Pentref Gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’i drawsnewid yn ardal ryngweithiol, ddeniadol a chyffrous, gan ddod â phob elfen o STEM yn fyw i ymwelwyr o bob oed.
Eleni, mae’r Maes wedi’i leoli ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd lle parhaodd y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg i fod mor lliwgar, arloesol ac addysgiadol ag arfer.
Gyda rhaglen gyfoes o weithgareddau, o sgyrsiau a chyflwyniadau am y datblygiadau gwyddonol diweddaraf ar draws y byd, i gyfleoedd i blant arbrofi gyda phob math o wyddoniaeth, yn un o ardaloedd prysuraf a mwyaf poblogaidd y Maes.
Mae’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan annatod o’r ŵyl, gan ddenu 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chromen fawr eiconig sy’n dal 100 o bobl. Lleolwyd PDC a CCR yn un o gabanau pren y Pentref i drafod a hyrwyddo gyrfaoedd ym myd technoleg. Roedd hyn yn cynnwys hyrwyddo cyfleoedd uwchsgilio i unigolion i dechnoleg, seibr a sgiliau digidol yn Ne-Ddwyrain Cymru a chynghori ymwelwyr ifanc ar lwybrau gyrfa mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.
Ar ddydd Mercher 7fed a dydd Gwener 9fed Awst, roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 ym Mhontypridd.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i staff DHCW gwrdd â’r cyhoedd, ateb cwestiynau, derbyn adborth a hyrwyddo DHCW fel lle gwych i weithio i unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau gyrfa ym myd digidol.
Noddodd DHCW babell Y Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar 7 Awst a chynhaliwyd dwy sgwrs yn trafod manteision datblygiadau digidol ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.
Dywedodd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth DHCW:
“Rydym yn falch o gefnogi rhaglen Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gan sôn am bwysigrwydd digidol ym maes iechyd a gofal, rôl DHCW a rhai o’n gwasanaethau allweddol, gan gynnwys Ap GIG Cymru.”
Diolch i Eisteddfod Genedlaethol Cymru a DHCW am luniau
|