Croeso i Cylchlythyr STEM ar gyfer
Ysgolion Uwchradd yng Nghymru

Eisiau cael gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn ystod tymor y gwanwyn, adnoddau addysgol newydd, digwyddiadau, rowndiau newydd o grantiau a mwy…

Mae fersiynau mwy o rai (ond nid pob un) o’r lluniau yn y cylchlythyr hwn – cliciwch ar y llun bach i weld.

nol i'r cychwynNewidiadau i gyllid Gwobrau CREST

Penodwyd Gweld Gwyddoniaeth Cyf yn Gydlynydd Lleol ar gyfer Gwobrau CREST yng Nghymru ym mis Hydref 2010. Mae llwyddiant yn y cynnydd mewn nifer o achrediadau Gwobrau CREST yng Nghymru o fis Hydref 2010 i Gorffennaf 2013 wedi cael ei gyflawni gydag arian gan Lywodraeth Cymru drwy’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol – i gydlynu a chynyddu gweithgareddau yn ysgolion Cymru. Mae’r gefnogaeth wedi cynnig cymhorthdal i ffi gofrestru’r disgyblion, a strwythurau cefnogol eraill a ddarperir trwy Gweld Gwyddoniaeth Cyf Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant hwn ac yn teimlo bod Gwobrau CREST wedi prynu budd sylweddol. Fodd bynnag, mae y grant hwn ar gyfer Gwobrau CREST yn awr wedi dod i ben.

Beth yw goblygiadau hyn i ysgolion? Mae’r ffi gofrestru gyda chymhorthdal wedi dod i ben yng Nghymru, ac mae’r pris yn awr yn yr un fath â gweddill y DU: Darganfod £3.00, £4.00 Efydd, Arian £8.00 ac Aur £15.00. Yn ogystal, bydd cymorth yn cael ei canoli a’i ddarparu gan ein prif swyddfa dros y ffôn ac thrwy e-bost.

Rydym angen eich cyfraniad!

CREST AwardsMae Gweld Gwyddoniaeth ar hyn o bryd Gwyddoniaeth yn chwilio am nawdd ar gyfer y cynllun Gwobr CREST o ffynonellau eraill, ac i wneud hynny mae angen i ni gyflwyno tystiolaeth gan arbenigwyr am werth y cynllun Gwobrau CREST yng Nghymru, gan gynnwys pwysigrwydd y grantiau i ysgolion i hyrwyddo sefydlu Gwobrau CREST, cefnogaeth leol a chymhorthdal chofrestru. Os ydych chi wedi elwa o, neu wedi cymryd rhan mewn Gwobrau CREST yn rhinwedd unrhyw swydd, byddem yn dra diolchgar pe baech yn ein helpu i ddatblygu’r achos dros gyllid drwy dreulio ychydig funudau yn ateb ein holiadur byr ar-lein.

nol i'r cychwynDolenni i dudalennau newyddion Gweld Gwyddoniaeth

Oherwydd fod cymaint o straeon yn y cylchlythyr misol mae'n amhosibl i gynnwys rhestr cryno o weithgareddau, adnoddau, cystadlaethau, grantiau, cyfleoedd DPP a digwyddiadau yng nghorff y cylchlythyr.

Ond mae eitemau newydd yn cael eu hychwanegu at y tudalennau gwe - gallwch eu gweld drwy glicio ar y dolenni hyn:

nol i'r cychwynEffeithiau allweddol Rhaglenni STEM Learning

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl athrawon yng Nghymru a’u disgyblion sy’n cefnogi proses werthuso STEM Learning.

Mae STEM Learning yn cynnal gwerthusiad tymor hir, annibynnol ar ei holl raglenni. Mae canlyniadau blwyddyn gyntaf y cylch ymchwil 2011-2015 (dilynwch y ddolen i lawrlwytho ar ffurf pdf) bellach wedi dod i law, ac yn hynod o gadarnhaol am y llwyddiant ein rhaglenni a’u heffaith mewn ysgolion. Mae canfyddiadau’r adroddiad interim yn cael eu hamlygu mewn digwyddiad seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin ar 9 Hydref, 2013. Gallwch gael mwy o wybodaeth yma.

Mae gwerthusiad annibynnol o’n rhaglenni gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) wedi dangos eu bod yn gweithio. Mae’r canlyniadau yn dangos effaith gadarnhaol ar athrawon a’r cyflogwyr sy’n caniatáu i’w staff i wirfoddoli, yn ogystal â’r Llysgenhadon STEM eu hunain.

“Mae’r dystiolaeth o flwyddyn gyntaf y gwerthusiad yn dangos perfformiad hynod lwyddiannus o weithrediadau a rhaglenni STEM Learning a’i ystod o gyflawniadau nodedig.”

“Mae disgyblion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda Llysgenhadon STEM …. gyda agweddau mwy cadarnhaol a gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd pynciau STEM i fywyd bob dydd a’i pwysigrwydd yn y byd go iawn. Mae’r disgyblion hyn gyda mwy o ddiddordeb mewn dilyn pynciau STEM ymhellach hefyd.” (NFER)

nol i'r cychwynCydnabyddiaeth i arloeswyr ifanc Cymru

Mae dylunwyr ifanc mwyaf disglair Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith rhagorol yng nghyrsiau Safon Uwch a TGAU Dylunio a Thechnoleg CBAC oddi wrth y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, yn yr Arddangosfa Gwobrau ac Arloesi 2013.

Jack Collins Wave clockNathan LlewellynDyfarnwyd Jack Collins (llun ar y chwith) o Ysgol y Preseli yn enillydd mawreddog gyda gwobr â noddir gan gyfreithwyr patent Abel & Imray a derbyniodd y wobr gyntaf Safon Uwch am ei gloc tonnau Arizona, â oedd wedi ei ddylanwadu gan “The Wave yn Arizona”. Cafodd Jack £500 a Chwpan Gwobr Beckley a thlws a noddwyd gan Sefydliad EADS. Ennillodd Connor Evans o Ysgol Gymunedol Sirol Porth y dyfarniad UG a noddir gan Asiantaeth Digidol Creadigol Sequence gyda’i “headphone point-of-sale” a Nathan Llewellyn (ar y llun ar y dde) o Ysgol Uwchradd Cwmcarn enillodd y categori TGAU, a noddwyd gan SWIEET, gyda oerydd caniau. Mae pob un o’r myfyrwyr wedi cynnig am Wwobrau CREST Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain ac wedi cyflawni Gwobrau Arian neu Aur.

Mae’r arddangosfa dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd ar 14-15 Hydref yn cael ei drefnu gan CBAC ac Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, gyda’r nod o roi cyfle i arddangos talent greadigol,arloesol a thechnolegol pobl ifanc yng Nghymru. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth yn y maes dylunio, technoleg ac arloesi.

Ar ôl mwynhau taith o amgylch yr arddangosfa sgwrsio gyda myfyrwyr am eu gwaith, aeth Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru,ymlaen i ddyfarnu gwobrau i’r enillwyr. Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn mynychu y gwobrau hyn eto eleni i weld drosof fy hun y prosiectau Dylunio a Thechnoleg rhagorol o bob cwr o Gymru ac i gwrdd â’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr. Rydym yn gwybod bod arloesi yn allweddol er mwyn sicrhau twf economaidd, swyddi a ffyniant. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, colegau, prifysgolion a busnesau i feithrin y talent a chreadigrwydd ein pobl ifanc fel y gall Cymru gystadlu ar y llwyfan byd-eang. Ni all y safon y gwaith sy’n cael ei arddangos beidio a chreu argraff. Rwy’n siŵr y bydd llwyddiant y technolegwyr ifanc yn ysbrydoli llawer mwy.”

nol i'r cychwynMyfyrwyr ymchwil Cymru chwilio am Aur

NuffieldDaeth myfyrwyr o bob cwr o Gymru ynghŷd yng Nghanolfan Wyddoniaeth Techniquest i ddathlu eu llwyddiant trwy arddangos eu prosiectau Profiad Ymchwil Nuffield. Mae safon y prosiectau a ddangosir gan y myfyrwyr ar ôl eu Profiad Ymchwil Nuffield yn rhagorol. Roedd y digwyddiad yn uchafbwynt ymchwil y myfyrwyr yn ystod yr haf pan oeddent yn gweithio ochr yn ochr â gwyddonydd a pheirianwyr sy’n gweithio wrth gyflawni’r prosiectau hyn.

‘Roedd gwyddonwyr ymchwil a pheirianwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Glyndwr, Abertawe, Caerdydd, Canolfan Ymchwil Ynni Solar OpTic, SPECIFIC IKC, RSPCA, Canolfan Seryddiaeth. HESAS, Y Sŵ Mynydd Cymreig, Manor House Wildlife Park, Ysbyty Singleton Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Prifysgol De Cymru ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, wedi rhoi cyfle i 62 o fyfyrwyr sut beth yw hi i fod yn wyddonydd ymchwil. Mae pob un o’r myfyrwyr wedi cynnal prosiect blaengar gydag arweiniad gan eu mentor. Mae’r profiad yn cynnig ffenestr i fyd ymchwil.

Cafodd y myfyrwyr eu llongyfarch gan Yr Athro Martin Rees ar eu cyflawniadau a chyflwynwyd tystysgrif i bob un ohonynt. Yn ogystal, mae nifer o’r myfyrwyr wedi cyflawni Gwobrau CREST Aur Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain yn eu prosiectau ymchwil.

Mae mwy o wybodaeth am Brofiad Ymchwil Nuffield ar gael yn yn www.nuffieldfoundation.org/information-applicants.

Llun: Adam Jones a wnaeth ei brosiect o dan arweiniad yr Athro Gareth Jenkins, Prifysgol Abertawe yn y llun yma gyda Dr Ian Mabbit SPECIFIC IKC. Canolfan Arloesi a Gwybodaeth Bae Baglan.

nol i'r cychwynAr y Brig – Cystadleuaeth – ‘Top of the Bench’

RSC logoRoedd chwe ysgol o Ganolbarth Cymru yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth flynyddol ‘Top of the Bench’. Mae’r digwyddiad un – dydd yn cael ei redeg gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a gynhaliwyd yn Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd ym Mhowys.

Yr ysgolion a fu yn y digwyddiad oedd: Ysgol Penglais, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Dyffryn Teifi, Ysgol Gyfun Aberaeron, Ysgol Uwchradd Llanfyllin ac Ysgol Gyfun Penweddig.

Roedd bob tîm o bedwar disgybl yn cynwys – dau ddisgybl o Flwyddyn 9, un o Flwyddyn 10 ac un o Flwyddyn 11. Mae’r timau yn cystadlu mewn cwis ar arddull ‘University Challenge’, yn seiliedig ar eu gwybodaeth o gemeg. Roedd y safon yn uchel a pherfformiodd pob myfyriwr yn dda.

Gwelodd y rownd gyn – derfynol Ysgol Penglais ac Ysgol Gyfun Aberaeron yn ymladd yn erbyn eu gilydd mewn brwydr agos. Aberaeron, fodd bynnag,lwyddodd i ennill digon o bwyntiau ar y diwedd i ennill. Derbyniodd tîm Aberaeron dlws gan y RSC i’r ysgol, ac maent yn mynd ymlaen i gynrychioli Canolbarth Cymru yn y rownd derfynol ym Mhrifysgol Loughborough Mis Ebrill nesaf.

Llongyfarchiadau i bob un o’r timau oed wedi cystadlu, a dymunwn yn dda i Ysgol Gyfun Aberaeron yn y rownd nesaf!

nol i'r cychwynYsgol yn Sir Benfro ar y brig yn Her Faraday

Milford Haven SchoolYsgol Bro GwaunMae myfyrwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn cystadlu mewn cyfres o Ddiwrnodau Her Faraday y tymor hwn, gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a gweithio mewn tîm. Ac Mae un ysgol Gymraeg ar hyn o bryd ar y brig drwy y DU gyfan.

The Greenhill SchoolYsgol Dewi SantMae’r Diwrnodau Her Faraday yn cael eu darparu mewn 45 o ysgolion ar draws y DU yn rhad ac am ddim gan yr IET. Maent yn cynnig y cyfle i fynd i’r afael â phroblem peirianneg anodd mewn ffordd ymarferol, dod o hyd i atebion drwy ymchwil, dylunio ac adeiladu modelau prototeip ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 8. Mae pob ysgol sydd yn cynnig yr her wedi ei hannog i wahodd timau o chwech o ddisgyblion o ysgolion cyfagos. Mae pob tîm yn cael ei farcio ar ei waith yn ystod y dydd, ag gellir ennill tlws a gwobrau unigol os yn fuddigol. Mae’r ysgolion sy’n sgorio uchaf ar draws y DU yn cael eu rhoi ar fwrdd sgorio – ac ar 23 Hydref, yr arweinwyr oedd y tîm o Ysgol Dewi Sant yn Sir Benfro. Ar ôl y digwyddiadau ym mhob 45 o ysgolion gael eu cwblhau, bydd y tri thîm gorau o bob cwr o’r DU yn mynychu y Rownd Derfynol Genedlaethol i gystadlu am wobr ariannol o hyd at £1,000 ar gyfer eu hysgol.

Mae’r disgyblion yn amlwg yn mwynhau’r profiad. Dywedodd un ferch o Ysgol Aberdaugleddau: “Roedd yn rhoi dealltwriaeth glir o sut y byddai peirianneg yn yrfa dda i bawb" a dywedodd bachgen o Fangor: “Fe wnes i fwynhau heddiw. Roedd yn anhygoel!”

Eleni, am y tro cyntaf, gall timau ennill Gwobr Darganfod CREST i gydnabod eu gwaith yn ystod y dydd.

‘Roedd Ysgol Dewi Sant oedd yr enillwyr yn y digwyddiad â gynhaliwyd yn Ysgol Bro Gwaun yn Abergwaun, ysgolion eraill a gymerodd ran oedd: Ysgol Bro Gwaun, Ysgol Dyffryn Taf, Ysgol Greenhill, ac Ysgol Aberdaugleddau. Yn Ysgol Aberconwy daeth timau o: Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol y Creuddyn, ac Ysgol Bryn Elian, gyda’r olaf yn dod allan ar y brig.

Mae manylion yr her go iawn yn cael eu cadw yn gyfrinach, felly nid yw ysgolion sydd eto i gymryd rhan o dan unrhwy fantais.

nol i'r cychwynGadewch i Fathemateg fynd â chi ymhellach …

Ydych chi erioed wedi meddwl am sut y mae gwahanol anifeiliaid yn symud o gwmpas? Ydynt yn cerdded, prancio neu hyd yn oed fowndio? Sut allwn ni dorri stribyn o bapur i ffurfio un ddolen fawr, neu dwy galon cysylltiedig? Dim ond rhai o’r cwestiynau â ystyriwyd gan fyfyrwyr blwyddyn 11 yn ystod gweidai yn y Rhaglen Cefnogi Mathemateg Bellach ar gyfer Cynhadledd Cymru a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi, ac mae’r atebion i gyd, wrth gwrs, yn gysylltiedig gyda Mathemateg!

Esboniodd Martyn Parker o Brifysgol Keele sut mae mathemateg sydd yn ymgorffori symudiad gwahanol anifeiliaid yn cael ei ddefnyddio gan beirianwyr i helpu robotiaid dylunio sy’n gallu cerdded i mewn i sefyllfaoedd a fyddai’n rhy beryglus i bobl. Gyda Dr Colin Wright, mathemategydd ymchwil, rhaglennydd a dylunydd caledwedd cyfrifiadurol ac electroneg, roedd pawb yn brysur gyda phapur, sisyrnau a selotep yn gwneud a thorri stribedi Möbius i ddadansoddi siapiau mathemategol. Roedd pawb wedyn yn rhyfeddu yn ddiweddarach ar ei sgiliau jyglo, gan egluro dirgelion o ddysgu sut i jyglo – ymarfer, ymarfer, ac wrth gwrs … Mathemateg!

Daeth 80 o fyfyrwyr Blwyddyn 11 o saith ysgol yng Ngogledd Cymru i gymryd mwy rhan yn y digwyddiad er mwyn eu hannog i ystyried dewis astudio Mathemateg Bellach ar lefel UG a Safon Uwch, gab eu rhoi ar y blaen mewn astudiaethau sy’n seiliedig ar fathemateg mewn Addysg Uwch. Roedd athrawon o’r ysgolion a Llysgenhadon STEM o’r Brifysgol wrth law i gefnogi gweithgareddau a sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth. Cynhaliwyd digwyddiad tebyg yn Abertawe yn gynharach yn yr wythnos.

Mae’r Rhaglen Cefnogi Mathemateg Bellach (FMSP) Cymru yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cael ei reoli gan y Sefydliad Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannol Cymru (WIMCS), partneriaeth gydweithredol o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe, ac mae’n trefnu digwyddiadau cyfoethogi Mathemateg, dosbarthiadau meistr a sesiynau dysgu, ac yn darparu adnoddau mynediad i astudio ar-lein.

Mae cynadleddau pellach yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe a Chaerdydd ym mis Chwefror 2014. Mae manylion am y rhain, a’r cyfleoedd sydd ar gael drwy FMSP Cymru, ar gael yn www.furthermaths.org.uk.

nol i'r cychwynDeunyddiau + syniadau + haul yr haf = hwyl peirianneg!

Solar powered boats at Ysgol EirasCafodd y tywydd braf yr haf hwn ei roi i ddefnydd da pan fu disgyblion Blwyddyn 8 a 9 fyfyrwyr o bum ysgol yng Ngogledd Cymru yn cynllunio ac yn rasio eu cychod sy’n defnyddio ynni’r haul fel rhan o Brosiect Academi Frenhinol Peirianneg ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Dan arweiniad Phil Sutton, athro technoleg yn Ysgol Eirias, nod yr Her Cwch Solar oedd dod o hyd i’r ffordd mwyaf effeithlon o yrru cwch model gan ddefnyddio dim ond ynni o’r haul. Ar ôl gweithio ar eu dyluniadau mewn Clybiau STEM ar ôl ysgol, roedd rhaid i’r myfyrwyr wneud eu penderfyniadau eu hunain am ddeunyddiau a dulliau adeiladu, gan gadw o fewn y rheolau a canllawiau penodol, megis y math o fodur i’w ddefnyddio ac uchafswm y dimensiynau y cwch. Rhy faw, ac efallia na fyddai y cwch yn ffitio yn y lonydd rasio a adeiladwyd yn arbennig!

Solar powered boats at Ysgol EirasDiolch byth, 16 Gorffennaf – y diwrnod ras – gwawrio yn braf, ac mae cyfanswm o wyth tîm o Ysgol John Bright, Ysgol Castell Alun, Ysgol Clywedog ac Ysgol Eirias yn ymgynnull ar gyfer y digwyddiad mawr! (Roedd Ysgol Ardudwy hefyd wedi dylunio a gwneud eu crefft eu hunai, ond yn anffodus yn gallu cymryd rhan ar ddiwrnod y rowndiau terfynol.)

Roedd awr yn cael ei neilltuo ar gyfer paratoi ras olaf, i gynnwys sodro a phrofi munud olaf. Roedd hyn yn amhrisiadwy ac yn creu cyffro go iawn! Mae brwdfrydedd y peirianwyr ifanc yn amlwg gan fod y cwch solar yn cael eu rhoi ar brawf ar hyd y lonydd 10 metr, gyda’r enillydd yn cael ei feirniadu drwy fod y cyflymaf dros nifer o rowndiau. Roedd y lonydd a chyfeiriad y teithio yn cael eu cyfnewid bob amser i sicrhau fod yr amodau yn deg i bawb!

Canlyniadau: Cwch Cyflymaf (Enillwyr Cwpan) Bechgyn Ysgol Eirias Bechgyn; Cwch Cyflymaf (Enillwyr Plât) Ysgol John Bright, Cwch oedd yn edrych orau: Merched Ysgol Castell Alun; Cwch â weithgynhyrchwyd orau: Ysgol John Bright; Cwch mwyaf arloesol Bechgyn Ysgol Castell Alun; Ffolder Gorau Ysgol Clywedog ( Stripes ), Gwobr Amgylcheddol ar gyfer ystyrieth gorau o’r 6 R Ysgol Clywedog.

Yn gyfan gwbl, roedd 35 o fyfyrwyr ac 8 o athrawon wedi cymryd rhan ar y diwrnod, gyda phawb yn cytuno eu bod wedi cael cipolwg go iawn ar beirianneg a gyrfaoedd cysylltiedig, a phob un yn awyddus i gymryd rhan unwaith eto y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â profi diwrnod o hwyl yn yr haul, cafodd y myfyrwyr gyfle i ennill gwobr CREST Efydd yn cydnabod eu dylunio creadigol a gwaith ymchwiliol.

Mae’r gweithgaredd CREST hwn wedi ennill grant gan Lywodraeth Cymru drwy’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol, a oedd yn helpu i ariannu’r paneli solar, moduron solar, a deunyddiau eraill ar gyfer cychod, ac adeiladu y lonydd rasio a gynlluniwyd yn arbennig. Cafodd y prosiect ei ariannu gan yr Academi Beirianneg Frenhinol – Prosiect Cysylltu Athrawon.

Ôl-nodyn: Mae athrawon sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd Her Cychod Solar yn aelodau o Rwydwaith Athrawon yr Academi Frenhinol Peirianneg (RAEng), a gydlynir gan Phil Sutton yn Ysgol Eirias, Bae Colwyn. Mae croeso bob amser i aelodau newydd, boed o Dechnoleg neu adrannau STEM erail. Mae yfarfodydd rhwydwaith yn cael eu cynnal ar ôl ysgol ddwywaith y tymor, ac yn cynnwys sesiynau DPP sydd yn rhoi syniadau newydd ( ac adnoddau rhad ac am ddim ) i gynnal gweithgareddau yn eich ysgol eich hun, naill ai yn ystod amser gwersi, neu mewn digwyddiad amser cinio neu ar ôl ysgol e.e Clwb STEM Cysylltwch â Phil Sutton yn Ysgol Eirias am fwy o fanylion psn@eirias.conwy.sch.uk. Bydd y cyfarfod Rhwydwaith Cysylltu athrawon RAEng nesaf gyda sesiwn DPP yn seiliedig ar yr adnoddau RAEng newydd ‘Rhyddhad Trychineb’, yn cael ei gynnal yn Ysgol Eirias ar ddydd Mercher 4 Rhagfyr o 16:00. Bydd bwyd, diod ac adnoddau am ddim ar gael! Bydd manylion dros dro hefyd yn cael eu rhoi am y prosiect cydweithredol nesaf, sydd â rhywfaint o gyllid sydd ar gael.

nol i'r cychwynMike Leahy a Bws Sŵ yn Ysgol Uwchradd Cantonian

The Zoo BusCyrhaeddodd Dr Mike Leahy yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd mewn bws coch deulawr mawr a oedd yn edrych yn union fel bws Llundain o bellter – ond yn fuan daeth yn amlwg iawn nad oedd hyn yn wir. Unwaith ar fwrdd y bws, roedd disgyblion yn rhyfeddu o ddod ar draws anifeiliaid mewn tanciau gwydr – yn cynnwys sgorpionau, brogaod, geckos a nadroedd miltroed. Seren y sioe ‘ oedd y constrictor BOA, sawl troedfedd o hyd ac yn diosg ei groen – ac roedd rhai disgyblion yn ddigon lwcus i gael y cyfle i ymrin ag ef.

Zoo Bus with boa constrictorDr Mike Leahy yn ddarlledwr gwyddonol adnabyddus a chyhoeddwr, mae ei ddiddordebau’n cynnwys ecoleg, cadwraeth ac, yn arbennig, parasitiaid a chlefydau egsotig. Dechreuodd y diwrnod drwy roi sgwrs rhyngweithiol denamig i ddisgyblion Blwyddyn 8 ar y parasitiaid, gan ddefnyddio llawer o hiwmor tra hefyd yn darparu digon o negeseuon gwyddonol. Mae’n hoff iawn o siarad gyda pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth – ac mae cynnal digwyddiadau fel yr un yma yn sicr yn llwyddo i wneud hynny.

Llawer o ddiolch i Dr Mike Leahy a hefyd i Gweld Gwyddoniaeth Cyf am helpu i wneud y digwyddiad posibl yn ystod Wythnos Bioleg.

nol i'r cychwynQinetiQ a’r Clwb 5 %

5% Club logoMae cwmni awyrofod ac amddiffyn rhyngwladol Prydain, QinetiQ yn aelod blaenllaw o Glwb 5% – ymgyrch i helpu diwydiant y DU i chwarae rhan weithredol wrth fynd i’r afael â’r lefelau cynyddol o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc a’r prinder sgiliau cronig sy’n wynebu’r DU. Nod datganedig cwmnïau sy’n aelodau o Glwb 5 % yw y bydd 5 % o’u gweithlu o fewn pum mlynedd, yn cynnwys prentisiaid, myfyrwyr a noddir ganddynt a/neu raddedigion ar gynlluniau hyfforddi ffurfiol.

Dywed QinetiQ: “Gyda mwy o gyfleoedd a chyfleusterau nag erioed o’r blaen, ei fod yn amser cyffrous i ymuno â QinetiQ. Mae ymuno â ni fel prentis yn ffordd wych i ddatblygu eich sgiliau a dod yn chwarae rhan allweddol mewn busnes yn gyflym. Mae llawer o’n prentisiaid yn mynd ymlaen i fod yn uwch arbenigwyr technegol ar brosiectau sy’n arwain y ffordd yn y gofod,ar dir neu yn y môr. Ceir cyfleoedd eraill hefyd: rydym hefyd yn cynnig prentisiaethau mewn disgyblaethau fel gweinyddu busnes, rheolaeth, rheoli prosiectau, systemau gwybodaeth, gwerthu, peirianneg meddalwedd a rheoli cyfleusterau.”

“Eleni, rydym yn canolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar ein cymeriant prentis. Mae diwylliant ac awyrgylch yn ein safleoedd yn ysbrydoledig a chefnogol, gyda’r holl ganllawiau a gwybodaeth sydd angen arnoch ar flaenau eich bysedd. Yma ym Mhentywyn ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ddau fath gwahanol o brentis: Prentisiaid Llwybrau a Prentisiaid Mecanyddol / Cynllunio.

“Mae’r rhain yn prentisiaethau bedair blynedd ac fel rhan o’r brentisiaeth bydd yr ymgeisydd yn cael ei ryddhau o’r gwaith i fynd i’r coleg lle y byddant yn gweithio tuag at gymhwyster HNC. Bydd y brentisiaeth yn cael eu cynnwys dysgu o fewn y swydd a hefyd yn dysgu yn y coleg.

“Bydd angen i ddarpar ymgeiswyr ddangos ystod o rinweddau personol a phrofia, ac mae y cymwysterau sydd eu hangen yn cynnwys Lefel A Mathemateg, Lefel A Ffiseg neu Gemeg, yn ogystal â TGAU Saesneg Gradd A- C.”

Mwy… www.qinetiq.com/careers/careers-programmes/Pages/apprentices.aspx.

Gweld Gwyddoniaeth Cyf / Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr / Cyfeiriad cofrestru: 8 Cilgant Sant Andreas, Caerdydd CF10 3DD / Rhif Cwmni: 07712605
dyluniad gwefan: www.word-smiths.co.uk