Yn cael ei rhedeg bob blwyddyn gan yr ASE mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Entomolegol Frenhinol, mae'r gystadleuaeth 'Great Bug Hunt' boblogaidd yn mynd â dysgu gwyddoniaeth allan o'r ystafell ddosbarth Gynradd ac yn dod yn fyw yn yr awyr agored.
Mae ein her yn eithaf syml - ewch â'ch dosbarth y tu allan, eu harfogi â chwyddwydrau a llyfrau nodiadau, a'u pwyntio at y gwrychoedd agosaf, gwelyau blodau, coed, glaswellt hir, boncyffion, cerrig, creigiau ayyb a gadael iddyn nhw archwilio ac adrodd yn ôl ar yr hyn maen nhw'n ei ddarganfod.
Gall eich cofnodion fod yn boster wal, adroddiad, fideo neu hyd yn oed bodlediad neu gerdd! Ein huchelgais yn syml yw grymuso athrawon cynradd i ennyn brwdfrydedd eu disgyblion ynghylch potensial archwilio'r byd naturiol ar stepen eu drws.
Y dyddiad cau yw 12 Mehefin 2020.
Manylion yma.
|