Lansiwyd menter newydd mewn partneriaeth â Pharc Gwledig Margam ar gyfer yr Wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol.
Yn dilyn sawl cyfarfod yn y Parc, cynhaliwyd dau ddiwrnod STEM: Dydd Sul 10 a dydd Llun 11 Mawrth. Y lleoliad oedd y Castell Gothig Fictoraidd â ddarparodd ofodau enfawr ar gyfer yr arddangosfa.
Ar ddydd Sul ymwelodd grwpiau teuluol â llawer o weithgareddau yn y stondinau, ac er gwaethaf y tywydd garw, croesawyd dros 300 o ymwelwyr.
Dros y ddau ddiwrnod roedd Llysgenhadon STEM yn cynnwys, Archaeoleg (Poppy Hodkinson) TT Electronics Marcus Davies a'i dîm, Llysgenhadon DVLA, CITER (Sefydliad Meinwe a Thrwsio Caerdydd Kaiya Bartram-Daly), Network Rail, Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain, Jon Laver (Parametrics), Arddagosfa Gemeg – Cemeg yn y Gymuned Gweld Gwyddoniaeth, BAE Systems a Diamond Dust Robots.
Roedd y diwrnod canlynol (gyda thywydd gwell!) yn cynnig profiad gwych i Ysgol Cwm Brombil ac Ysgol Tonnau lle ymwelodd 90 o ddisgyblion i gymryd rhan yn y gweithgareddau ymarferol. Roedd yn fonws ychwanegol i gweithgaredd Pontydd ICE i Ysgolion. Cafodd tîm o 12 o Lysgenhadon STEM dan arweiniad medrus Leighton Jones o Atkins Global a Christina Kio o Skanska. Roedd y adborth I’r tîm yn wych, - dyma sylwadau gan athrawon:
“Diwrnod ardderchog - roedd gan bawb ddealltwriaeth gwych o'r hyn roedden nhw'n ei ddysgu i'r disgyblion.” Athrawwes - Jenny Tomkins
“Yn sicr byddem yn hoffi bod yn rhan o hyn yn y dyfodol”
“Anaml y byddwn yn gwneud gwaith ymarferol yn y gwyddoraul - mae'n dangos yr hyn y gellir ei wneud os oes gennych wybodaeth a hyder”
“Dyma ffordd wych o ddysgu Gwyddoniaeth – yn hwyl ac ysbrydoledig” Gwirfoddolwyr Parc Margam
Rhoddwyd cardiau STEM i'r disgyblion eu cymryd i bob stondin, rhoddodd Llysgenhadon STEM sticeri ar y cardiau pan ymwelodd disgyblion â gweithgaredd ac ymgysylltu'n dda i ychwanegu ffocws at y profiad. Dyfarnwyd y ‘Cwningod Aur’ 'i'r casgliadau gorau - er bod yr holl ddisgyblion wedi cael gwobr yn ystod y dydd!
Llysgenhadon STEM oedd yr allwedd i'r llwyddiant a’r profiad gwych hwn.
Bydd y Parc yn cynnal nifer o ddiwrnodau digwyddiadau dros yr haf, os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig stondin, cysylltwch â mi
|