Grantiau Cymunedol ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2021
Bwriad Cynllun Grant Cymunedol Wythnos Wyddoniaeth Prydain yw ehangu'r cynulleidfaoedd sy'n ymgysylltu â gwyddoniaeth ac yn hunan-nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn gwyddoniaeth trwy rymuso a chefnogi grwpiau cymunedol i redeg eu gweithgareddau gwyddoniaeth eu hunain yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain (5-14 Mawrth) 2021).
Mae'r cynllun yn cynnig grantiau rhwng £500 a £2,000 ar gyfer grwpiau cymunedol sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chynulleidfaoedd sydd yn draddodiadol heb gynrychiolaeth ddigonol ac nad ydyn nhw'n cymryd rhan mewn gweithgaredd gwyddoniaeth ar hyn o bryd.
Mae ein diffiniad o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn gwyddoniaeth yn cynnwys:
- pobl o leiafrifoedd ethnig
- pobl â statws economaidd-gymdeithasol isel, gan gynnwys pobl sydd dan anfantais o ran addysg ac incwm
- pobl â chyflwr neu nam corfforol neu feddyliol
- pobl sy'n byw mewn lleoliad anghysbell a gwledig, a ddiffinnir fel aneddiadau o lai na 10,000 o bobl
- merched a menywod.
Ni ellir defnyddio grantiau cymunedol ar gyfer digwyddiadau neu weithgareddau gyda grwpiau ysgol oni bai eu bod yn ysgol anghenion addysg arbennig (AAA). Os ydych chi'n cynrychioli ysgol ac yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd, gwnewch gais am ein Grantiau Kickstart yn lle (gweler uchod).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun, 9 Tachwedd 2020.
Manylion yma.
|