholiadau gyda chyd-destun byd go iawn - gan eu gwneud yn addas iawn ar gyfer Cwricwlwm Cymru.
Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar adnodd Peiriannau Darganfod y Dyfodol, sy'n briodol ar gyfer CA2 a CA3 uchaf ac ar gael yn y Gymraeg. Dylai'r gweithgaredd bara 5 awr a gellir ei wneud mewn un diwrnod neu fel pum gwers unigol. Ymunwch â ni i ddysgu pa mor hawdd yw hi i redeg prosiect Darganfod ac i fynd trwy'r adnodd gam wrth gam.
Dewch o hyd i'r adnodd yma neu gwyliwch y fideo hon, a gyflwynwyd gan yr Athro Brian Cox, i gael blas ar yr weithgaredd.
Dilynwch y dolenni canlynol i fwcio lle ar un o’r seisynau ar-lein:
Dydd Mercher, 28 Ebrill, 4 – 5pm
Dydd Mawrth, 11 Mai, 4 – 5pm
Dydd Mercher 19 Mai 4-5pm (drwy gyfrwng y Gymraeg)
I archebu lle ewch yma.
|