Hyfforddiant Gweithdy 'Making Space' Dydd Iau 30 Ebrill am 2pm ac yna bydd yn cael ei ail adross ar dydd Mawrth 12 Mai am 4pm
Ymunwch â Dr Katherine Compton yng Nghaerdydd i ddarganfod mwy am weithgareddau y gallech eu cynnig i ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori mewn seryddiaeth a gofod fel rhan o'r fenter One Million Interactions a lansiwyd yng nghynhadledd Asiantaeth Ofod y DU yng Nghasnewydd, gyda chefnogaeth STEM Learning, ESERO UK a The Careers and Enterprise Company, er mwyn denu mwy o bobl ifanc i mewn i wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) a'r diwydiant gofod, sy'n cynhyrchu biliynau o bunnoedd i'r economi ac yn creu 42,000 o swyddi.
“Mae yna amrywiaeth enfawr o yrfaoedd ar gael yn y sector gofod,” meddai Tim Peake, “ac yn ystod fy nghenhadaeth i’r Orsaf Ofod Ryngwladol roeddwn yn rhan o dîm o filoedd o bobl yn gweithio y tu ôl i’r llenni i’w gwneud yn bosibl.
Bydd y gweithdy hwn yn darparu amrywiaeth o syniadau ac adnoddau newydd i chi y gellid eu defnyddio ar lefel gynradd ac uwchradd ac mae'n addas ar gyfer athrawon, arweinwyr grwpiau cymunedol, Llysgenhadon STEM a gwirfoddolwyr. Bwciwch yma.
|