Mae Rolls-Royce yn cydnabod bod athrawon yn chwarae rhan hynod ddylanwadol wrth ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, a dyna pam yn 2004 y gwnaethom sefydlu ein Gwobr Ysgolion (Gwobr Gwyddoniaeth gynt) ac rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen flaenllaw byth ers hynny.
Mae Gwobr Ysgolion Rolls-Royce yn agored i bob ysgol yn y DU ac yn helpu athrawon i gynyddu ymgysylltiad gwyddoniaeth, mathemateg a thechnoleg yn eu hysgolion a’u colegau. Mae ein Gwobr Ysgolion yn cefnogi DPP athrawon trwy ein partneriaeth gyda STEM Learning a Project ENTHUSE.
Fel grŵp pŵer byd-eang sy'n arwain y byd, rydym wedi ymrwymo i atebion pŵer cynaliadwy a bydd ein technoleg yn chwarae rhan sylfaenol wrth alluogi'r newid i economi fyd-eang carbon isel. Mae pob un o’n hysgolion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cefnogi gan fentor Rolls-Royce sy’n rhoi cipolwg ar gymwysiadau bywyd go iawn STEM yn ein busnes. Ers 2004, rydym wedi dyfarnu dros £1.6m o gronfeydd gwobrau i dros 600 o ysgolion sydd wedi cymryd rhan yn ein Gwobr Ysgolion, gan helpu i hybu ein huchelgais allgymorth addysg strategol i gyrraedd 25 miliwn o bobl ifanc erbyn 2030.
I gystadlu fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais Cam 1 yn amlinellu syniad ar gyfer prosiect gwyddoniaeth, mathemateg neu dechnoleg cynaliadwy i'w ddatblygu yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Gallai’r prosiect arfaethedig fod yn syniad newydd neu’n ddilyniant rhywbeth yr ydych eisoes yn gweithio arno ond dylai ddangos arloesedd, creadigrwydd ac uchelgais mewn addysg STEM.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 1 yw Chwefror 2023. Manylion yma.
|